ATODIAD
1914—Blwyddyn Arwyddocaol ym Mhroffwydoliaethau’r Beibl
AM DDEGAWDAU cyn 1914, roedd myfyrwyr y Beibl wedi cyhoeddi y byddai pethau arwyddocaol yn digwydd yn y flwyddyn honno. Beth oedd y digwyddiadau hyn, a pha dystiolaeth sy’n dangos bod 1914 yn flwyddyn mor bwysig?
Fel y cofnodwyd yn Luc 21:24, dywedodd Iesu: “Caiff Jerwsalem ei mathru dan draed y Cenhedloedd nes cyflawni eu hamserau hwy.” Prifddinas y genedl Iddewig oedd Jerwsalem, canolfan llywodraeth i frenhinoedd tŷ Dafydd. (Salm 48:1, 2) Ond, roedd y brenhinoedd hyn yn wahanol i bob arweinydd cenedlaethol arall. Roedden nhw’n eistedd “ar orsedd yr ARGLWYDD,” yn cynrychioli Jehofa Dduw ei hun. (1 Cronicl 29:23) Symbol oedd Jerwsalem, felly, o lywodraeth Jehofa.
Ond, pryd cafodd reolaeth Duw ei “mathru dan draed y Cenhedloedd” am y tro cyntaf, ac ym mha ffordd? Digwyddodd hyn yn 607 COG pan gafodd Jerwsalem ei gorchfygu gan y Babiloniaid. Daeth ‘gorsedd Jehofa’ yn wag pan gafodd llinach frenhinol Dafydd ei thorri. (2 Brenhinoedd 25:1-26) A fyddai’r “mathru” hwn yn para am byth? Na fyddai, oherwydd bod proffwydoliaeth Eseciel yn dweud am frenin olaf Jerwsalem, Sedeceia: “Diosg y benwisg a thyn y goron . . . nes i’r hwn a’i piau trwy deg ddod, ac imi ei rhoi iddo ef.” (Eseciel 21:26, 27) Yr hwn “a’i piau trwy deg,” neu’r hwn sydd â’r hawl gyfreithiol i goron Dafydd, yw Iesu Grist. (Luc 1:32, 33) Felly, byddai’r “mathru” yn gorffen ar ôl i Iesu ddod yn Frenin.
Daniel pennod 4 yn allweddol. Sôn y mae’r hanes am freuddwyd proffwydol y Brenin Nebuchadnesar o Fabilon. Gwelodd goeden uchel iawn wedi ei thorri i lawr. Doedd y boncyff ddim yn gallu tyfu oherwydd ei fod wedi ei rwymo â chadwyn o haearn a phres. Dyma angel yn datgan: “Bydd hyn dros saith cyfnod,” neu saith amser.—Daniel 4:10-16.
Pryd byddai Iesu yn cael ei goroni’n Frenin? Dangosodd Iesu y byddai’r Cenhedloedd yn rheoli am gyfnod penodol o amser. I wybod pa mor hir y byddai’r cyfnod hwnnw yn para, mae’r hanes ynYn y Beibl, mae coed yn cael eu defnyddio weithiau i gynrychioli llywodraethau. (Eseciel 17:22-24; 31:2-5) Felly, roedd torri’r goeden symbolaidd honno i lawr yn cynrychioli’r ffordd y byddai llywodraeth Duw—y llinach o frenhinoedd yn Jerwsalem—yn cael ei thorri lawr. Sut bynnag, roedd y weledigaeth yn datgan mai cyfnod dros dro fyddai ‘mathru Jerwsalem’—cyfnod o ‘saith amser.’ Pa mor hir yw’r cyfnod hwnnw?
Mae Datguddiad 12:6, 14 yn dangos bod tri amser a hanner yn golygu ‘deuddeg cant a thrigain o ddyddiau,’ sef 1,260 o ddyddiau. Byddai ‘saith amser,’ felly, yn para ddwy waith yn hirach na hynny, neu 2,520 o ddyddiau. Ond, wnaeth y Cenhedloedd ddim stopio “mathru” llywodraeth Duw ar ôl 2,520 o ddyddiau yn unig wedi cwymp Jerwsalem. Yn amlwg, felly, mae’r broffwydoliaeth hon yn cyfeirio at gyfnod o amser sy’n llawer iawn hirach. Ar sail yr hyn mae Numeri 14:34 ac Eseciel 4:6 yn ei ddweud, sef “diwrnod am bob blwyddyn,” fe fyddai saith amser yn para 2,520 o flynyddoedd.
Dechreuodd y 2,520 mlynedd ym mis Hydref 607 COG pan syrthiodd Jerwsalem i’r Babiloniaid a phan gafodd y brenin yn llinach Dafydd ei ddiorseddu. Gorffennodd y cyfnod hwnnw ym mis Hydref 1914. Yr adeg honno, daeth “amser y cenhedloedd” i ben, ac fe gafodd Iesu Grist ei orseddu yn Frenin Duw yn y nef. *—Salm 2:1-6; Daniel 7:13, 14.
Mathew 24:3-8; Luc 21:11) Mae digwyddiadau o’r fath yn dystiolaeth bwerus o’r ffaith mai 1914 oedd y flwyddyn a welodd enedigaeth Teyrnas Dduw yn y nef a dechreuad “dyddiau diwethaf” y drefn bresennol.—2 Timotheus 3:1-5.
Yn union fel y rhagfynegodd Iesu, mae ei “bresenoldeb” fel Brenin yn y nef wedi ei amlygu gan ddigwyddiadau byd eang dramatig—rhyfel, newyn, daeargrynfeydd, a heintiau. (^ Par. 4 Mae’r cyfnod o fis Hydref 607 COG hyd fis Hydref 1 COG yn 606 o flynyddoedd. Gan nad oes flwyddyn sero, mae’r cyfnod o fis Hydref 1 COG hyd fis Hydref 1914 OG yn 1,914 o flynyddoedd. Wrth adio 606 mlynedd a 1,914 mlynedd, cawn 2,520 o flynyddoedd. Am wybodaeth ynghylch cwymp Jerwsalem yn 607 COG, gweler yr erthygl “Chronology” yn y llyfr Insight on the Scriptures a gyhoeddir gan Dystion Jehofa.