Neidio i'r cynnwys

GORFFENNAF 10, 2023
SAMBIA

Rhyddhau Llyfr Mathew yn Iaith Arwyddion Sambia

Rhyddhau Llyfr Mathew yn Iaith Arwyddion Sambia

Ar Orffennaf 1, 2023, gwnaeth y Brawd Ian Jefferson, aelod o Bwyllgor Cangen Sambia, ryddhau llyfr Mathew yn iaith Arwyddion Sambia (ZAS) yn ystod rhaglen arbennig a gynhaliwyd yn Neuadd Cynulliad yn Lusaka, Zambia. Roedd 922 o bobl yn bresennol. Dyma oedd y tro cyntaf i lyfr o’r Beibl gael ei ryddhau yn yr iaith hon. Mae nawr ar gael i’w lawrlwytho ar jw.org ac yn yr ap JW Library Sign Language.

Cyfieithwyr yn y stiwdio recordio

Cafodd y gynulleidfa ZAS gyntaf ei ffurfio ym Mawrth 2008. Sefydlwyd y tîm cyfieithu cyntaf yn swyddfa’r gangen yn Lusaka yn 2012. Heddiw, mae bron i 500 o gyhoeddwyr yn gwasanaethu yn y wlad mewn 16 cynulleidfa ZAS, ac 11 grŵp.

Pan gafwyd y llyfr ei ryddhau, darllenodd y Brawd Jefferson Mathew 18:22 er mwyn egluro bod y cyfieithiad hwn yn symlach ac yn gliriach. Esboniodd fod yr adnod hon yn cynnwys 18 gair yn y cyfieithiad Saesneg. Byddai cyfieithiad llythrennol o’r geiriau hynny yn anodd i siaradwyr ZAS eu deall. Ond, mae’r un syniad yn cael ei mynegi gyda dim ond dau arwydd ZAS. Dywedodd: “Mae cyfieithiad cryno a syml o’r fath yn ei gwneud hi’n haws i wylwyr ddilyn, ddeall, ac elwa ar Air Duw.”

Mae’r rhyddhad o lyfr Mathew yn ZAS yn rhoi tystiolaeth ychwanegol bod Jehofa yn ‘dod ag achubiaeth i bobl o bob math.’—Titus 2:11.