Dewch i Weld Bethel yr Unol Daleithiau
“Nawr mae gennyn ni atgofion melys o’n hymweliad i’r Bethel, atgofion i’w trysori am byth.” Dyna sylwadau un cwpl priod o Fanwatw wedi iddyn nhw ymweld ag adeiladau Tystion Jehofa yn yr Unol Daleithiau. Mae llawer o’r miloedd sy’n ymweld â’r lle bob blwyddyn â’r un teimladau.
Ydych chi wedi ymweld â Bethel yr Unol Daleithiau? Os nad ydych, mae croeso ichi wneud hynny.
Beth y gwelwch chi yn y tri phrif leoliad?
Pencadlys Byd-eang, Warwick, Efrog Newydd. Gallwch fynd o gwmpas tair arddangosfa ar eich pen eich hun. Thema un yw “Y Beibl a’r Enw Dwyfol,” sy’n cynnwys Beiblau prin ac sy’n dangos sut mae enw Duw wedi cael ei gadw yn yr Ysgrythurau. Mae’r arddangosfa “Pobl yn Dwyn Enw Jehofa,” yn cyflwyno hanes Tystion Jehofa mewn ffordd weladwy. Mae’r drydedd arddangosfa, “Y Pencadlys-Ffydd ar Waith,“ yn esbonio trefn Tystion Jehofa i gyfarfod, i astudio’r Beibl, i rannu neges y Beibl ag eraill, ac i ddangos cariad tuag at ei gilydd. Mae dewis hefyd ichi fynd ar daith dywys o gwmpas yr Adeilad Swyddfa/Gwasanaethau a gerddi Warwick am 20 munud.
Canolfan Addysg Watchtower, Patterson, Efrog Newydd. Dysgwch am yr ysgolion sydd yno, fel Ysgol Gilead a’r Ysgol ar Gyfer Aelodau Pwyllgorau Cangen a’u Gwragedd. Byddwch chi hefyd yn gweld arddangosfeydd a fideos am y gwaith sy’n cael ei wneud yn y swyddfeydd, gan gynnwys yr adran Gelf a’r Gwasanaethau Sain a Fideo.
Argraffu a Chludo Llenyddiaeth, Wallkill, Efrog Newydd. Ymunwch ar daith tywys i weld sut mae Beiblau a llenyddiaeth Feiblaidd yn cael eu hargraffu, eu rhwymo, a’u cludo i gynulleidfaoedd dros yr Unol Daleithiau, y Caribî, a rhannau eraill o’r byd.
Sut rydw i’n sicrhau taith dywys?
Cyn ichi drefnu i ddod, llenwch gais ar-lein oddi ar ein tudalen Gwybodaeth am Swyddfeydd a Theithiau Tywys. Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybdoaeth ychwanegol am ein hadeiladau yn yr Unol Daleithiau, gan gynnwys eu lleoliad a hyd pob taith dywys.
Pwy sy’n arwain y teithiau tywys?
Rhai sy’n gweithio mewn gwahanol adrannau’r Bethel sy’n arwain y teithiau. Maen nhw’n ystyried hyn yn rhan o’u gwaith o gefnogi addysg theocrataidd byd-eang. Erbyn mis Mai 2014, roedd dros 5,000 o bobl yn gweithio yn y tri lleoliad, a dros 3,600 ohonyn nhw wedi eu hyfforddi i arwain teithiau tywys. Mae’r teithiau hyn ar gael mewn tua 40 o ieithoedd.
Faint mae’r teithiau yn eu costio?
Maen nhw’n rhad ac am ddim.
Ai Tystion Jehofa yn unig sy’n cael ymweld?
Na, mae’r ymwelwyr yn cynnwys llawer nad ydyn nhw’n Dystion ac maen nhw hefyd yn manteisio o weld yr ymdrechion trefnus sydd yn gefn i waith byd-eang Tystion Jehofa.
Wedi iddi ymweld â Patterson, dywedodd gwraig Fwslemaidd o India: “Buaswn i wrth fy modd i fod yn rhan o hyn. Diolch o galon am ddangos gymaint o barch tuag ata’ i.”
Oes croeso i blant?
Oes, wrth gwrs! Gall ymweliad gael effaith dwys ar rai ifanc. Ysgrifennodd John, ymwelydd o’r Unol Daleithiau: “Ers inni ddod adref mae’r plant wedi bod yn siarad am y daith yn ddi-baid. Cyn y daith, roedd gweithio ym Methel yn syniad niwlog, ond nawr mae’n nod go iawn iddyn nhw.”
A yw’n bosibl i ymweld â swyddfeydd ac adeiladau Tystion Jehofa yng ngwledydd eraill?
Ydy. Mae teithiau ar gael mewn dwsinau o wledydd. Chwiliwch am leoliad ar y dudalen Gwybodaeth am Swyddfeydd a Theithiau Tywys. Mae croeso cynnes ichi ddod i deithio un o swyddfeydd cangen Tystion Jehofa.