Neidio i'r cynnwys

MEHEFIN 22, 2021
YNYSOEDD Y PHILIPINAU

Tystion Jehofa yn Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd yn yr Iaith Bicoleg

Tystion Jehofa yn Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd yn yr Iaith Bicoleg

Ar Fehefin 20, 2021, cafodd Cyfieithiad y Byd Newydd ei ryddhau yn yr iaith Bicoleg. Gwnaeth y Brawd Denton Hopkinson, aelod o Bwyllgor Cangen Ynysoedd y Philipinau, ryddhau’r Beibl yn ystod cyfarfod rhithiol arbennig a oedd yn cael ei ffrydio i gyhoeddwyr mewn 97 o gynulleidfaoedd.

Prif Ffeithiau’r Prosiect

  • Mae Bicoleg yn cael ei siarad gan tua 5.8 miliwn o bobl sy’n byw mewn pum talaith o’r Philipinau: Albay, Camarines Norte, Camarines Sur, Catanduanes, a Sorsogon

  • Hon yw pumed prif iaith y Philipinau

  • Mae dros 5,800 o gyhoeddwyr yn gwasanaethu mewn cynulleidfaoedd Bicoleg eu hiaith

  • Cymerodd 2 dîm o gyfieithwyr saith mlynedd a hanner i gwblhau’r prosiect

Esboniodd un aelod o’r tîm cyfieithu: “Gan fod ’na nifer o wahanol dafodieithoedd yn yr iaith Bicoleg, cafodd ymdrech arbennig ei gwneud i ddefnyddio geirfa sy’n cael ei deall gan y mwyafrif yn y fro Bicoleg.”

Dywedodd cyfieithydd arall: “’Dyn ni’n hyderus y bydd iaith gyfoes a chlir y fersiwn hwn yn ei gwneud hi’n haws i ddarllenwyr deall ystyr testun y Beibl.”

Yn y Philipinau, mae fersiwn cyflawn o Cyfieithiad y Byd Newydd ar gael mewn chwe iaith frodorol arall: Cebwano, Hiligainoneg, Iloco, Pangasinan, Tagalog, a Warai-Warai.

Llawenhawn gyda’n brodyr a’n chwiorydd Bicoleg eu hiaith dros y lansiad diweddar hwn. Rydyn ni’n hyderus y bydd y Beibl hwn yn helpu mwy o bobl i foli Jehofa a chael bywyd llawen am byth.—Salm 22:26.