GWERS 14
Gwneud i’r Prif Bwyntiau Sefyll Allan
Hebreaid 8:1
CRYNODEB: Helpa dy gynulleidfa i ddilyn trywydd dy anerchiad ac eglura sut mae pob prif bwynt yn cysylltu â nod a thema’r anerchiad.
SUT I FYND ATI:
-
Gosoda dy nod. Ystyria ai rhoi gwybodaeth, ceisio argyhoeddi, neu annog dy gynulleidfa i weithredu yw nod dy anerchiad. Datblyga’r anerchiad wedyn gan sicrhau bod pob prif bwynt yn cyfrannu at y nod hwnnw.
-
Pwysleisia thema dy anerchiad. Cyfeiria at y thema drwy gydol dy anerchiad gan ailadrodd geiriau allweddol y thema neu drwy ddefnyddio geiriau cyfystyr.
-
Cadwa’r prif bwyntiau’n glir ac yn syml. Dewisa ddim ond y prif bwyntiau sy’n berthnasol i’r thema ac y gelli di eu dysgu yn effeithiol yn yr amser penodedig. Paid â chynnwys gormod o brif bwyntiau. Dyweda’n eglur beth yw pob prif bwynt, seibia rhyngddyn nhw, a symuda’n esmwyth o un prif bwynt i’r nesaf.