Cyfarfod a Ddarlledwyd i Bob Cwr o’r Byd
Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol y Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania ddydd Sadwrn 5 Hydref 2013. Roedd 257,294 yn bresennol mewn 21 o wledydd, naill ai’n bersonol neu drwy gyswllt fideo ar y We. Yn nes ymlaen ar yr un penwythnos, gwelwyd ailddarllediad o’r rhaglen gan fwy o’r Tystion. Cyfanswm y nifer a welodd y rhaglen oedd 1,413,676 mewn 31 o wledydd. Hwn oedd y cyfarfod mwyaf erioed o Dystion Jehofa, gan ragori hyd yn oed ar y 1,327,704 a welodd raglen arbennig a gynhaliwyd ym Mecsico a Chanolbarth America 28 Ebrill 2013.
Dechreuodd Tystion Jehofa ddarlledu eu cynadleddau i gynulleidfaoedd trwy’r byd yn y 1920au trwy gyfrwng teleffon a radio. Heddiw trwy’r We gall hyd yn oed rhai sy’n byw mewn ardaloedd anghysbell weld rhaglenni, naill ai’n fyw neu’n fuan wedyn. Mae William, un o Dystion Jehofa yn yr Unol Daleithiau, yn cofio mynd i gynhadledd yn Richmond, Virginia, ym 1942, a gwrando ar y rhaglen drwy gyswllt teleffon. Gan gymharu’r profiad hwnnw â’r cyfarfod blynyddol eleni, dywedodd William: “Rydych chi’n cael gymaint mwy o’r rhaglen wrth weld beth sy’n digwydd. Does dim cymhariaeth mewn gwirionedd.”
Treuliodd aelodau mewn nifer o swyddfeydd cangen Tystion Jehofa filoedd o oriau dros fwy na blwyddyn i drefnu’r darllediad. Ar benwythnos y darllediad, cafodd y rhaglen ei monitro o ganolfan reoli yn Brooklyn, Efrog Newydd. Gweithiodd technegwyr am bedair awr ar hugain wrth i’r rhaglen fynd allan i lefydd mewn 15 cylchfa amser. Dywedodd Ryan, a gafodd ran yn y gwaith i gadw llygad ar y darllediad, “Fe wnaethon ni golli cwsg, ond roedd hi’n werth yr ymdrech pan welon ni gymaint o bobl yn mwynhau’r rhaglen.”