GWERS 25
Beth Yw Pwrpas Duw ar Ein Cyfer?
Mae’r Beibl yn cydnabod mai “byr ydy bywyd dyn, . . . ac mae ei ddyddiau yn llawn trafferthion.” (Job 14:1) Ai dyma’r bywyd mae Duw yn dymuno inni ei gael? Os nad yw, yna beth yw ei bwrpas ar ein cyfer, ac a gaiff ei gyflawni? Ystyriwch atebion calonogol y Beibl.
1. Pa fath o fywyd y mae Jehofa yn dymuno inni ei gael?
Mae Jehofa am inni gael y bywyd gorau posib. Pan greodd Duw y bobl gyntaf, Adda ac Efa, rhoddodd baradwys hyfryd, gardd Eden, yn gartref iddyn nhw. Yna, “dyma Duw yn eu bendithio nhw, a dweud wrthyn nhw . . . ‘Llanwch y ddaear a defnyddiwch ei photensial hi.’” (Genesis 1:28) Roedd Jehofa yn dymuno iddyn nhw gael plant, gofalu am yr anifeiliaid, a throi’r ddaear gyfan yn baradwys. Ei fwriad oedd i bobl gael iechyd perffaith a byw am byth.
Er na ddigwyddodd hynny, a nid yw pwrpas Duw wedi newid. (Eseia 46:10, 11) Y mae’n dal i ddymuno i fodau dynol fyw am byth mewn byd perffaith.—Darllenwch Datguddiad 21:3, 4.
2. Sut gallwn ni gael bywyd ystyrlon heddiw?
Mae Jehofa wedi rhoi inni “angen ysbrydol” sef yr awydd i’w adnabod a’i addoli. (Darllenwch Mathew 5:3-6.) Mae’n dymuno inni fod yn ffrindiau agos iddo, “i rodio yn ei ffyrdd a’i garu,” ac i’w wasanaethu â’n “holl galon.” (Deuteronomium 10:12, BCND; Diarhebion 3:32) Drwy wneud hynny, gallwn ni fod yn hapus er gwaethaf ein problemau. Mae addoli Jehofa yn rhoi ystyr a phwrpas i’n bywydau.
CLODDIO’N DDYFNACH
Dysgwch am gariad mawr Jehofa drwy’r ffordd y creodd y ddaear i ni, a dysgwch o’i Air am bwrpas bywyd.
3. Mae gan Jehofa bwrpas gwych ar gyfer dynolryw
Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn sy’n dilyn.
-
Pam creodd Duw blaned mor hardd inni?
Darllenwch Pregethwr 3:11 BCND, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
-
Beth rydych chi’n ei ddysgu am Jehofa o’r adnod hon?
4. Nid yw pwrpas Jehofa wedi newid
Darllenwch Salm 37:11, 29 ac Eseia 55:11, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
-
Sut rydyn ni’n gwybod nad yw pwrpas Jehofa wedi newid?
Mae’n bosib adfer tŷ sydd mewn cyflwr gwael. Yn yr un modd, bydd Duw yn adfer y ddaear ar gyfer y rhai sydd yn ei garu.
5. Mae addoli Jehofa yn rhoi pwrpas i’n bywydau
Mae gwybod beth yw pwrpas bywyd yn ein gwneud ni’n hapus. Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn canlynol:
-
Sut mae dysgu beth yw pwrpas bywyd wedi helpu Terumi?
Darllenwch Pregethwr 12:13, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
-
Gan fod Jehofa wedi gwneud cymaint ar ein cyfer, sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n ddiolchgar?
BYDD RHAI YN GOFYN: “Beth yw pwrpas bywyd?”
-
Sut byddech chi’n ateb?
CRYNODEB
Mae Jehofa eisiau inni fwynhau bywyd am byth mewn amgylchiadau perffaith ar y ddaear. Os ydyn ni’n ei addoli â’n holl galon, bydd ystyr i’n bywydau—hyd yn oed heddiw.
Adolygu
-
Beth oedd bwriad gwreiddiol Jehofa ar gyfer Adda ac Efa?
-
Sut rydyn ni’n gwybod nad yw pwrpas Jehofa ar gyfer dynolryw wedi newid?
-
Sut gallwch chi gael bywyd ystyrlon?
DARGANFOD MWY
Ystyriwch y dystiolaeth y bu gardd Eden ar y ddaear ar un adeg.
“Gardd Eden—Myth neu Ffaith?”(Y Tŵr Gwylio, Ionawr 1, 2011)
Dysgwch pam gallwn fod yn sicr y bydd y ddaear yn para am byth.
“A Gaiff y Ddaear ei Dinistrio Ryw Ddydd?” (Erthygl ar jw.org)
Ystyriwch beth mae’r Beibl yn ei ddweud am sut i gael bywyd ystyrlon.
Gwelwch sut daeth dyn o hyd i rywbeth a oedd ar goll yn ei fywyd, er ei fod yn meddwl bod popeth ganddo.
a Yn y wers nesaf, byddwch yn dysgu beth a aeth o’i le.