Beth Yw Safbwynt Tystion Jehofa ar Ysgariad?
Rydyn ni’n cadw at safonau’r Beibl ynglŷn â phriodi ac ysgaru. Roedd Duw yn bwriadu i briodas fod yn drefniant rhwng dyn a dynes a fyddai’n para am byth. Yr unig sail Ysgrythurol dros ysgaru ydy anfoesoldeb rhywiol.—Mathew 19:5, 6, 9.
A ydy Tystion Jehofa yn ceisio helpu cyplau sydd â phroblemau yn eu priodas?
Ydyn, mewn sawl ffordd:
Cyhoeddiadau. Mae ein cyhoeddiadau yn aml yn cynnwys gwybodaeth a all gryfhau priodasau, hyd yn oed y rhai sy’n ymddangos eu bod nhw heb obaith. Er enghraifft, gweler yr erthyglau “Maintaining Commitment in Your Marriage,” “How to Forgive,” a “Rebuilding Trust in a Marriage.”
Cyfarfodydd. Rydyn ni’n trafod cyngor ymarferol am briodas yn ystod ein cyfarfodydd, ein cynulliadau, a’n cynadleddau.
Henuriaid. Mae’r henuriaid yn y gynulleidfa yn cynnig help i gyplau priod, gan dynnu eu sylw at adnodau fel Effesiaid 5:22-25.
A oes rhaid i henuriaid roi caniatâd cyn i Dyst ysgaru?
Nag oes. Hyd yn oed os ydy cwpl yn gofyn i’r henuriaid eu helpu nhw â’u problemau priodasol, nid oes gan yr henuriaid yr awdurdod i ddweud wrth y cwpl beth i’w wneud. (Galatiaid 6:5) Er hynny, os ydy rhywun yn dewis ysgaru heb sail Ysgrythurol, dydy ef ddim yn rhydd yn Ysgrythurol i ailbriodi.—1 Timotheus 3:1, 5, 12.
Beth yw safbwynt Tystion Jehofa ar wahanu?
Mae’r Beibl yn annog cyplau priod i aros gyda’i gilydd hyd yn oed o dan amgylchiadau anodd. (1 Corinthiaid 7:10-16) Gall llawer o broblemau gael eu datrys drwy weddïo’n daer, drwy roi egwyddorion y Beibl ar waith, a thrwy ddangos cariad.—1 Corinthiaid 13:4-8; Galatiaid 5:22.
Gwaetha’r modd, mewn sefyllfaoedd eithriadol, fel y rhai canlynol, mae rhai Cristnogion wedi dewis gwahanu o’u cymar:
Gwrthod cynnal y teulu.—1 Timotheus 5:8.
Camdriniaeth gorfforol ddifrifol.—Salm 11:5.
Peryglu bywyd ysbrydol. Er enghraifft, petasai cymar yn ceisio gorfodi Tyst i dorri un o orchmynion Duw, efallai byddai’r Tyst yn dod i’r casgliad mai gwahanu yw’r unig ffordd i “ufuddhau i Dduw fel rheolwr yn hytrach nag i ddynion.”—Actau 5:29.