Pam ’Rydym Ni’n Marw?
Pam ’Rydym Ni’n Marw?
“Mae’n dawel uwch copaon yr holl fryniau ’nawr, yn holl bennau’r coed prin y clywi anadl; mae’r adar ynghwsg yn y coed: aros; yn fuan gorffwys gei dithau fel y rhain.” —JOHANN WOLFGANG VON GOETHE, BARDD O’R ALMAEN.
1, 2. (a) Â pha ddymuniad y crewyd bodau dynol? (b) Pa fath fywyd a fwynhaodd y pâr dynol cyntaf?
C REODD Duw fodau dynol gyda’r dyhead i fyw am byth. Yn wir, mae’r Beibl yn dweud iddo osod “ymdeimlad o dragwyddoldeb yn eu calonnau.” (Pregethwr 3:11, Beck) Ond fe wnaeth Duw ragor na rhoi dymuniad mewn bodau dynol i fyw am byth. Fe roddodd e’r cyfle iddyn’ nhw i wneud hynny hefyd.
2 Crewyd ein rhieni cyntaf ni, Adda ac Efa, yn berffaith, heb unrhyw ddiffyg o ran meddwl na chorff. (Deuteronomium 32:4) Dychmygwch—dim gwayw na phoen parhaol, dim ofnau morbid na phryderon! Heblaw hynny, gosododd Duw nhw mewn cartref paradwys hyfryd. Bwriad Duw oedd i ddyn fyw am byth ac i’r ddaear ymhen amser gael ei llenwi â’i epil perffaith. (Genesis 1:31; 2:15) Pam, felly, ’rydym ni’n marw?
Canlyniad Anufudd-dod yw Marwolaeth
3. Ar beth ’roedd bywyd tragwyddol ar gyfer Adda ac Efa yn dibynnu?
3 Gorchmynnodd Duw i Adda: “Cei fwyta’n rhydd o bob coeden yn yr ardd, ond ni chei fwyta o bren gwybodaeth da a drwg, oherwydd y dydd y bwytei ohono ef, byddi’n sicr o farw.” (Genesis 2:16, 17) Felly ’roedd bywyd tragwyddol i Adda ac Efa yn amodol; ’roedd yn dibynnu ar eu hufudd-dod i Dduw.
4. Pan bechodd Adda ac Efa, pam collson’ nhw sail gobaith byw am byth ym Mharadwys?
4 Ond y tristwch oedd i Adda ac Efa anufuddhau i gyfraith Duw. (Genesis 3:1-6) O wneud hynny, daethant yn bechaduriaid, oherwydd “anghyfraith yw pechod.” (1 Ioan 3:4) O ganlyniad, ’doedd dim sail gobaith bywyd tragwyddol gan Adda ac Efa mwyach. Pam? Oherwydd “y mae pechod yn talu cyflog, sef marwolaeth.” (Rhufeiniaid 6:23) Felly, wrth ddedfrydu Adda ac Efa, dywedodd Duw: “Llwch wyt ti, ac i’r llwch y dychweli.” Yna gyrrwyd ein rhieni cyntaf allan o’u cartref Paradwys. Y dydd y bu iddyn’ nhw bechu, dechreuodd Adda ac Efa ar broses araf ond cyson marw.—Genesis 3:19, 23, 24.
“Ymledodd Marwolaeth i’r Ddynolryw i Gyd”
5. Sut lledodd marwolaeth i’r holl hil ddynol?
5 ’Roedd pechod ’nawr wedi’i ysgythru’n ddwfn yng ngenynnau Adda ac Efa. Gan hynny, ’fedren’ nhw ddim cynhyrchu epil perffaith, ddim mwy nag y gall mowld amherffaith gynhyrchu gwrthrych perffaith. (Job 14:4) Yn wir, mae pob geni dynol yn cadarnhau i’n rhieni cyntaf golli iechyd perffaith a bywyd tragwyddol iddyn’ nhw eu hunain ac i’w hiliogaeth. Ysgrifennodd Paul, yr apostol o Gristion: “Daeth pechod i’r byd trwy un dyn, a thrwy bechod farwolaeth, ac yn y modd hwn ymledodd marwolaeth i’r ddynolryw i gyd, yn gymaint ag i bawb bechu.”—Rhufeiniaid 5:12; cymharer Salm 51:5.
6. Pam ’rydym ni’n marw?
6 Heddiw ’dyw gwyddonwyr ddim yn gwybod pam yn syml mae bodau dynol yn heneiddio a marw. Mae’r Beibl, fodd bynnag, yn egluro ein bod ni’n marw am inni gael ein geni’n bechadurus, wedi inni etifeddu’r cyflwr hwn gan ein rhieni dynol cyntaf. Ond beth sy’n digwydd inni pan ’rydym yn marw?
[Cwestiynau’r Astudiaeth]