Esblygiad—Y Myth a’r Ffeithiau
“Mae esblygiad cyn wired â gwres yr haul.” Dyna yw honiad yr Athro Richard Dawkins, gwyddonydd blaenllaw yn y maes.16 Wrth gwrs, mae arbrofion ac arsylwi uniongyrchol yn profi bod yr haul yn boeth. Ond ydy tystiolaeth arbrofion ac arsylwadau uniongyrchol yr un mor bendant yn achos esblygiad?
Cyn ateb y cwestiwn hwnnw, mae’n rhaid egluro un peth. Mae llawer o wyddonwyr wedi sylwi bod mân newidiadau yn medru digwydd i bethau byw dros amser. Er enghraifft, gellir dethol cŵn i fridio fel y bydd gan eu disgynyddion goesau byrrach neu flew hirach. a Mae rhai gwyddonwyr yn defnyddio’r term “micro-esblygiad” i ddisgrifio’r mân newidiadau hyn.
Fodd bynnag, mae esblygwyr yn dweud bod mân newidiadau dros filiynau o flynyddoedd yn ddigon i achosi’r newidiadau mawr sydd eu hangen er mwyn troi pysgod yn amffibiaid neu anifeiliaid tebyg i epaod yn ddynion. Diffinnir y newidiadau damcaniaethol hyn fel macro-esblygiad.
Dysgodd Charles Darwin, er enghraifft, 17 Credai fod yr amrywiaeth o fywyd ar y ddaear wedi esblygu’n araf o ffurfiau gwreiddiol syml drwy “fân addasiadau” dros gyfnodau maith o amser.18
fod y newidiadau bach y gellir eu gweld yn awgrymu bod newidiadau mwy yn bosibl er nad oes neb wedi eu gweld.I lawer, mae hyn yn swnio’n rhesymol: ‘Os gall newidiadau bychain ddigwydd o fewn rhywogaeth, pam na fedrai newidiadau mawr ddigwydd drwy esblygiad dros gyfnodau hir?’ b Ond y ffaith amdani yw bod dysgeidiaeth esblygiad yn seiliedig ar dri myth. Ystyriwch y canlynol.
Myth 1. Mae mwtaniadau yn cynhyrchu’r deunydd crai ar gyfer rhywogaethau newydd. Sail macro-esblygiad yw’r honiad fod mwtaniadau, sef hapnewidiadau yng nghod genetig planhigion ac anifeiliaid, yn medru cynhyrchu nid yn unig rhywogaethau newydd ond hefyd deuluoedd hollol newydd o blanhigion ac anifeiliaid.19
Y Ffeithiau. I raddau helaeth, mae nodweddion planhigyn neu anifail wedi eu penderfynu gan y cyfarwyddiadau yn y cod genetig, hynny yw, y cynllun sydd yng nghnewyllyn pob cell. c Mae gwyddonwyr wedi darganfod bod mwtaniadau yn gallu creu newidiadau sy’n cael eu hetifeddu gan genhedlaeth newydd o blanhigion ac anifeiliaid. Ond, a ydy mwtaniadau yn creu rhywogaethau hollol newydd? Beth mae canrif o astudio ym maes geneteg yn ei ddangos?
Tua diwedd y 1930au, roedd brwdfrydedd mawr ymhlith gwyddonwyr dros syniad newydd. Roedden nhw eisoes yn credu y byddai detholiad naturiol—y broses lle mae organebau sy’n fwy addas ar gyfer eu hamgylchedd yn fwy tebygol o oroesi ac atgenhedlu—yn gallu cynhyrchu rhywogaethau newydd o blanhigion drwy fwtaniadau sy’n digwydd ar hap. Roedden nhw’n tybio y byddai gwyddonwyr yn medru gwella ar y broses hon a’i gwneud yn fwy effeithiol drwy ddethol mwtaniadau at ddibenion penodol. “Bu llawenydd mawr ymhlith biolegwyr yn gyffredinol ac yn arbennig ymhlith genetegwyr a bridwyr,” meddai Wolf-Ekkehard Lönnig, gwyddonydd gyda Sefydliad Max Planck ar gyfer Ymchwil i Fridio Planhigion yn yr Almaen. d Pam yr holl orfoledd? Dywedodd Lönnig, a dreuliodd ryw 30 mlynedd yn astudio geneteg mwtaniadau mewn planhigion: “Roedd ymchwilwyr yn meddwl bod y cyfle wedi cyrraedd i chwyldroi’r dulliau traddodiadol o fridio planhigion ac anifeiliaid. Roedden nhw’n meddwl y byddai modd creu gwell blanhigion ac anifeiliaid drwy achosi a dethol mwtaniadau ffafriol.”20 Yn wir, roedd rhai’n gobeithio creu rhywogaethau hollol newydd.
