STORI 30
Perth yn Llosgi
ROEDD Moses wedi mynd yr holl ffordd i fynydd Horeb i chwilio am borfa i’r defaid. Yno, fe welodd berth ar dân. Er bod y fflamau’n llosgi, nid oedd y berth yn cael ei difa gan y tân.
‘Dyna ryfedd,’ meddyliodd. Wrth fynd yn nes i gael gwell golwg, dyma lais o ganol y berth yn dweud: ‘Paid â dod ddim nes. Tyn dy sandalau. Rwyt ti’n sefyll ar dir sanctaidd.’ Llais Duw oedd hwn yn siarad trwy angel. Felly cuddiodd Moses ei wyneb.
Dywedodd Duw: ‘Rydw i wedi gweld fy mhobl yn dioddef yn yr Aifft. Rydw i am eu rhyddhau. Ti yw’r un y byddaf yn ei anfon i arwain fy mhobl allan o’r Aifft.’ Roedd Jehofa yn bwriadu arwain ei bobl i wlad brydferth Canaan.
Ond dywedodd Moses: ‘Pwy ydw i i wneud y fath beth? Hyd yn oed petaswn i’n mynd, byddai’r Israeliaid yn dweud wrtha’ i, “Pwy sydd wedi dy anfon di?” Beth bydda’ i yn ei ddweud?’
‘Dyma beth a ddywedi di,’ atebodd Duw. ‘“JEHOFA, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob yw’r un sydd wedi fy anfon atoch chi.”’ Ac fe ychwanegodd: ‘Dyna yw fy enw i am byth.’
‘Ond beth a wnaf os nad ydyn nhw’n credu mai ti sydd wedi fy anfon?’ meddai Moses.
‘Beth sydd yn dy law?’ gofynnodd Duw.
‘Ffon,’ atebodd Moses.
‘Tafla hi ar y llawr,’ meddai Duw. Pan wnaeth Moses hynny, trodd y ffon yn neidr. Nesaf dywedodd Jehofa: ‘Rho dy law yn dy fantell.’ Fe wnaeth Moses hynny. Pan dynnodd ei law allan, roedd hi’n wyn fel eira, fel petai’r gwahanglwyf arni! O’i rhoi hi’n ôl yn ei fantell, cafodd ei hiacháu. Rhoddodd Jehofa y gallu i Moses i wneud trydedd wyrth. ‘Ar ôl iti wneud y gwyrthiau hyn,’ meddai Duw, ‘bydd yr Israeliaid yn credu mai fi sydd wedi dy anfon di atyn nhw.’
Yna, fe aeth Moses adref a dweud wrth Jethro: ‘Gad imi fynd yn ôl i weld fy mhobl yn yr Aifft.’ Felly ar ôl dweud ffarwel, cychwynnodd Moses ar y daith hir yn ôl i’r Aifft.
Exodus 3:1-22; 4:1-20.