Sut Mae Tystion Jehofa yn Cael Eu Hyfforddi ar Gyfer Eu Gweinidogaeth?
Mae Tystion Jehofa yn cael hyfforddiant parhaus i’w helpu ym mhob agwedd ar eu bywydau Cristnogol. Mae hyn yn cynnwys y gwaith gofynnodd Iesu i’w ddilynwyr ei wneud, sef cyhoeddi’r newyddion da am Deyrnas Dduw a dysgu pobl eraill. (Mathew 24:14; 28:19, 20) Rydyn ni’n cael hyfforddiant yn ein cyfarfodydd bob wythnos, ac yn ein cynadleddau blynyddol a’n cynulliadau. Mae Tystion Jehofa sydd â chyfrifoldebau yn y cynulleidfaoedd neu yn y gyfundrefn yn cael mwy o hyfforddiant ar gyrsiau Beiblaidd arbennig.
Yn yr erthygl hon
Pa hyfforddiant mae Tystion Jehofa yn ei gael?
Cyfarfodydd y cynulleidfaoedd. Bob wythnos mae dau gyfarfod yn cael eu cynnal yn ein haddoldai, a elwir yn Neuaddau’r Deyrnas. Fel arfer, mae un cyfarfod yn cael ei gynnal ganol wythnos, a’r llall ar y penwythnos. Mae’r ddau ar agor i’r cyhoedd, a does dim casgliadau.
Cyfarfod canol wythnos. Rydyn ni’n cael ein hyfforddi i ddarllen yn well, i gynnal sgwrs, i siarad yn gyhoeddus, i bregethu, ac i ddysgu. Rydyn ni’n dysgu drwy anerchiadau, trafodaethau, dangosiadau, a chyflwyniadau fideo. Mae hyn yn ein helpu ni i fod yn fwy effeithiol wrth rannu neges y Beibl ag eraill a helpu’r rhai sydd â diddordeb i astudio’r Beibl. Mae pawb sy’n dod i’r cyfarfodydd yn elwa ar yr hyfforddiant. Yn fwy na dim, mae ein cyfarfodydd yn cryfhau ein ffydd yn Nuw a’n cariad tuag ato Ef ac at ein cyd-Gristnogion.
Cyfarfod penwythnos. Mae dwy ran i’r cyfarfod hwn. Mae’n dechrau gydag anerchiad a fydd o ddiddordeb i’r cyhoedd. Mae ail ran y cyfarfod yn drafodaeth gwestiwn ac ateb sy’n defnyddio erthygl o rifyn astudio’r Tŵr Gwylio. a Mae’r erthyglau hyn yn trafod ac yn esbonio pynciau ac egwyddorion o’r Beibl sydd yn ein helpu ni yn ein gweinidogaeth ac yn ein bywydau bob dydd.
Cynulliadau a chynadleddau. Bob blwyddyn rydyn ni’n cynnal tri digwyddiad mawr, lle mae llawer o gynulleidfaoedd yn dod at ei gilydd. Mae thema benodol i bob un, ac rydyn ni’n mwynhau anerchiadau, dangosiadau, cyfweliadau a fideos. Fel ein cyfarfodydd wythnosol, mae cynulliadau a chynadleddau yn ein helpu ni i ddeall y Beibl yn well ac i fod yn fwy effeithiol wrth ddysgu eraill am y newyddion da. Unwaith eto, mae’r digwyddiadau hyn ar agor i’r cyhoedd, a does dim casgliadau.
Cyrsiau Beiblaidd ar gyfer Tystion Jehofa
Mae rhai Tystion Jehofa yn cael gwahoddiad i fynd ar gyrsiau i gael hyfforddiant pellach. Pa fath o gyrsiau ydy’r rhain? Beth ydy pwrpas y cyrsiau hyn ac am faint maen nhw’n para? A phwy all fynd?
