Pam Mae Duw Wedi Caniatáu Dioddefaint
Rhan 6
Pam Mae Duw Wedi Caniatáu Dioddefaint
1, 2. Sut difethodd ein rhieni cyntaf y cychwyn gwych roddodd Duw iddyn nhw?
BETH aeth o’i le? Beth ddigwyddodd ddaru ddifetha’r cychwyn gwych roddodd Duw i’n rhieni cyntaf ni ym Mharadwys Eden? Pam, yn lle heddwch a harmoni Paradwys, y mae drygioni a dioddefaint wedi bod yn drech am filoedd o flynyddoedd?
2 Y rheswm ydy i Adda ac Efa gamddefnyddio eu hewyllys rydd. Fe gollson nhw olwg ar y ffaith na chawson nhw eu creu i lwyddo ar Genesis, pennod 3.
wahân i Dduw a’i ddeddfau. Fe benderfynson nhw ddod yn annibynnol ar Dduw, gan feddwl y byddai hyn yn gwella’u bywydau. Felly bu iddyn nhw gamu y tu allan i derfynau ewyllys rydd osodwyd gan Dduw.—Pwnc Dadl Awdurdod Brenhinol Cyfanfydol
3-5. Pam yn syml na ddifaodd Duw Adda ac Efa ac ail gychwyn?
3 Pam yn syml na ddifaodd Duw Adda ac Efa ac ail-gychwyn efo pâr dynol arall? Oherwydd fod ei awdurdod brenhinol cyfanfydol, hynny ydy, ei hawl anhrosglwyddadwy i deyrnasu, wedi cael ei herio.
4 Y cwestiwn oedd: Gan bwy mae’r hawl i deyrnasu, a theyrnasu pwy sy’n iawn? Mae’r ffaith ei fod yn hollalluog ac yn Greawdwr yr holl greaduriaid yn rhoi i Dduw yr hawl i deyrnasu drostyn nhw. Gan ei fod yn holl-ddoeth, ei deyrnasu ef sydd orau ar gyfer bob creadur. Ond roedd teyrnasu Duw nawr wedi ei herio. Hefyd, oedd yna rywbeth o’i le ar ei greadigaeth—dyn? Yn ddiweddarach fe fyddwn ni’n trafod rhan uniondeb dynol yn hyn.
5 Wrth i ddyn ddod yn annibynnol ar Dduw, codwyd cwestiwn arall: Fedrai bodau dynol wneud yn well pe na bai Duw yn teyrnasu drostyn nhw? Roedd y Creawdwr yn bendant yn gwybod yr ateb, ond ffordd sicr i fodau dynol ganfod yr ateb oedd caniatáu iddyn nhw y penrhyddid roedden nhw’n ei ddymuno. Fe ddewisasan nhw’r llwybr hwnnw o’u hewyllys rydd eu hunain, felly fe ganiataodd Duw hynny.
6, 7. Pam mae Duw wedi caniatáu penrhyddid i fodau dynol am gyhyd o amser?
6 Drwy ganiatáu digon o amser i fodau dynol arbrofi â phenrhyddid, fe fyddai Duw yn sefydlu unwaith ac am byth a ydy bodau dynol yn well eu byd gyda Duw’n teyrnasu drostyn nhw neu wrthynt eu hunain. A byddai’n rhaid i’r amser a ganiateid fod yn ddigon hir i roi cyfle i ddynion gyrraedd yr hyn a ystyrien nhw yn binacl eu cyraeddiadau gwleidyddol, diwydiannol, gwyddonol a meddygol.
7 Felly, mae Duw wedi caniatáu rhyddid dirwystr i ddyn hyd at ein dydd ni i ddangos y tu hwnt i unrhyw amheuaeth a fedrai dynion lwyddo i reoli yn annibynnol arno ef. Felly fe allodd dyn ddewis rhwng caredigrwydd a chreulondeb, rhwng cariad a chasineb, rhwng cyfiawnder ac anghyfiawnder. Ond mae ef hefyd wedi gorfod wynebu canlyniadau ei ddewis: daioni a heddwch neu ddrygioni a dioddefaint.
Gwrthryfel Ysbryd Greaduriaid
8, 9. (a) Sut cododd gwrthryfel yn yr ysbryd faes? (b) Pwy heblaw Adda ac Efa y dylanwadodd Satan arnyn nhw i wrthryfela?
8 Mae yna ffactor arall i’w ystyried. Nid ein rhieni cyntaf oedd yr unig rai i wrthryfela yn erbyn teyrnasu Duw. Ond pwy arall oedd yn bodoli ar y pryd? Ysbryd greaduriaid. Cyn i Dduw greu bodau dynol, fe greodd ef ffurf uwch ar fywyd, niferoedd mawr o angylion, i fyw yn y maes nefol. Fe gawson nhw hefyd eu creu ag ewyllys rydd a hefyd â’r angen i ymostwng i deyrnasu Duw.—Job 38:7; Salm 104:4; Datguddiad 5:11.
