Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Pechod

Pechod

Beth ydy pechod, a pham mae’n effeithio ar bob un ohonon ni?

Sut mae’r Beibl yn rhoi sicrwydd inni ein bod ni’n gallu brwydro yn erbyn ein tueddiad i bechu?

Rhu 6:​12-14

  • Hanesion perthnasol o’r Beibl:

    • 2Sa 11:​2-5, 14, 15, 26, 27; 12:​1-13—Gwnaeth y Brenin Dafydd bechu’n ddifrifol, ond ceisiodd newid ei ffyrdd ar ôl cael ei gywiro

    • Rhu 7:​15-24—Er bod Paul yn esiampl wych o ffyddlondeb a defosiwn duwiol, disgrifiodd yr apostol ei frwydr yn erbyn ei dueddiad i bechu

Beth sy’n achosi i lawer bechu?

Act 3:17; 17:​29, 30; 1Ti 1:13; 1Pe 1:14

Gweler hefyd Nu 15:​27-29

Pam mae pechu’n fwriadol yn enwedig o ddifrifol?

Beth gall Satan ei ddefnyddio i demtio gweision Duw?

Dia 1:​10, 11, 15; Mth 5:28; Iag 1:​14, 15

  • Hanesion perthnasol o’r Beibl:

    • Ge 3:​1-6—Gan ddefnyddio neidr, gwnaeth Satan demtio Efa drwy apelio at ei chwantau hunanol a thrwy danseilio ei hyder yn Nuw

    • Dia 7:​6-10, 21-23—Disgrifiodd y Brenin Solomon ddyn ifanc heb sens a wnaeth ildio i demtasiwn gan ddynes anfoesol

Sut gallwn ni wrthod temtasiynau Satan?

Eff 4:27; 6:​10-18; Iag 4:​7, 8

  • Hanesion perthnasol o’r Beibl:

    • Dia 5:​1-14—Esboniodd y Brenin Solomon pam dylen ni wrthod anfoesoldeb rhywiol a sut gallwn ni wneud hynny

    • Mth 4:​1-11—Gosododd Iesu esiampl berffaith o sut i wrthod temtasiynau drwy ddibynnu ar Air Duw

Beth ydy rhai pechodau difrifol y dylai Cristion eu hosgoi?

Gweler “Gweithredoedd Anghywir

Cyffesu Pechodau

Pam na ddylen ni geisio cuddio ein pechodau?

I bwy y dylen ni gyffesu ein pechodau?

Sal 32:5; Mth 6:​9-14

Pwy sy’n gweithio rhyngon ni a Jehofa fel “helpwr”?

A all pechadur ddangos ei edifeirwch drwy ei weithredoedd?

Act 26:20; Iag 4:​8-10

Gweler hefyd “Edifeirwch

  • Hanesion perthnasol o’r Beibl:

    • Ex 22:​1-12—Yn ôl Cyfraith Moses, roedd rhaid i leidr dalu’n ôl yr hyn roedd wedi ei ddwyn

    • Lc 19:​8, 9—Gwnaeth y casglwr trethi Sacheus ddangos ei edifeirwch drwy dalu’n ôl bedair gwaith beth roedd ef wedi ei ddwyn

Pam gallwn ni drystio y bydd Jehofa’n maddau inni?

Gweler “Maddeuant

Sut mae Jehofa’n helpu ac yn amddiffyn y gynulleidfa pan mae rhywun yn pechu’n ddifrifol?

Sut gall pechod effeithio ar ein teulu neu ar eraill yn y gynulleidfa?

Heb 12:​15, 16

Gweler hefyd De 29:18

  • Hanesion perthnasol o’r Beibl:

    • Jos 7:​1-13, 20-26—Daeth Achan â thrychineb ar Israel drwy geisio cuddio pechod difrifol

    • Jon 1:​1-16—Peryglodd Jona fywydau pobl eraill drwy wrthryfela yn erbyn Jehofa

    • 1Co 5:​1-7—Gwnaeth yr apostol Paul dynnu sylw at bechod difrifol yng Nghorinth a oedd yn niweidio’r gynulleidfa gyfan

Pam ddylen ni ddim gadael i ofn disgyblaeth ein stopio ni rhag gofyn am help yr henuriaid?

Pam dylen ni dderbyn maddeuant Duw yn hytrach na gofidio’n ddi-baid am gamgymeriad o’r gorffennol?

Gweler “Maddeuant

Petasen ni’n dysgu bod rhywun wedi pechu’n ddifrifol, pam dylen ni sicrhau eu bod nhw’n mynd at yr henuriaid?

Le 5:1

  • Hanes perthnasol o’r Beibl:

    • De 13:​6-9; 21:​18-20—Roedd Cyfraith Moses yn gorfodi pobl i beidio â chuddio pechodau difrifol teulu a ffrindiau