Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Ôl-nodiadau

Ôl-nodiadau
  1.  Adnabod Babilon Fawr

  2.  Pryd Byddai’r Meseia yn Cyrraedd?

  3.  Triniaethau Meddygol Sy’n Ymwneud â Gwaed

  4.  Gŵr a Gwraig yn Gwahanu

  5.  Gwyliau a Dathliadau

  6.  Clefydau Heintus

  7.  Busnes a Materion Cyfreithiol

 1. Adnabod Babilon Fawr

Sut rydyn ni’n gwybod bod “Babilon Fawr” yn cynrychioli gau grefydd? (Datguddiad 17:5) Ystyriwch y ffactorau hyn:

  • Mae hi’n bresennol ac yn ddylanwadol ledled y byd. Dywedir ei bod hi’n eistedd ar ‘dyrfaoedd a chenhedloedd.’ Mae ganddi ‘deyrnas dros frenhinoedd y ddaear.’—Datguddiad 17:15, 18.

  • Ni all fod yn rym gwleidyddol neu fasnachol. Mae “brenhinoedd y ddaear” a’r “masnachwyr” yn dal i fodoli ar ôl iddi hi gael ei dinistrio.—Datguddiad 18:9, 15.

  • Mae hi’n rhoi darlun anghywir o Dduw. Fe’i gelwir yn butain oherwydd ei bod yn cydweithio â llywodraethau er mwyn cael arian neu fanteision eraill. (Datguddiad 17:1, 2) Y mae’n camarwain pobl o bob cenedl. Ac y mae’n gyfrifol am farwolaeth llawer iawn o bobl.—Datguddiad 18:23, 24.

Yn ôl i wers 13 pwynt 6

 2. Pryd Byddai’r Meseia yn Cyrraedd?

Rhagfynegodd y Beibl y byddai 69 wythnos yn mynd heibio cyn i’r Meseia gyrraedd.—Darllenwch Daniel 9:25, BC.

  • Pryd dechreuodd y 69 wythnos? Yn y flwyddyn 455 COG. Dyna pryd cyrhaeddodd Nehemeia  Jerwsalem er mwyn ailadeiladu’r ddinas.—Daniel 9:25, BC; Nehemeia 2:1, 5-8.

  • Pa mor hir oedd y 69 wythnos? Mewn rhai proffwydoliaethau, mae diwrnod yn cynrychioli blwyddyn. (Numeri 14:34; Eseciel 4:6) Felly, mae wythnos yn cynrychioli saith mlynedd. Yn y broffwydoliaeth hon, mae 69 wythnos yn cyfateb i 483 o flynyddoedd (69 wythnos x 7 diwrnod).

  • Pryd daeth y 69 wythnos i ben? Bydd cyfri 483 o flynyddoedd o 455 COG yn dod â ni i’r flwyddyn 29 OG. a Dyna’r flwyddyn y cafodd Iesu ei fedyddio a dod yn Feseia!—Luc 3:1, 2, 21, 22.

Yn ôl i wers 15 pwynt 5

 3. Triniaethau Meddygol Sy’n Ymwneud â Gwaed

Mae yna driniaethau sy’n defnyddio gwaed y claf ei hun. Ond mae rhai ohonyn nhw’n annerbyniol i Gristnogion. (Deuteronomium 15:23) Er enghraifft, mae rhai pobl yn rhoi gwaed, neu’n rhoi peth o’u gwaed ar gadw cyn cael llawdriniaeth.

Serch hynny, efallai bydd rhai triniaethau yn dderbyniol. Gall hyn gynnwys profion gwaed, hemodialysis, hemowanedu (hemodilution), neu ddefnyddio peiriant arbed celloedd a pheiriant calon-ysgyfaint. Mae’n rhaid i bob Cristion benderfynu sut bydd ei waed yn cael ei drin neu ei ddefnyddio yn ystod llawdriniaeth, profion meddygol, neu driniaeth arall. Efallai na fydd pob meddyg yn gwneud llawdriniaeth yn union yr un ffordd. Felly cyn derbyn llawdriniaeth, prawf meddygol, neu driniaeth arall, dylai’r Cristion ofyn sut bydd ei waed yn cael ei ddefnyddio. Ystyriwch y cwestiynau canlynol:

  • Beth petai rhywfaint o’m gwaed yn cael ei ddargyfeirio o fy nghorff, a’r llif efallai’n cael ei atal am gyfnod? A fyddai fy nghydwybod yn ystyried bod y gwaed hwnnw’n dal yn rhan ohonof, ac felly heb angen “ei dywallt ar lawr”?—Deuteronomium 12:23, 24.

