GWERS 2
Roedd Rebeca Eisiau Gwneud Jehofa yn Hapus
Dynes a oedd yn caru Jehofa oedd Rebeca. Enw ei gŵr oedd Isaac. Roedd ef yn caru Jehofa hefyd. Sut gwnaeth Rebeca gwrdd ag Isaac? Sut dangosodd hi ei bod hi eisiau gwneud Jehofa yn hapus? Gad inni ddysgu mwy amdani.
Rhieni Isaac oedd Abraham a Sara. Roedden nhw’n byw yng ngwlad Canaan, lle nad oedd y bobl yn addoli Jehofa. Ond roedd Abraham eisiau i’w fab briodi merch a oedd yn addoli Jehofa. Felly anfonodd ei was, Eleasar mae’n debyg, i chwilio am wraig i Isaac. Aeth i le o’r enw Haran lle roedd rhai o berthnasau Abraham yn byw.
Teithiodd Eleasar gyda gweision eraill Abraham. Roedd yn siwrnai hir iawn. Daethant â deg camel a oedd yn cario bwyd ac anrhegion. Sut byddai Eleasar yn gwybod pa ferch i ddewis fel gwraig i Isaac? Stopiodd Eleasar a’r gweision eraill yn Haran wrth ymyl ffynnon, oherwydd roedd Eleasar yn gwybod y byddai pobl yn dod yn fuan i nôl dŵr. Gweddïodd ar Jehofa a dywedodd: ‘Os gofynnaf i ferch ifanc am ddiod o ddŵr, a dyma hi’n rhoi dŵr i mi ac i’r camelod, gwyddwn mai hon yw’r ferch rwyt ti wedi ei dewis.’
Wedyn daeth y ferch Rebeca i’r ffynnon. Dywed y Beibl ei bod hi’n hardd iawn. Gofynnodd Eleasar iddi am ddiod o ddŵr. Atebodd Rebeca: ‘Wrth gwrs! Mi
wna’ i roi dŵr i chi, ac mi wna’ i nôl dŵr i’ch camelod hefyd.’ Meddyliwch! Ar ôl taith hir, mae camelod sychedig yn yfed llawer o ddŵr, ac roedd rhaid i Rebeca redeg yn ôl ac ymlaen i’r ffynnon dro ar ôl tro. Fedri di weld yn y llun pa mor galed mae hi’n gweithio?— Roedd Eleasar wedi rhyfeddu wrth weld Jehofa yn ateb ei weddi.Rhoddodd Eleasar lawer o anrhegion hyfryd i Rebeca. Estynnodd Rebeca wahoddiad i Eleasar a’r gweision eraill i aros yng nghartref ei theulu. Eglurodd Eleasar pam roedd Abraham wedi ei anfon ef yna, a sut atebodd Jehofa ei weddi. Roedd teulu Rebeca yn hapus iddi briodi Isaac.
Aeth Rebeca i Ganaan gydag Eleasar a phriodi Isaac
Ond, wyt ti’n meddwl bod Rebeca eisiau priodi Isaac?— Roedd Rebeca yn gwybod bod Jehofa wedi anfon Eleasar yno. Gofynnodd teulu Rebeca iddi a oedd hi’n fodlon mynd i Ganaan a phriodi Isaac. Atebodd hithau: ‘Ydw, dw i’n hapus i fynd.’ Ar unwaith, aeth gydag Eleasar. Pan gyrhaeddon nhw wlad Canaan, priododd hi Isaac.
Oherwydd bod Rebeca wedi gwneud yr hyn a ofynnodd Jehofa iddi ei wneud, roedd Jehofa yn ei gwobrwyo. Ar ôl llawer o flynyddoedd, cafodd Iesu ei eni i mewn i’w theulu hi! Os wyt ti fel Rebeca ac yn gwneud Jehofa yn hapus, bydd Jehofa yn dy fendithio di hefyd!