Tadau
Beth yw cyfrifoldebau tad?
De 6:6, 7; Eff 6:4; 1Ti 5:8; Heb 12:9, 10
-
Hanesion perthnasol o’r Beibl:
-
Ge 22:2; 24:1-4—Roedd Abraham yn caru Isaac yn daer, ac aeth i drafferth fawr i gael hyd i wraig iddo a oedd yn addoli Jehofa
-
Mth 13:55; Mc 6:3—Oherwydd bod Iesu wedi cael ei adnabod fel “mab y saer” a hefyd y “saer,” gallwn ni ddod i’r casgliad bod ei dad wedi dysgu’r grefft honno iddo
-
Pam dylai tad gael ei drin yn gariadus a gyda pharch?
Gweler hefyd Mth 6:9
-
Hanesion perthnasol o’r Beibl:
-
Ho 11:1, 4—Mae Jehofa’n dangos cymaint mae’n parchu tadau drwy ei esiampl. Mae’n dysgu ei bobl ac yn gofalu amdanyn nhw yn union fel mae tad yn edrych ar ôl ei blant
-
Lc 15:11-32—Dangosodd Iesu urddas at dadau drwy roi eglureb sy’n esbonio sut mae ein Tad nefol, Jehofa, yn dangos trugaredd at y rhai sy’n pechu ond yna’n edifarhau
-