  • Beth petai rhywfaint o’m gwaed yn cael ei dynnu allan yn ystod triniaeth feddygol ac yna’n cael ei addasu a’i gyfeirio’n ôl i fy nghorff? A fyddai hynny’n poeni fy nghydwybod fel Cristion?

Yn ôl i wers 39 pwynt 3

 4. Gŵr a Gwraig yn Gwahanu

Mae’r Beibl yn annog gŵr a gwraig i beidio â gwahanu, ac yn dweud yn glir nad ydy gwahanu yn caniatáu i un neu’r llall ailbriodi. (1 Corinthiaid 7:10, 11) Er hynny, mae rhai Cristnogion wedi dewis gwahanu mewn sefyllfaoedd arbennig.

  • Gwrthod cynnal y teulu: Mae gŵr yn gwrthod gofalu am ei deulu yn ariannol, nes eu bod nhw heb y pethau sylfaenol ar gyfer bywyd.—1 Timotheus 5:8.

  • Camdriniaeth gorfforol ddifrifol: Gall camdriniaeth beryglu iechyd neu fywyd cymar.—Galatiaid 5:19-21.

  • Peryglu perthynas cymar â Jehofa: Mae cymar yn gwneud hi’n amhosib i’r gŵr neu’r wraig addoli Jehofa.—Actau 5:29.

Yn ôl i wers 42 pwynt 3

 5. Gwyliau a Dathliadau

Nid yw Cristnogion yn cymryd rhan mewn dathliadau sydd ddim yn plesio Jehofa. Ond mae’n rhaid i bob Cristion benderfynu ar sail ei gydwybod sut i ddelio â sefyllfaoedd a all godi ynglŷn â dathliadau o’r fath. Ystyriwch rai enghreifftiau.

  • Mae rhywun yn dymuno’n dda ichi ar gyfer gŵyl benodol. Efallai byddwch yn dweud, “Diolch.” Os yw rhywun eisiau gwybod mwy, gallwch egluro pam nad ydych chi’n dathlu’r ŵyl.

  • Mae eich cymar, sydd ddim yn un o Dystion Jehofa, yn eich gwahodd i gael pryd gyda pherthnasau yn ystod gŵyl arbennig. Os ydy eich cydwybod yn eich caniatáu i fynd, gallwch egluro i’ch cymar o flaen llaw na fyddwch yn cymryd rhan mewn unrhyw arferion paganaidd.

  • Mae eich cyflogwr yn cynnig bonws ichi yn ystod y gwyliau. A ddylech chi wrthod y bonws? Nid o reidrwydd. Ydy eich cyflogwr yn ystyried y bonws yn rhan o’r dathliad, neu’n ffordd o ddiolch ichi am eich gwaith?

  • Mae rhywun yn rhoi anrheg ichi yn ystod y gwyliau. Efallai bydd yn dweud: “Dw i’n gwybod nad wyt ti’n dathlu’r ŵyl, ond dw i eisiau i ti gael hwn.” Efallai bod y person dim ond eisiau bod yn garedig. Ond ar y llaw arall, a oes rheswm i gredu ei fod yn ceisio profi eich ffydd, neu’n ceisio gwneud ichi gymryd rhan yn yr ŵyl? Ar ôl ystyried hyn, eich dewis chi ydy derbyn yr anrheg neu beidio. Y peth pwysicaf yw cael cydwybod glir a bod yn ufudd i Jehofa ym mhob penderfyniad.—Actau 23:1.