Cafodd gwyddonwyr yn yr Unol Daleithiau, Asia, ac Ewrop gyllid sylweddol ar gyfer ymchwil i geisio cyflymu’r broses o esblygiad. Wedi 40 mlynedd a mwy o ymchwil ddyfal, beth oedd y canlyniadau? Dywed yr ymchwilydd Peter von Sengbusch: “Er gwaethaf buddsoddiad ariannol enfawr, methiant ar y cyfan oedd hanes yr ymgais i ddefnyddio arbelydriad [er mwyn achosi mwtaniadau] i ddatblygu mathau mwy cynhyrchiol o blanhigion.”21 A dywed Lönnig: “Erbyn y 1980au, roedd gobeithion a llawenydd gwyddonwyr ledled y byd wedi mynd i’r gwellt. Fel maes ymchwil annibynnol, daeth bridio mwtaniadau yng ngwledydd y Gorllewin i ben. Roedd bron pob un o’r mwtaniadau . . . yn marw neu roedden nhw’n wannach na’r mathau gwyllt.” e
Eto i gyd, mae ffrwyth tua chan mlynedd o ymchwil gyffredinol ym maes mwtaniadau a 70 mlynedd o arbrofi gyda bridio mwtaniadau yn golygu bod gwyddonwyr yn medru dod i gasgliad ynglŷn â gallu mwtaniadau i gynhyrchu rhywogaethau newydd. Ar ôl edrych ar y dystiolaeth, penderfynodd Lönnig: “Ni all mwtaniadau drawsnewid rhywogaeth wreiddiol [planhigyn neu anifail] yn rhywogaeth hollol newydd. Mae’r casgliad hwn yn gyson â chanlyniadau holl ymchwil yr ugeinfed ganrif ym maes mwtaniadau ynghyd â rheolau tebygolrwydd.”
Felly, all mwtaniadau beri i un rhywogaeth esblygu’n greadur hollol newydd? Yn ôl y dystiolaeth, na allan nhw ddim! Ar ôl blynyddoedd o ymchwil, daeth Lönnig i’r casgliad fod “ffiniau pendant i rywogaethau sydd wedi eu diffinio’n iawn, ffiniau na ellir eu chwalu na’u croesi gan fwtaniadau damweiniol.”22
Ystyriwch oblygiadau’r ffeithiau uchod. Os nad yw gwyddonwyr deallus yn medru creu rhywogaethau newydd drwy achosi a dethol mwtaniadau ffafriol, a fyddai proses ddifeddwl yn medru gwneud yn well? Os yw’r ymchwil yn dangos na all mwtaniadau drawsnewid rhywogaeth wreiddiol yn rhywogaeth hollol newydd, sut yn union y digwyddodd macro-esblygiad?
Myth 2. Detholiad naturiol sy’n gyfrifol am greu rhywogaethau newydd. Roedd Darwin yn credu y byddai detholiad naturiol yn ffafrio’r pethau byw a oedd wedi eu haddasu orau ar gyfer yr amgylchedd, tra byddai ffurfiau bywyd llai addas, yn y pen draw, yn darfod o’r tir. Yn ôl esblygwyr heddiw, wrth i rywogaethau ymledu a chael eu hynysu, roedd detholiad naturiol yn dewis y rhai gyda’r mwtaniadau genetig a fyddai’n caniatáu iddyn nhw oroesi yn eu cynefin newydd. Mae esblygwyr yn damcaniaethu bod y grwpiau annibynnol hyn wedi troi yn y pen draw yn rhywogaethau hollol newydd.
