Troedio Gwely’r Môr i Bregethu
Ym Môr y Gogledd, yn agos i arfordir gorllewinol talaith Schleswig-Holstein yn yr Almaen, mae tua 300 o bobl yn byw ar ynysoedd bach gwasgaredig a elwir yr Halligen. Sut mae’r bobl hynny’n clywed neges y Beibl gan Dystion Jehofa?—Mathew 24:14.
Mae’r Tystion yn teithio ar fferi i gyrraedd rhai o’r ynysoedd. Er mwyn cysylltu â phobl sy’n byw ar yr ynysoedd eraill, y mae rhaid i grŵp bach o Dystion ddefnyddio dull gwahanol—maen nhw’n cerdded tua phum cilometr (3 milltir) ar draws gwely’r môr. Sut mae hynny’n bosibl?
Manteisio ar Lanw a Thrai’r Môr
Yn llanw a thrai’r môr y mae’r gyfrinach. Bob rhyw chwe awr, bydd lefel Môr y Gogledd yn codi neu ddisgyn gymaint â thri metr (10 tr.)! Pan fydd y llanw ar drai, mae rhannau mawr o wely’r môr yn cael ei dadorchuddio, a gall y Tystion gyrraedd tri o’r ynysoedd ar droed.
Sut fath o daith ydy hon? “Cymerith hi ryw dwy awr i gyrraedd un o’r Halligen,” meddai Ulrich, arweinydd profiadol sy’n tywys y grŵp. “Gan fwyaf, cerddwn yn droednoeth. Dyma’r ffordd fwyaf effeithiol a chyfforddus i groesi gwely’r môr. Ond pan fydd y tywydd yn oer mae pawb yn gwisgo bŵts.”
Mae’r olygfa yn ddigon o ryfeddod. “Gallwch deimlo fel eich bod ar blaned arall,” meddai Ulrich. “Mae rhannau o wely’r môr yn fwdlyd, rhannau eraill yn greigiog, a mannau eraill yn garped o forwellt. Rydych chi’n gweld heidiau o adar y môr, crancod, ac anifeiliaid eraill.” O bryd i’w gilydd bydd rhaid i’r grŵp groesi Priele, dyna enw’r Almaenwyr ar y prillion neu nentydd sy’n dolennu trwy’r mwd wedi i’r llanw fynd allan.
Mae sawl her i’r rhai sy’n mentro ar y daith. Rhybuddia Ulrich: “Maen hawdd i fynd ar goll, yn enwedig pan fo’r nydden neu niwl môr yn disgyn. Felly cwmpawd a dyfais GPS amdani, a phawb i gadw at raglen dynn fel na chawn ni’n dal gan y llanw.”
Ydy hi’n werth yr ymdrech? Mae Ulrich yn adrodd hanes dyn yn ei naw degau sy’n darllen Y Tŵr Gwylio a’r Awake! “Un diwrnod, oedd ein hamser yn eithaf prin, doedd hi ddim yn bosib mynd i weld y dyn. Ond, cyn inni ymadael, dyma’r dyn yn dod ar gefn ei feic i’n dal ni a dweud: ‘Wel, ydw i’n mynd i gael fy nghopi o’r Tŵr Gwylio ’te?’ Wrth gwrs, roedden ni’n fwy na hapus iddo gael copi.”