Ysgol Arloesi
Pwrpas: Hyfforddi gweinidogion llawn-amser, a elwir yn arloeswyr, b i fod yn fwy effeithiol yn y gwaith pregethu a dysgu. Mae’r cwrs yn cynnwys trafodaethau dosbarth, dangosiadau, anerchiadau a gweithdai.
Hyd: Chwe diwrnod.
Cofrestru: Mae’r rhai sydd wedi arloesi ers blwyddyn yn cael gwahoddiad. Mae’r rhai sydd wedi arloesi ers blynyddoedd yn cael gwahoddiad bob pum mlynedd.
Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas
Pwrpas: Rhoi hyfforddiant arbennig i weinidogion llawn amser profiadol. Mae myfyrwyr yn hogi eu sgiliau pregethu a dysgu, ac yn astudio’r Beibl yn fanwl. Ar ddiwedd y cwrs, maen nhw’n cael eu hanfon i ardaloedd lle mae angen mwy o bregethwyr.
Hyd: Dau fis.
Cofrestru: Gall arloeswyr wneud cais i fynd os ydyn nhw’n cwrdd â rhai gofynion ac os ydyn nhw’n gallu symud i le bynnag y mae eu hangen.
Ysgol ar Gyfer Henuriaid
Pwrpas: Helpu henuriaid c i ofalu am eu cyfrifoldebau yn y gynulleidfa, gan gynnwys dysgu a bugeilio, ac i gryfhau eu cariad tuag at Dduw a’u cyd-Gristnogion.—1 Pedr 5:2, 3.
Hyd: Pum diwrnod.
Cofrestru: Mae henuriaid newydd eu penodi yn cael gwahoddiad, yn ogystal â henuriaid profiadol nad ydyn nhw wedi gwneud y cwrs ers pum mlynedd.
Ysgol ar Gyfer Arolygwyr Cylchdaith a’u Gwragedd
Pwrpas: Hyfforddi gweinidogion teithiol a elwir yn arolygwyr cylchdaith, d i fod yn fwy effeithiol yn eu gwaith. (1 Timotheus 5:17) Mae’r cwrs hefyd yn helpu’r henuriaid hyn a’u gwragedd i ddeall y Beibl yn well.
Hyd: Un mis.
Cofrestru: Mae arolygwyr cylchdaith newydd a’u gwragedd sydd wedi gwasanaethu am flwyddyn yn cael gwahoddiad. Wedyn byddan nhw’n cael gwahoddiad bob rhyw bum mlynedd.
Ysgol Gweinidogaeth y Deyrnas
Pwrpas: Helpu henuriaid a gweision y gynulleidfa e i ofalu am eu cyfrifoldebau yng ngoleuni sefyllfaoedd newydd, tueddiadau diweddar, ac anghenion presennol. (2 Timotheus 3:1) Mae’r cwrs hwn yn cael ei gynnal bob dwy neu dair blynedd.
Hyd: Yn amrywio, ond un diwrnod gan amlaf.
Cofrestru: Arolygwyr cylchdaith, henuriaid, a gweision y gynulleidfa.
Ysgol ar Gyfer Aelodau Bethel
Pwrpas: Helpu aelodau Bethel f i wneud eu gwaith yn llwyddiannus ac i gryfhau eu cariad at Dduw ac at ei gilydd.
Hyd: Pum diwrnod a hanner.
Cofrestru: Mae gofyn i bob aelod newydd yn Bethel gwblhau’r cwrs. Gall y rhai sydd wedi gweithio yn y Bethel ers blynyddoedd a heb wneud y cwrs ers pum mlynedd gael gwahoddiad arall.