Yn ôl i wers 44 pwynt 1

 6. Clefydau Heintus

Gan ein bod ni’n caru pobl, fydden ni byth eisiau trosglwyddo clefyd heintus iddyn nhw. Felly os ydyn ni’n gwybod neu’n amau ein bod ni’n heintus, byddwn ni’n ofalus iawn. Byddwn ni’n gwneud hyn oherwydd mae’r Beibl yn gorchymyn: “Mae’n rhaid iti garu dy gymydog fel ti dy hun.”—Rhufeiniaid 13:8-10.

Pa bethau ymarferol byddwn ni’n eu gwneud er mwyn ufuddhau i’r gorchymyn hwn? Ni ddylai rhywun heintus gofleidio na chusanu eraill heb wahoddiad. Ni ddylai ddigio os bydd rhai yn dewis peidio â’i wahodd i’w cartrefi er mwyn amddiffyn eu teuluoedd. A chyn iddo gael ei fedyddio, dylai ddweud wrth gydlynydd corff yr henuriaid am ei afiechyd, fel bod trefniadau’n gallu cael eu gwneud er mwyn amddiffyn eraill sydd yn cael eu bedyddio. Dylai rhywun a all fod wedi dod i gysylltiad â chlefyd heintus ddewis cael prawf gwaed cyn dechrau canlyn. Trwy wneud hyn, byddwch chi’n dangos eich bod chi’n caru eraill “wrth ichi ofalu, nid yn unig am eich lles eich hunain, ond hefyd am les pobl eraill.”—Philipiaid 2:4.

Yn ôl i wers 56 pwynt 2

 7. Busnes a Materion Cyfreithiol

Gallwn osgoi llawer o broblemau drwy roi cytundebau ariannol yn ysgrifenedig—hyd yn oed os yw’r cytundeb rhwng dau Gristion. (Jeremeia 32:9-12) Ond o bryd i’w gilydd, efallai bydd Cristnogion yn anghytuno am arian neu am faterion eraill. Fe ddylen nhw allu datrys unrhyw anghydfod mewn ffordd gyflym a heddychlon rhyngddyn nhw eu hunain.

Ond sut dylen ni ddelio â materion mwy difrifol fel enllib neu dwyll? (Darllenwch Mathew 18:15-17.) Dywedodd Iesu y dylen ni ddilyn y tri cham canlynol:

  1. Ceisiwch ddatrys y broblem rhyngoch chi’ch hunain.—Gweler adnod 15.

  2. Os nad yw hynny’n gweithio, gofynnwch i un neu ddau o Gristnogion aeddfed yn y gynulleidfa fynd gyda chi.—Gweler adnod 16.

  3. Os yw’r broblem yn dal heb ei datrys, wedyn dylech chi fynd at yr henuriaid.—Gweler adnod 17.

Yn y rhan fwyaf o achosion, ni ddylen ni fynd â’n brodyr i’r llys oherwydd gallai hynny adlewyrchu’n ddrwg ar Jehofa ac ar y gynulleidfa. (1 Corinthiaid 6:1-8) Serch hynny, efallai bydd rhai materion angen cael eu datrys mewn llys: dyfarniadau ysgaru, dyfarniadau ynglŷn â chyfrifoldeb rhieni, daliadau cynhaliaeth, iawndal yswiriant, cael eich rhestru fel credydwr mewn achos methdaliad, neu gael profiant i ymdrin ag ewyllys. Nid yw Cristion sy’n mynd i’r llys i ddatrys problemau o’r fath mewn ffordd heddychlon yn mynd yn groes i gyngor y Beibl.

Os bydd rhywun wedi cyflawni trosedd ddifrifol, fel trais rhywiol, camdriniaeth plant, ymosodiad, lladrad neu lofruddiaeth, dylai Cristion fynd at yr awdurdodau seciwlar. Ni fyddai hyn yn mynd yn groes i gyngor y Beibl.

Yn ôl i wers 56 pwynt 3

a O’r flwyddyn 455 COG hyd at 1 COG y mae 454 o flynyddoedd. O’r flwyddyn 1 COG hyd at 1 OG y mae un flwyddyn (doedd dim blwyddyn sero). Ac o 1 OG hyd at 29 OG y mae 28 o flynyddoedd. Mae hyn yn rhoi cyfanswm inni o 483 o flynyddoedd.