Gostyngeiddrwydd
Sut mae Jehofa’n ystyried pobl ostyngedig a phobl ffroenuchel?
Sal 138:6; Dia 15:25; 16:18, 19; 22:4; 1Pe 5:5
Gweler hefyd Dia 29:23; Esei 2:11, 12
Hanesion perthnasol o’r Beibl:
2Cr 26:3-5, 16-21—Gwnaeth balchder achosi i’r Brenin Usseia dorri Cyfraith Duw a gwylltio pan gafodd ei geryddu, yna cafodd ei gosbi gan Dduw â’r gwahanglwyf
Lc 18:9-14—Defnyddiodd Iesu eglureb i esbonio sut mae Jehofa’n teimlo am weddïau pobl falch a gweddïau pobl ostyngedig
Sut mae Jehofa yn ymateb i edifeirwch gostyngedig?
2Cr 7:13, 14; Sal 51:2-4, 17
Hanesion perthnasol o’r Beibl:
2Cr 12:5-7—Gwnaeth tywysogion Jwda a’r Brenin Rehoboam osgoi trychineb drwy ymateb yn ostyngedig i gyngor Jehofa
2Cr 32:24-26—Trodd y brenin da Heseceia yn falch ar un adeg, ond ar ôl iddo edifarhau fe wnaeth Jehofa faddau iddo
Sut mae bod yn ostyngedig yn gwella ein perthynas ag eraill?
Eff 4:1, 2; Php 2:3; Col 3:12, 13
Hanesion perthnasol o’r Beibl:
Ge 33:3, 4—Gwnaeth Jacob greu heddwch â’i frawd drwy fod yn ostyngedig wrth gyfarch Esau, a oedd wedi gwylltio ag ef
Bar 8:1-3—Dywedodd Gideon yn ostyngedig wrth ddynion Effraim eu bod nhw’n well nag ef; gwnaeth hyn dawelu eu tymer ac osgoi drwgdeimlad
Sut gwnaeth Iesu ddysgu eraill am y pwysigrwydd o fod yn ostyngedig?
Mth 18:1-5; 23:11, 12; Mc 10:41-45
Hanesion perthnasol o’r Beibl:
Esei 53:7; Php 2:7, 8—Yn unol â phroffwydoliaeth, roedd Iesu’n ostyngedig ac yn barod i ddod i’r ddaear i gael ei ladd mewn ffordd boenus a chywilyddus
Lc 14:7-11—Dangosodd Iesu werth gostyngeiddrwydd gan ddefnyddio eglureb am gael y seddi gorau mewn gwledd
In 13:3-17—Drwy olchi traed ei apostolion, gwnaeth Iesu ddysgu gwers bwysig i’w ddilynwyr am fod yn ostyngedig
Sut bydd dysgu i weld ein hunain ac eraill o safbwynt Jehofa yn ein helpu ni i fod yn ostyngedig?
Pam mae gostyngeiddrwydd ffug yn ddi-werth?