A ddylwn i drefnu taith dywys o flaen llaw? Dylech. Gofynnwn i bawb drefnu taith dywys ymlaen llaw, boed y grŵp yn fawr neu’n fach, er mwyn inni sicrhau bod digon o le i bawb fwynhau y daith.
Ydy’n bosib mynd ar daith dywys heb drefnu o flaen llaw? Os nad ydych chi wedi bwcio o flaen llaw, efallai na fydd lle ichi ar y daith. Dim ond rhif penodol sy’n gallu mynd ar daith dywys bob diwrnod.
Pryd dylwn i gyrraedd? Er mwyn osgoi cael gormod o bobl yn aros, plîs peidiwch â chyrraedd fwy na chwarter awr cyn dechrau eich taith dywys.
Sut galla i drefnu taith dywys? Cliciwch “Bwcio Taith Dywys.”
Alla i newid neu ganslo taith dywys? Gallwch, drwy glicio ar y botwm “Gweld neu Newid Eich Taith Dywys.”
Beth galla i ei wneud os nad oes taith dywys ar gael ar ddyddiau sy’n gyfleus imi? Daliwch ati i edrych. Efallai bydd taith dywys yn dod ar gael wrth i eraill newid neu ganslo eu teithiau nhw.
Bwcio Taith Dywys
Gweld neu Newid Taith Dywys
Lawrlwytho Taflen Daith