Y Ffeithiau. Fel y dywedwyd eisoes, mae tystiolaeth ymchwil yn dangos yn glir na all mwtaniadau gynhyrchu mathau hollol newydd o blanhigion ac anifeiliaid. Serch hynny, pa dystiolaeth sydd gan esblygwyr i gefnogi’r honiad fod detholiad naturiol yn dewis mwtaniadau llwyddiannus er mwyn creu rhywogaethau newydd? Mae llyfryn a gyhoeddwyd ym 1999 gan y 23
National Academy of Sciences (NAS) yn yr Unol Daleithiau yn cyfeirio at “yr 13 rhywogaeth o linosiaid yr oedd Darwin yn eu hastudio ar Ynysoedd y Galápagos, a elwir bellach yn llinosiaid Darwin.”Yn y 1970au, o dan arweiniad Peter R. a B. Rosemary Grant o Brifysgol Princeton, aeth grŵp ymchwil ati i astudio’r llinosiaid hyn a darganfod bod y rhai gyda phigau mwy wedi goroesi’n well na’r rhai gyda phigau bychain ar ôl blwyddyn o sychder. Gan fod maint a siâp y big yn un o’r prif ffyrdd o wahaniaethu rhwng yr 13 rhywogaeth o linosiaid, roedden nhw’n teimlo bod y canlyniadau hyn yn arwyddocaol. Mae llyfryn yr NAS yn mynd ymlaen i ddweud: “Yn ôl amcangyfrif Peter a Rosemary Grant, os yw cyfnodau o sychder yn digwydd ar yr ynysoedd unwaith bob deng mlynedd, fe fyddai’n bosibl i rywogaeth newydd o linosiaid ymddangos mewn tua 200 mlynedd.”24
Sut bynnag, dydy llyfryn yr NAS ddim yn sôn am y ffaith fod nifer y llinosiaid gyda phigau llai wedi cynyddu yn y blynyddoedd yn dilyn y sychder nes eu bod nhw yn y mwyafrif eto. Darganfyddodd yr ymchwilwyr fod llinosiaid gyda phigau hir yn goruchafu un flwyddyn ond yn ddiweddarach, wrth i’r hinsawdd newid ar yr ynys, roedd y rhai â phigau llai yn goruchafu. Fe sylwon nhw hefyd fod rhai “rhywogaethau” gwahanol o linosiaid yn rhyngfridio a bod eu hepil yn goroesi’n well na’u rhieni. Petai’r rhyngfridio’n parhau, eu casgliad oedd y byddai’r ddwy “rywogaeth” yn mynd yn un.25
Felly, ydy detholiad naturiol yn creu rhywogaethau hollol newydd? Ddegawdau’n ôl, roedd y biolegydd a’r esblygwr George Christopher Williams yn amau nad oedd detholiad naturiol yn medru gwneud y fath beth.26 Ym 1999, ysgrifennodd Jeffrey H. Schwartz, damcaniaethwr ym maes esblygiad, fod detholiad naturiol efallai’n helpu rhywogaethau i addasu i amgylchiadau newydd, ond nid yw’n creu unrhyw beth newydd.27
Yn wir, dydy llinosiaid Darwin ddim yn troi’n “bethau newydd.” Llinosiaid ydyn nhw o hyd. Ac mae’r ffaith eu bod yn rhyngfridio’n bwrw amheuaeth ar y meini prawf y mae rhai esblygwyr yn eu defnyddio i ddiffinio beth yw rhywogaeth. Ar ben hynny, mae’r wybodaeth am yr adar hyn yn dangos nad yw hyd yn oed
academïau gwyddoniaeth bob tro’n cyflwyno tystiolaeth yn ddiduedd.Myth 3. Mae newidiadau macro-esblygiad i’w gweld yn y cofnod ffosil. Ar ôl i rywun ddarllen llyfryn yr NAS, hawdd fyddai cael yr argraff fod y cofnod ffosil yn cynnig digonedd o dystiolaeth o blaid macro-esblygiad. Mae’n datgan: “Mae cymaint o ffurfiau rhyngol wedi eu darganfod rhwng pysgod ac amffibiaid, rhwng amffibiaid ac ymlusgiaid, rhwng ymlusgiaid a mamaliaid, ac yn llinach y primatiaid, nes ei bod, yn aml, yn anodd dweud pryd yn union y newidiodd un rhywogaeth yn rhywogaeth arall.”28
Y Ffeithiau. Mae’n syndod fod llyfryn yr NAS mor hyderus yn ei ddatganiadau. Pam felly? Yn ôl yr esblygwr pybyr Niles Eldredge, mae’r cofnod ffosil yn dangos nid newidiadau graddol ond “fawr ddim o newid esblygiadol yn y rhan fwyaf o rywogaethau” dros gyfnodau maith. f29
Yn ôl y cofnod ffosil, ymddangos yn sydyn a wnaeth pob prif grŵp o anifeiliaid, ac aros bron yn ddigyfnewid
Hyd yma, mae rhyw 200 miliwn o ffosilau mawr a biliynau o rai bach wedi dod i’r fei ledled y byd ac wedi eu cofnodi gan wyddonwyr. Mae llawer o ymchwilwyr yn cytuno bod y cofnod maith a manwl hwn yn tystio bod y prif grwpiau o anifeiliaid wedi ymddangos yn sydyn ac wedi aros bron yn ddigyfnewid, a bod llawer o rywogaethau wedi diflannu’r un mor ddisymwth.
