MEDI 13, 2023
SBAEN
Rhyddhau Y Newyddion Da yn ôl Mathew ac Actau’r Apostolion Mewn Tair Iaith yn Sbaen
Ar 2 Medi, 2023, cafodd Y Newyddion Da yn ôl Mathew ac Actau’r Apostolion eu rhyddhau gan Dystion Jehofa mewn tair iaith: Basgeg, Galiseg, a Falenseg. Cafodd brodyr a chwiorydd o 42 gynulleidfa wahoddiad i fynd i gyfarfodydd arbennig a gynhaliwyd mewn ardaloedd yn Sbaen lle mae’r ieithoedd hyn yn cael eu siarad. Yn dilyn y cyhoeddiad, roedd y llyfrau hyn o’r Beibl ar gael yn syth i’w lawrlwytho mewn fformat digidol yn y tair iaith. Bydd copïau ar gael mewn print pan fydd llyfrau’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol i gyd wedi cael eu cyfieithu.
Basgeg
Cafodd Y Newyddion Da yn ôl Mathew ac Actau’r Apostolion eu rhyddhau yn yr iaith Fasgeg mewn Neuadd y Deyrnas yn ninas Vitoria-Gasteiz gan y Brawd John Bursnall, sydd yn aelod o Bwyllgor y Gangen yn Sbaen. Roedd tua 216 o bobl yn bresennol, gyda 353 o bobl eraill yn cysylltu drwy fideo-gynadledda. Dyma’r tro cyntaf i ran o Cyfieithiad y Byd Newydd fod ar gael yn yr iaith Fasgeg.
Heddiw mae tua 1.2 miliwn o bobl yn siarad Basgeg yn Sbaen a de Ffrainc. Mae 233 o gyhoeddwyr sy’n siarad Basgeg yn gwasanaethu mewn pedair cynulleidfa, dau grŵp, a thri rhag-grŵp yn Sbaen.
Dywedodd un brawd sy’n siarad Basgeg fod y geiriau “Hwn yw fy Mab annwyl, sy’n fy mhlesio i’n fawr iawn,” ym Mathew 3:17, wedi cyffwrdd â’i galon. Esboniodd: “Mae Cyfieithiad y Byd Newydd yn defnyddio’r gair kutsuna i gyfieithu ‘annwyl.’ Yn yr iaith Fasgeg, mae’r gair yn disgrifio perthynas agos ac arbennig o dyner. Mae’n cyfleu’r cariad dwys sydd gan Jehofa at ei Fab mor eglur.”
Galiseg
Yn y Palacio de Congresos e Exposicións de Galicia yn Santiago de Compostela, fe wnaeth y Brawd Jürgen Weyand, sydd yn aelod o Bwyllgor y Gangen yn Sbaen, ryddhau Y Newyddion Da yn ôl Mathew ac Actau’r Apostolion yn yr Aliseg. Roedd 611 yn bresennol a 552 o bobl eraill yn gwylio’r rhaglen drwy fideo-gynadledda. Mae mwy na dwy filiwn o siaradwyr Galiseg yn Sbaen. Mae bron i 1,000 o frodyr a chwiorydd yn gwasanaethu mewn 18 o gynulleidfaoedd Galiseg eu hiaith ledled y wlad.
Dywedodd un chwaer: “Mae Cyfieithiad y Byd Newydd yn defnyddio’r un Galiseg dw i’n ei defnyddio wrth siarad gyda fy nheulu. Ac mae’n swnio mor naturiol o’i ddarllen yn uchel.”
Falenseg
Cafodd Y Newyddion Da yn ôl Mathew ac Actau’r Apostolion eu rhyddhau yn yr iaith Falenseg gan y Brawd Andrés Mayor, sydd yn aelod o Bwyllgor y Gangen yn Sbaen. Roedd 595 o bobl yn y gynulleidfa yn y Neuadd Cynulliad yn Benidorm, a 702 o rai eraill yn gwylio’r rhaglen drwy fideo-gynadledda. Mae rhyw 2.5 miliwn o bobl yn siarad Falenseg. Mae mwy na 750 o frodyr a chwiorydd yn gwasanaethu mewn 15 o gynulleidfaoedd Falenseg eu hiaith ledled Sbaen.
Cafodd y Beibl ei gyfieithu i’r Falenseg am y tro cyntaf ar ddechrau’r bymthegfed ganrif. “Hyd yn hyn, nid yw enw Jehofa wedi ymddangos mewn unrhyw gyfieithiad Falenseg,” meddai un brawd. “Mae’n gyffrous imi fedru dangos adnodau o’r Beibl sy’n cynnwys enw Jehofa i bobl sy’n siarad Falenseg.”
Rydyn ni’n llawenhau gyda’n brodyr a chwiorydd sy’n siarad Basgeg, Galiseg, a Falenseg am gael y llyfrau hyn o’r Beibl yn eu hieithoedd nhw. Rydyn ni’n ffyddiog y bydd y cyhoeddiadau hyn o les mawr iddyn nhw ac i eraill sydd eisiau “cael gwybodaeth gywir am y gwir.”—1 Timotheus 2:4.