2 IOAN 1-13; 3 IOAN 1-14–JWDAS 1-25
TRYSORAU O AIR DUW |Rhaid i Ni Frwydro er Mwyn Aros yn y Gwir
Jwdas 3, BCND
Dywedodd Iesu: “Gwnewch eich gorau glas i gael mynd drwy’r drws cul.” (Lc 13:24) Mae geiriau Iesu yn awgrymu brwydro ac ymegnïo er mwyn plesio Duw. Cafodd Jwdas, hanner brawd Iesu, ei ysbrydoli i’n hannog i wneud rhywbeth tebyg, sef brwydro “o blaid y ffydd.” Mae angen ymdrech gyson er mwyn gwneud y canlynol:
-
Gwrthod anfoesoldeb rhywiol.—Jwd 6, 7
-
Parchu’r rhai mewn awdurdod.—Jwd 8, 9
-
Credu’n fwyfwy mewn dysgeidiaethau Cristnogol, sef “y ffydd sy’n dod oddi wrth Dduw.”—Jwd 20, 21