Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 45

Croesi’r Iorddonen

Croesi’r Iorddonen

EDRYCHA ar yr Israeliaid yn croesi’r Iorddonen! Ond ble mae’r dŵr? Yr adeg yma o’r flwyddyn, mae’r tywydd yn wlyb iawn. Mae’r afon wedi bod yn llifo’n gryf, ond nawr, mae’r dŵr i gyd wedi diflannu! Mae’r Israeliaid yn croesi ar dir sych yn union fel y gwnaethon nhw wrth groesi’r Môr Coch. I ble’r aeth yr holl ddŵr? Gad inni weld.

Pan ddaeth hi’n amser i groesi’r afon, gofynnodd Jehofa i Josua ddweud wrth y bobl: ‘Dylai’r offeiriaid sy’n cludo arch y cyfamod fynd o’n blaenau. Cyn gynted ag y byddan nhw’n rhoi eu traed yn y dŵr, bydd yr afon yn peidio â llifo.’

Felly, cododd yr offeiriaid arch y cyfamod a cherdded o flaen y bobl. Pan gyrhaeddon nhw lan yr Iorddonen, roedd y dŵr yn llifo’n gryf ac yn gyflym. Ond fe gerddon nhw i mewn i’r afon. Cyn gynted ag yr oedd eu traed yn cyffwrdd â’r dŵr, peidiodd y dŵr â llifo! Gwyrth oedd hon. I fyny’r afon, roedd Jehofa wedi cronni’r dyfroedd. Ymhen fawr o dro, roedd gwely’r afon yn sych!

Cerddodd yr offeiriaid a oedd yn cludo’r arch i ganol gwely sych yr afon. Wyt ti’n gallu eu gweld nhw yn y llun? Arhoson nhw yno nes bod yr Israeliaid i gyd wedi croesi ar dir sych!

Pan oedd pawb wedi croesi, gofynnodd Jehofa i Josua ddewis deuddeg o ddynion cryfion, a dweud wrthyn nhw: ‘Ewch at yr offeiriaid sy’n sefyll yng nghanol yr afon gydag arch y cyfamod. Codwch ddeuddeg carreg o’r afon a dewch â nhw i’r lle y byddwch chi’n gwersylla heno, a’u codi’n bentwr. Yn y dyfodol, pan fydd eich plant yn holi am ystyr y pentwr, byddwch chi’n gallu adrodd hanes y dŵr yn peidio â llifo wrth i arch y cyfamod groesi’r Iorddonen. Bydd y cerrig yn eich atgoffa o’r wyrth hon!’ Gosododd Josua hefyd ddeuddeg carreg yng nghanol yr Iorddonen lle bu’r offeiriaid yn sefyll.

Yn y diwedd, dywedodd Josua wrth yr offeiriaid a oedd yn cludo arch y cyfamod: ‘Dewch i fyny o’r Iorddonen.’ A chyn gynted ag y daethon nhw i’r lan, dyma’r afon yn dechrau llifo unwaith eto.