Ysgol Feiblaidd Gilead y Watchtower
Pwrpas: Meithrin dealltwriaeth well a chariad dyfnach at Air Duw yn y myfyrwyr, a’u helpu nhw i roi’r hyn maen nhw’n ei ddysgu ar waith. (1 Thesaloniaid 2:13) Yn ddynion a menywod, mae’r Cristnogion aeddfed sy’n mynd i Gilead yn help mawr i gyfundrefn Jehofa ac i’r gwaith o ddysgu pobl am y Beibl ym mhob cwr o’r byd. Gall graddedigion gael eu hanfon i weithio yn y maes neu mewn swyddfa gangen, naill ai yn eu gwledydd eu hunain neu mewn gwledydd eraill.
Hyd: Pum mis.
Cofrestru: Mae swyddfeydd cangen yn gwahodd rhai gweinidogion llawn amser i wneud cais. Mae’r cwrs yn cael ei gynnal yn yr Unol Daleithiau, yng Nghanolfan Addysg y Watchtower, yn Patterson, Efrog Newydd.
Ysgol ar Gyfer Aelodau Pwyllgorau Cangen a’u Gwragedd
Pwrpas: Hyfforddi aelodau Pwyllgor y Gangen g i arolygu’r gwaith sy’n cael ei wneud mewn swyddfeydd cangen, ynghyd â gweithgareddau ysbrydol Tystion Jehofa yn y wlad neu’r gwledydd dan ofal eu cangen nhw.
Hyd: Dau fis.
Cofrestru: Mae Pencadlys Tystion Jehofa yn gwahodd rhai aelodau Pwyllgorau Cangen a’u gwragedd i fynd i’r ysgol, sy’n cael ei gynnal yng Nghanolfan Addysg y Watchtower, yn Patterson, Efrog Newydd.
Beth ydy sail yr hyfforddiant mae’r Tystion yn ei gael?
Prif werslyfr yr hyfforddiant mae Tystion Jehofa’n ei gael ydy’r Beibl. Rydyn ni’n credu bod y Beibl wedi ei ysbrydoli gan Dduw a bod y cyngor ynddo yn fuddiol ar gyfer pob agwedd ar ein bywydau fel Cristnogion.—2 Timotheus 3:16, 17.
Ydy Tystion Jehofa yn gorfod talu am hyfforddiant?
Nac ydyn. Mae’r hyfforddiant ar gael am ddim. Mae gweithgareddau Tystion Jehofa yn cael eu cefnogi drwy gyfraniadau gwirfoddol.—2 Corinthiaid 9:7.
a Mae’r Beibl, ac adnoddau i helpu pobl i astudio’r Beibl, gan gynnwys fideos, ar gael ar ein gwefan, jw.org.
b Arloeswyr ydy Tystion Jehofa sy’n gallu treulio nifer penodol o oriau bob mis yn rhannu’r newyddion da ag eraill. Maen nhw’n ddynion neu’n fenywod sydd wedi eu bedyddio ac sydd ag enw da.
c Mae’r henuriaid yn ddynion sydd wedi bod yn Gristnogion ffyddlon ers blynyddoedd. Maen nhw’n defnyddio’r Beibl i ddysgu pobl Jehofa, ac yn eu bugeilio drwy eu helpu a’u calonogi. Dydyn nhw ddim yn cael eu talu am eu gwaith.
d Gweinidog llawn amser ydy arolygwr cylchdaith. Mae’n ymweld â chynulleidfa wahanol yn ei gylchdaith bob wythnos. Mae’n calonogi’r gynulleidfa drwy roi anerchiadau a mynd yn y weinidogaeth gyda’r brodyr a chwiorydd.
e Mae gweision y gynulleidfa’n gwneud amrywiaeth o dasgau ymarferol i helpu’r brodyr a chwiorydd. Mae hyn yn caniatáu i’r henuriaid dreulio mwy o amser yn dysgu ac yn bugeilio.
f Bethel ydy’r enw ar gyfer swyddfeydd cangen Tystion Jehofa. Mae’r gweinidogion llawn amser yno yn gweithio i gefnogi gwaith y Tystion yn yr ardal dan ofal y gangen.
g Mae Pwyllgor Cangen yn cynnwys tri neu fwy o ddynion cymwys.