Neidio i'r cynnwys

Beibl Sain Am Ddim yn Defnyddio Cannoedd o Ddarllenwyr

Beibl Sain Am Ddim yn Defnyddio Cannoedd o Ddarllenwyr

“Mae’n ddeniadol, yn ysgogi’r meddwl, ac yn ddeinamig.”

“Mae’n dod â’r darlleniad yn fyw.”

“Mae’n swynol! Mae’n rhoi mwy o fywyd i’r ysgrythurau dw i wedi eu darllen o’r blaen.”

Mae’r fath sylwadau yn nodweddiadol gan y rhai sydd wedi gwrando ar recordiadau sain llyfr Mathew, sydd a’r gael yn Saesneg ar jw.org.

Yn y flwyddyn 1978, cynhyrchwyd y fersiwn gyntaf o recordiadau sain y Beibl gan Dystion Jehofa. Mewn amser, cyhoeddwyd recordiadau sain o’r fersiwn yna o’r Beibl, yn rhannol neu yn ei gyfanrwydd, mewn 20 o ieithoedd.

Pan ryddhawyd fersiwn diwygiedig y New World Translation yn 2013, crëwyd yr angen i ddiweddaru recordiadau sain. Ond yn wahanol i’r recordiadau blaenorol, lle roedd tri o ddarllenwyr, mae’r recordiadau newydd yn cynnwys lleisiau gwahanol i fwy na 1,000 o gymeriadau sydd yn y Beibl.

Mae cael amrywiaeth o ddarllenwyr yn helpu’r gwrandawyr i ddychmygu’r sefyllfa sydd wedi ei chofnodi yn y Beibl. Er nad yw’r recordiadau sain yn y Beibl yn ddramatig, sy’n cynnwys effeithiau sain a cherddoriaeth, maen nhw’n dod â’r sefyllfa yn fyw.

Mae prosiect sydd angen cymaint o ddarllenwyr, yn golygu bod rhaid paratoi’n ofalus. I ddechrau, roedd rhaid dyfalu pwy oedd yn siarad ym mhob darn, beth oedd yr ystyr, a’r teimladau oedd yn cael eu cyfleu. Er enghraifft, os oedd apostol yn cael ei ddyfynnu, ond heb ei enwi’n benodol yn y rhan honno o’r Beibl, llais pwy ddylai nhw ei ddefnyddio? Gyda geiriau yn amlygu amheuaeth gellir defnyddio Thomas, wrth drafod agwedd fyrbwyll, gall eu haseinio i Pedr.

Hefyd roedd ystyriaeth wedi’i rhoi i oedran yr unigolyn a ddyfynnir. Pan oedd yr apostol Ioan yn ifanc, roedd angen llais brawd iau; i’r rhannau lle roedd yr apostol Ioan yn oedrannus, defnyddiwyd llais brawd oedd yn hŷn.

Yn ychwanegol i hyn, roedd rhaid cael darllenwyr da. Dewiswyd y mwyafrif o’r rhai sydd yn gwasanaethu yn swyddfa cangen Tystion Jehofa yn yr Unol Daleithiau. Mae cyfweliadau yn cael eu cynnal lle mae darllenwyr yn paratoi ac yn darllen paragraff wedi ei ddewis o flaen llaw o’r cylchgrawn Awake! Maen nhw hefyd yn darllen brawddegau o ddeialog o’r Beibl sy’n cynnwys emosiwn fel digofaint, tristwch, llawenydd, a digalondid. Mae clyweliadau o’r fath yn dangos gallu’r darllenwyr, ac yn helpu i benderfynu pa fath o ddarlleniad sy’n addas ar eu cyfer.

Unwaith mae’r aseiniadau wedi’u gosod, mae’r darllenwyr yn mynd i un o’r stiwdios recordio yn Brooklyn, Patterson, neu Wallkill, lle mae’r llinellau a ddarllenir yn cael eu recordio. Mae’r hyfforddwr yn sicrhau bod y darllenwr yn cyfleu tôn neu ansawdd y llais sy’n addas. Mae’r hyfforddwr a’r darllenwr yn defnyddio sgript arbennig sy’n rhoi canllawiau ynglŷn â seibio a phwysleisio ym mhob darn. Mae’r hyfforddwr hefyd yn defnyddio recordiadau o’r argraffiad blaenorol o’r New World Translation fel canllaw.

Mae peth o’r gwaith yn cael ei adolygu yn y stiwdio ar adeg recordio. Er mwyn cael y darlleniad gorau bosibl , mae’n rhaid i’r golygydd ar adegau gysylltu geiriau a brawddegau o ambell i ddarn recordio.

Does wybod pa mor hir y cymerir i orffen recordiadau o adolygiad 2013 o’r New World Translation yn ei gyfanrwydd. Sut bynnag, fel mae pob llyfr yn cael ei gwblhau, fe fydd yn cael ei lwytho ar dudalen Saesneg jw.org, yna bydd eicon sain i’w weld wrth ymyl enw llyfr y Beibl ar y dudalen gyda’r teitl “Books of the Bible.”