Oriel Luniau—Mae Plant Wrth eu Boddau yn Gwylio’r Fideos
Mae’r gyfres fideo Dod yn Ffrind i Jehofa, sy’n cynnwys caneuon a’r cymeriadau Dafydd a Sara, wedi profi’n boblogaidd dros ben. Mae rhieni a phlant wedi ysgrifennu aton ni i ddweud cymaint maen nhw’n gwerthfawrogi’r fideos. Dyma rai o’r sylwadau y mae plant wedi eu hanfon:
“Diolch am y DVD ‘Listen, Obey, and Be Blessed.’ Dw i’n ei wylio bob dydd efo fy nhedi bêr.”—Zach, 5 oed.
“Mae’r gân newydd yn fy helpu i wybod bod Jehofa yn fy ngharu a’i fod o eisiau i fi weddïo arno unrhyw amser.”—Mikariah, 6 oed.
“Dysgais i fod yn ufudd i fy rhieni ac i gadw fy nheganau. Diolch am wneud y fideo yma ar gyfer plant.”—Nicole, 8 oed.
“Diolch o’r galon am y fideo. Ges i lot o hwyl yn ei wylio. Roedd o mor ddifyr. Dw i’n hoff iawn o’r fideo.”—Mckenzie, 5 oed.
“Dw i wrth fy modd efo’r fideos Dod yn Ffrind i Jehofa. Dw i’n eu gwylio bob dydd. Mae Jehofa yn garedig iawn yn anfon y syniadau yma atoch chi.”—Ava, 8 oed.
“Dw i mor hapus yn gwylio’r fideos. Dw i’n trio dysgu’r caneuon i gyd. Mae’r fideos yn gwneud imi garu Jehofa.”—Devon, 4 oed.
“Dw i methu disgwyl tan y fideo nesaf am Dafydd! Daliwch ati gyda’r gwaith da!”—Vance, 8 oed.
Awstralia—Shiloh, 6 oed
Gwers 12: Dafydd a Sara yn Mynd i’r Bethel
Awstralia—Sienna, 8 oed
Cân 106: Gaining Jehovah’s Friendship
Brasil—Eduardo, 10 oed
Gwers 13: Jehovah Will Help You Be Bold
Yr Almaen—Michele, 11 oed
Gwers 10: Bod yn Garedig a Rhannu
Yr Almaen—Priscilla, 8 oed
Gwers 11: Bod yn Barod i Faddau
Japan—Miku, 7 oed
Gwers 13: Jehovah Will Help You Be Bold
Japan—Tomoaki, 10 oed
Gwers 6: Os Gwelwch yn Dda a Diolch
Mecsico—Samuel, 7 oed
Gwers 9: Jehofa a Greodd Bob Peth
Yr Unol Daleithiau—Adriana, 6 oed
Cân 92: “Preach the Word”
Yr Unol Daleithiau—Anthony, 11 oed
Gwers 2: Gwrando ar Jehofa