ATODIAD C
Defnyddio Mwynhewch Fywyd am Byth! i Gynnal Astudiaethau Beiblaidd
Mae llawer o weddïau, gwaith meddwl, ac ymchwil wedi mynd i mewn i’r llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! I fanteisio’n llawn ar y cyhoeddiad hwn, defnyddia’r dull canlynol wrth gynnal astudiaethau o’r Beibl.
Cyn y sesiwn astudio
-
1. Paratoa’n ofalus. Meddylia am anghenion, sefyllfa, a safbwynt y myfyriwr. Ceisia ragweld pwyntiau a allai fod yn anodd eu deall neu eu rhoi ar waith. Ystyria sut gallai’r deunydd yn yr adran “Darganfod Mwy” helpu’r myfyriwr, a bydda’n barod i’w ddefnyddio, yn ôl yr angen, yn ystod y sesiwn astudio.
Yn ystod y sesiwn astudio
-
2. Cofia agor a chau’r sesiwn gyda gweddi, os yw’r myfyriwr yn cytuno.
-
3. Paid â siarad gormod. Canolbwyntia ar y deunydd yn y llyfr, a gad i’r myfyriwr ei fynegi ei hun.
-
4. Ar ddechrau Rhan 1, 2, 3, a 4, darllena’r llinell sy’n disgrifio pwrpas y rhan honno, a thynna sylw at deitlau rhai o’r gwersi.
-
5. Ar ddiwedd Rhan 1, 2, 3, a 4, defnyddia’r dudalen adolygu i helpu’r myfyriwr i gofio’r gwirioneddau y mae wedi eu dysgu.
-
6. Wrth astudio pob gwers gyda’r myfyriwr, mae angen:
-
a. Darllen y paragraffau ar ddechrau’r wers.
-
b. Darllen pob adnod sy’n dweud “Darllenwch.”
-
c. Darllen adnodau eraill, yn ôl yr angen.
-
ch. Gwylio pob fideo sy’n dweud “Gwyliwch” (os oes modd).
-
d. Gofyn pob cwestiwn i’r myfyriwr.
-
dd. Tynnu sylw at y lluniau yn yr adran “Cloddio’n Ddyfnach,” a gofyn am sylwadau’r myfyriwr.
-
e. Defnyddio’r blwch “Nod” i helpu’r myfyriwr i gadw golwg ar ei gynnydd ysbrydol. Efallai byddi di eisiau ei annog i ddefnyddio’r nod sydd wedi ei awgrymu, i osod nod arall, neu i wneud y ddau.
-
f. Gofyn i’r myfyriwr pa un o’r erthyglau neu’r fideos yn yr adran “Darganfod Mwy” y mae wedi ei fwynhau’n arbennig wrth iddo baratoi’r wers.
-
ff. Ceisio cwblhau’r wers mewn un sesiwn.
-
Ar ôl y sesiwn astudio
-
7. Parha i feddwl am y myfyriwr. Gweddïa am i Jehofa fendithio ei gynnydd a gofyn iddo roi iti’r doethineb sydd ei angen i’w helpu.