RHAN 5
Tro yn ôl at y Bugail Sy’n Gofalu Amdanat Ti
Oeddet ti’n gallu uniaethu ag un neu fwy o’r heriau a gafodd eu trafod yn y llyfryn hwn? Os felly, dwyt ti ddim ar dy ben dy hun. Mae llawer o weision ffyddlon Duw—yn amser y Beibl ac yn ein hamser ni—wedi delio â heriau tebyg. Fel y cawson nhw help gan Jehofa i ddod dros eu heriau, fe gei dithau hefyd.
Bydd Jehofa yn bendant yno wrth iti droi’n ôl ato
Troi yn ôl at Jehofa yw’r peth gorau gallet ti ei wneud. Pam? Byddi di’n gwneud calon Jehofa’n hapus. (Diarhebion 27:11) Fel rwyt ti’n gwybod, mae gan Jehofa deimladau, felly mae ein gweithredoedd yn cael effaith arno. Wrth gwrs, dydy Jehofa ddim yn ein gorfodi i’w garu a’i wasanaethu. (Deuteronomium 30:19, 20) Disgrifiodd un ysgolhaig Beiblaidd y sefyllfa fel hyn: “Does dim handlen ar du allan drws y galon ddynol. Mae’n rhaid ei agor o’r tu mewn.” Drwy addoli Jehofa â chalon yn llawn cariad, gallwn ni ddewis agor y drws hwnnw. Pan wnawn ni hynny, byddwn ni’n rhoi anrheg werthfawr iddo—ein ffyddlondeb—ac yn dod â llawenydd mawr i’w galon. Y gwir amdani yw, does dim byd all gymharu â’r hapusrwydd a gawn o addoli Jehofa—addoliad mae’n sicr yn ei haeddu.—Actau 20:35; Datguddiad 4:11.
Ar ben hynny, pan fyddi di’n ailddechrau dy addoliad Cristnogol, bydd dy angen ysbrydol yn cael ei fodloni. (Mathew 5:3) Ym mha ffordd? Mae pobl o gwmpas y byd yn gofyn iddyn nhw’u hunain, ‘Pam ’dyn ni yma?’ Maen nhw’n ysu am gael yr atebion i gwestiynau am bwrpas bywyd. Mae gan bobl yr angen hwnnw am mai dyna sut cawson nhw eu creu gan Jehofa. Cawson ni’n dylunio ganddo i gael boddhad o’i wasanaethu. Does dim byd yn gallu ein gwneud ni’n fwy bodlon na gwybod ein bod ni’n gwasanaethu Jehofa allan o gariad.—Salm 63:1-5.
Plîs cofia fod Jehofa eisiau iti ddod yn ôl ato. Sut gelli di fod yn sicr? Ystyria hyn: Cafodd y llyfryn hwn ei baratoi’n ofalus gyda llawer o weddïau. Efallai cest ti’r llyfryn gan henuriad Cristnogol neu gyd-grediniwr arall. Ac wedyn, cest ti dy sbarduno i’w ddarllen ac i ymateb i’w neges. Mae hyn i gyd yn profi nad ydy Jehofa wedi anghofio amdanat ti. I’r gwrthwyneb, mae ef yn dy dynnu yn ôl ato mewn ffordd dyner.—Ioan 6:44.
Gallwn ni gael cysur o wybod nad ydy Jehofa byth yn anghofio ei weision coll. Dyna beth daeth chwaer o’r enw Donna i’w werthfawrogi. Dywedodd hi: “O’n i wedi crwydro’n ara’ deg oddi wrth y gwirionedd, ond byddwn i’n aml yn myfyrio ar Salm 139:23, 24, sy’n dweud: ‘Archwilia fi, O Dduw, i weld beth sydd ar fy meddwl; treiddia’n ddwfn, a deall fel dw i’n poeni. Edrych i weld a ydw i’n gwneud rhywbeth o’i le, ac arwain fi ar hyd yr hen lwybr.’ Oeddwn i’n gwybod nad o’n i’n perthyn i’r byd—do’n i erioed wedi ffitio mewn yno go iawn—ac o’n i’n gwybod mai yng nghyfundrefn Jehofa o’n i angen bod. Dechreuais weld nad oedd Jehofa erioed wedi fy ngadael i; o’n i jest angen ffeindio fy ffordd yn ôl ato fo. A dw i mor falch fy mod i wedi gwneud hynny!”
“Dechreuais weld nad oedd Jehofa erioed wedi fy ngadael i; o’n i jest angen ffeindio fy ffordd yn ôl ato fo”
Gweddïwn yn daer y byddi dithau hefyd yn cael “bod yn llawen yn yr ARGLWYDD” unwaith eto. (Nehemeia 8:10) Wnei di byth ddifaru troi’n ôl at Jehofa.