9 Mae’r Beibl yn dangos i wrthryfel godi gyntaf yn yr ysbryd faes. Roedd ysbryd greadur yn dymuno cael penrhyddid. Roedd ef hyd yn oed eisiau i fodau dynol ei addoli. (Mathew 4:8, 9) Fe ddaeth yr ysbryd wrthryfelwr hwn yn elfen a ddylanwadodd ar Adda ac Efa i wrthryfela, gan honni’n gelwyddog fod Duw yn atal rhywbeth da rhagddyn nhw. (Genesis 3:1-5) Felly fe’i gelwir ef Diafol (Enllibiwr) a Satan (Gwrthwynebydd). Yn ddiweddarach, fe ddylanwadodd ef ar ysbryd greaduriaid eraill i wrthryfela. Fe ddaethon nhw i gael eu ’nabod fel cythreuliaid.—Deuteronomium 32:17; Datguddiad 12:9; 16:14.
10. Beth ddaeth i ganlyn gwrthryfel bodau dynol ac ysbryd greaduriaid?
10 Wrth wrthryfela yn erbyn Duw, fe gyflwynodd bodau dynol eu hunain i ddylanwad Satan a’i gythreuliaid. Dyna pam mae’r Beibl yn galw Satan yn “dduw’r oes bresennol,” a ‘ddallodd feddyliau’r anghredinwyr.’ O ganlyniad, fe ddywed Gair Duw fod “yr holl fyd yn gorwedd yng ngafael yr Un drwg.” Fe gyfeiriodd Iesu ei hun at Satan fel “Tywysog y byd hwn.”—2 Corinthiaid 4:4; 1 Ioan 5:19; Ioan 12:31.
Dau Bwnc Dadl
11. Ynglŷn â pha bwnc dadl arall yr heriodd Satan Dduw?
11 Fe gododd Satan bwnc dadl arall oedd yn herio Duw. I bob pwrpas, fe gyhuddodd ef Dduw o wneud camgymeriad yn y modd y creodd Ef fodau dynol, ac na fyddai neb eisiau gwneud y peth iawn o’u rhoi nhw dan bwysedd. Mewn gwirionedd, fe honnodd y bydden nhw o dan brawf yn melltithio Duw hyd yn oed. (Job 2:1-5) Yn y ffordd yma fe fwriodd Satan amheuaeth ar uniondeb y greadigaeth ddynol.
12-14. Sut byddai amser yn datgelu’r gwirionedd am y ddau bwnc dadl gododd Satan?
12 Felly, mae Duw wedi caniatáu digon o amser i’r holl greaduriaid deallus weld sut y byddai’r pwnc dadl hwn yn ogystal â phwnc dadl awdurdod brenhinol Duw yn cael eu datrys. (Cymharer Exodus 9:16.) O ganlyniad i hyn fe fyddai profiad hanes dynol yn datgelu’r gwirionedd am y ddau bwnc dadl hyn.
13 Yn gyntaf, beth fyddai amser yn ei ddatgelu ynglŷn â phwnc dadl awdurdod brenhinol cyfanfydol, iawnder teyrnasu Duw? A fedrai dynion eu rheoli eu hunain yn well na Duw? Fyddai unrhyw gyfundrefn reoli ddynol annibynnol ar Dduw yn cyflwyno byd hapus yn rhydd rhag rhyfel, torcyfraith, ac anghyfiawnder? Fyddai unrhyw un yn medru dileu tlodi a sicrhau ffyniant i bawb? Fyddai unrhyw un yn goresgyn salwch, henaint, a marwolaeth? Fe gynlluniwyd teyrnasu Duw i wneud hynny oll.—Genesis 1:26-31.
14 Ynglŷn â’r ail bwnc dadl, beth fyddai amser yn ei ddatgelu ynglŷn â gwerth creu dyn? Ai camgymeriad ydoedd i Dduw fod wedi creu bodau dynol fel y gwnaeth? Fyddai yna unrhyw un ohonyn nhw yn gwneud y peth iawn o dan brawf? Fyddai yna unrhyw bobl yn dangos eu bod nhw’n dymuno teyrnasu Duw yn hytrach na rheoli annibynnol gan ddynion?
[Cwestiynau’r Astudiaeth]
[Llun ar dudalen 13]
Mae Duw wedi caniatáu amser i fodau dynol gyrraedd pinacl eu cyflawniadau
[Llinell diolch]
Y Wennol Ofod: Seiliedig ar ffotograff NASA