Teithiau Tywys Bethel
Dewch ar daith dywys o gwmpas ein swyddfeydd cangen, sy’n aml yn cael eu galw’n Bethel. Mewn llawer o swyddfeydd mae arddangosfeydd hunan-dywys i’w gweld.
Brasil
Gwybodaeth am Deithiau Tywys
Arddangosfeydd
Y Beibl—Y Llyfr a’i Awdur. Mae’r arddangosfa hon yn anrhydeddu Awdur y Beibl, Jehofa Dduw, ac yn pwysleisio thema’r Beibl, sef Teyrnas Dduw. Gall ymwelwyr weld sut mae’r Beibl wedi goroesi’r canrifoedd a sut mae Jehofa wedi’i ddiogelu, yn ogystal â’i neges wreiddiol, er bod gwrthwynebwyr wedi ceisio ei newid.
“Dyma Etifeddiaeth Gweision Jehofa.” Mae’r arddangosfa hon yn dangos sut mae Jehofa wedi bendithio gwaith pregethu am Deyrnas Dduw ym Mrasil ers dros 120 o flynyddoedd. Gall ymwelwyr weld ffrwyth ymchwil ddiweddar sy’n sôn am wybodaeth newydd ynglŷn â chychwyn a thwf y gwaith ym Mrasil er gwaethaf gwrthwynebiad ac erledigaeth.
Cyfeiriad a Rhif Ffôn