GWERS 7
Gwybodaeth Gywir a Dibynadwy
SUT I FYND ATI:
-
Defnyddia ffynonellau dibynadwy. Seilia dy sylwadau ar Air Duw, gan ddarllen yn uniongyrchol ohono lle bo modd. Os wyt ti’n cyfeirio at ffaith wyddonol, adroddiad yn y newyddion, profiad, neu dystiolaeth ategol arall, cadarnha o flaen llaw fod y ffynhonnell yn ddibynadwy a bod y wybodaeth yn gyfoes.
-
Defnyddia ffynonellau’n gywir. Esbonia adnodau yn unol â’r cyd-destun, â neges y Beibl cyfan, ac â chyhoeddiadau’r “gwas ffyddlon a chall.” (Mathew 24:45, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Defnyddia ffynonellau seciwlar mewn ffordd sydd yn gyson â bwriad yr awdur a’r cyd-destun gwreiddiol.
-
Rhesyma ar y dystiolaeth. Ar ôl darllen adnod neu gyfeirio at ffynhonnell, gofynna gwestiynau neu rho eglureb a fydd yn helpu dy wrandawyr i ddod i’w casgliad eu hunain.