Credu Mewn Esblygiad—Mater o “Ffydd”
Pam mae cymaint o esblygwyr blaengar yn mynnu bod macro-esblygiad yn ffaith? Sylw gonest yr esblygwr dylanwadol Richard Lewontin yw bod llawer o wyddonwyr “eisoes wedi eu hymrwymo’u hunain i fateroliaeth,” a dyna pam maen nhw’n fodlon derbyn honiadau gwyddonol sydd heb eu profi. g Mae llawer o wyddonwyr yn gwrthod hyd yn oed ystyried y posibilrwydd fod yna Ddylunydd deallus, oherwydd, fel y dywed Lewontin, “feiddiwn ni ddim agor cil y drws i’r Troed Dwyfol.”30
Yn y cyswllt hwn, mae’r cylchgrawn Scientific American yn dyfynnu’r cymdeithasegydd Rodney Stark: “Neges 200 mlynedd o farchnata yw bod rhaid i’r sawl sy’n parchu’r meddylfryd gwyddonol gadw ei feddwl yn rhydd rhag hualau crefydd.” Ychwanega fod “pobl grefyddol yn cau eu cegau” mewn prifysgolion ymchwil.31
Os ydych chi am dderbyn bod dysgeidiaeth macro-esblygiad yn wir, mae’n rhaid ichi gredu na fyddai gwyddonwyr sy’n agnostig neu’n anffyddwyr yn caniatáu i’w daliadau personol ddylanwadu ar y ffordd maen nhw’n dadansoddi data gwyddonol. Mae’n rhaid ichi gredu mai mwtaniadau a detholiad naturiol sy’n gyfrifol am bob ffurf ar fywyd, a hynny er gwaethaf canrif o ymchwil sy’n dangos nad yw mwtaniadau wedi llwyddo i droi’r un rhywogaeth, o’i diffinio’n gywir, yn rhywbeth hollol newydd. Mae’n rhaid ichi gredu bod pob creadur byw wedi esblygu’n raddol o’r un tarddiad, a hynny yn wyneb tystiolaeth y cofnod ffosil sy’n dangos bod prif grwpiau o blanhigion ac anifeiliaid wedi ymddangos yn sydyn a ddim wedi esblygu i fod yn grwpiau gwahanol, hyd yn oed dros amser maith. Ydy cred o’r fath yn seiliedig ar ffeithiau neu ar fyth? Mewn gwirionedd, mater o “ffydd” yw credu mewn esblygiad.
a Yn aml, diffygion yn y ffordd y mae’r genynnau yn gweithio sy’n gyfrifol am y newidiadau y gall bridwyr cŵn eu creu. Er enghraifft, mae’r ci dachshund mor fyr oherwydd bod y cartilag yn methu tyfu’n normal a hynny’n achosi’r cyflwr corachedd.
b Defnyddir y gair “rhywogaeth” yn aml yn yr adran hon, ond nid yw’r gair i’w weld yn llyfr cyntaf y Beibl, Genesis. Mae’r Beibl yn defnyddio termau ehangach fel “bob math” a ‘gwahanol fathau.’ Yn aml, mae’r hyn y mae gwyddonwyr yn ei alw’n esblygiad rhywogaeth newydd yn ddim mwy nag amrywiaeth o fewn “math,” fel y defnyddir y gair yn Genesis.
c Mae ymchwil yn dangos bod y cytoplasm, y pilenni a rhannau eraill o’r gell yn cyfrannu at ffurf organeb.
d Mae Lönnig yn credu bod bywyd wedi cael ei greu. Ei sylwadau ei hun sydd yn y llyfryn hwn ac nid ydyn nhw’n cynrychioli barn Sefydliad Max Planck ar gyfer Ymchwil i Fridio Planhigion.
e Dro ar ôl tro, dangosodd arbrofion fod y nifer o fwtaniadau newydd yn graddol leihau tra bod mwtaniadau o’r un teip yn ymddangos yn rheolaidd. Ar ben hynny, dewiswyd llai nag un y cant o fwtaniadau planhigion ar gyfer ymchwil bellach, ac roedd llai nag un y cant o’r rheini yn addas at ddefnydd masnachol. Ni chafodd yr un rhywogaeth newydd erioed ei chreu. Roedd canlyniadau bridio mwtaniadau anifeiliaid hyd yn oed yn waeth na’r rhai mewn planhigion, a rhoddwyd gorau i’r cynllun yn gyfan gwbl.
f Mae hyd yn oed yr enghreifftiau prin hynny y mae ymchwilwyr yn cyfeirio atyn nhw yn y cofnod ffosil fel tystiolaeth bendant o blaid esblygiad yn rhai dadleuol. Gweler tudalennau 22-29 yn y llyfryn The Origin of Life—Five Questions Worth Asking, a gyhoeddir gan Dystion Jehofa.
g Mae “materoliaeth” yn yr ystyr hwn yn cyfeirio at ddamcaniaeth sy’n dweud bod popeth yn y bydysawd, gan gynnwys bywyd o bob math, wedi dod i fodolaeth heb unrhyw ymyrraeth uwchnaturiol.