GWERS 37
Beth Mae’r Beibl Yn ei Ddweud am Waith ac Arian?
Ydych chi’n poeni weithiau am waith neu arian? Mae gofalu am ein hanghenion ac addoli Jehofa yn iawn yn gallu bod yn heriol. Ond mae’r Beibl yn cynnig cyngor ymarferol i’n helpu.
1. Beth mae’r Beibl yn ei ddweud am waith?
Mae Duw am inni fwynhau ein gwaith. Mae’r Beibl yn dweud: “y peth gorau all rhywun ei wneud ydy . . . mwynhau ei waith.” (Pregethwr 2:24) Mae Jehofa yn gweithio’n galed. Pan fyddwn ni’n dilyn ei esiampl drwy weithio’n galed, byddwn ni’n plesio Duw ac yn teimlo’n hapus.
Mae gwaith yn bwysig. Ond fyddwn ni byth eisiau i’n gwaith fod yn fwy pwysig nag addoli Jehofa. (Ioan 6:27) Os ydyn ni’n rhoi Jehofa yn gyntaf, mae’n addo gofalu am ein hanghenion corfforol.
2. Beth yw’r agwedd gytbwys tuag at arian?
Er bod y Beibl yn cydnabod bod arian “yn gysgod i’n cadw’n saff,” y mae hefyd yn rhybuddio na all arian ar ei ben ei hun ein gwneud ni’n hapus. (Pregethwr 7:12) Felly, cyngor y Beibl yw peidio â charu arian a bod yn “fodlon ar y pethau sydd gynnoch chi.” (Darllenwch Hebreaid 13:5.) Os ydyn ni’n fodlon ar yr hyn sydd gynnon ni, fyddwn ni ddim yn teimlo’r straen sy’n dod o eisiau mwy drwy’r amser. Rydyn ni’n osgoi dyled ddiangen. (Diarhebion 22:7) Ac ni fyddwn ni’n cael ein baglu gan gamblo a chynlluniau gwneud arian sydyn.
3. Sut gallwn ni ddefnyddio arian i helpu eraill?
Duw hael yw Jehofa ac rydyn ni’n dilyn ei esiampl drwy fod “yn hael, yn barod i rannu.” (1 Timotheus 6:18) Gallwn ddefnyddio ein harian i gefnogi’r gynulleidfa ac i helpu pobl mewn angen, yn enwedig ein cyd-addolwyr. Y peth pwysicaf i Jehofa yw, nid faint rydyn ni’n ei roi, ond ein rhesymau dros roi. Drwy fod yn hael a rhoi o’r galon, byddwn ni’n hapus a byddwn yn plesio Jehofa.—Darllenwch Actau 20:35.
CLODDIO’N DDYFNACH
Gwelwch y bendithion sy’n dod o gadw ein gwaith yn ei le a bodloni ar yr hyn sydd gynnon ni.
4. Dod â chlod i Jehofa yn y ffordd rydych chi’n gweithio
Dylai ein perthynas â Jehofa effeithio ar ein hagwedd tuag at ein gwaith. Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiynau canlynol:
-
Yn y fideo, beth a wnaeth argraff arnoch chi am ymddygiad Jason yn ei waith?
-
Beth a wnaeth Jason i gadw ei waith yn ei le?
Darllenwch Colosiaid 3:23, 24, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
-
Pam mae ein hagwedd tuag at waith yn bwysig?
Mae gwaith yn bwysig. Ond fyddwn ni byth eisiau i’n gwaith fod yn fwy pwysig nag addoli Jehofa
5. Rydyn ni’n elwa ar fod yn fodlon
Mae llawer o bobl yn ceisio gwneud cymaint o arian â phosib. Ond mae’r Beibl yn rhoi cyngor gwahanol. Darllenwch 1 Timotheus 6:6-8, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
-
Beth mae’r Beibl yn ein hannog ni i’w wneud?
Hyd yn oed os nad oes gynnon ni lawer o bethau materol, gallwn fod yn hapus. Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn sy’n dilyn.
-
Er nad oes gan y teuluoedd hyn fawr o arian, beth sy’n eu gwneud nhw’n hapus?
Ond beth os oes gynnon ni ddigonedd, ond dal eisiau mwy? Dywedodd Iesu stori sy’n dangos pa mor beryglus yw hyn. Darllenwch Luc 12:15-21, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
-
Beth rydych chi wedi ei ddysgu o eglureb Iesu?—Gweler adnod 15.
Darllenwch Diarhebion 10:22, BCND, a 1 Timotheus 6:10 a’u cymharu. Yna trafodwch y cwestiynau hyn:
-
Yn eich barn chi, beth sy’n bwysicach? Bod yn ffrind i Jehofa, neu gael llawer o arian? Pam?
-
Pa broblemau sy’n dod o geisio gwneud mwy a mwy o arian?
6. Bydd Jehofa yn gofalu amdanon ni
Gall problemau yn y gwaith neu broblemau ariannol roi prawf ar ein ffydd yn Jehofa. Gwyliwch y FIDEO i weld sut gallwn ni ddelio â’r problemau hyn, ac yna trafodwch y cwestiynau sy’n dilyn.
-
Yn y fideo, pa broblemau wynebodd y brawd?
-
Beth a wnaeth ef i ddelio â’r problemau’n llwyddiannus?
Darllenwch Mathew 6:25-34, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
-
Beth mae Jehofa yn ei addo ar gyfer y rhai sy’n ei roi ef yn gyntaf?
BYDD RHAI YN DWEUD: “Dw i’n gorfod gweithio’n galed i gynnal fy nheulu. Does gen i ddim amser i fynd i gyfarfodydd y gynulleidfa bob wythnos.”
-
Pa adnod sy’n gwneud ichi gredu mai rhoi Jehofa’n gyntaf sydd orau bob amser?
CRYNODEB
Mae gwaith ac arian yn angenrheidiol, ond ni ddylen nhw dynnu ein sylw oddi ar wasanaethu Jehofa.
Adolygu
-
Beth all eich helpu chi i gadw agwedd gytbwys tuag at waith?
-
Sut rydyn ni’n elwa ar fod yn fodlon ar yr hyn sydd gynnon ni?
-
Sut gallwch chi ddangos eich ffydd yn addewid Jehofa i ofalu am ei bobl?
DARGANFOD MWY
Ystyriwch a yw’r Beibl yn dweud bod arian yn ddrwg.
Dysgwch sut gallwn ddefnyddio ein harian mewn ffordd sy’n plesio Duw.
Ai sbort diniwed ydy gamblo?
Dysgwch beth a wnaeth i ddyn a oedd yn dwyn ac yn gamblo newid ei ffordd o fyw.
“O’n i’n Dwlu ar Geffylau Rasio” (Y Tŵr Gwylio, Tachwedd 1, 2011)