EIN BYWYD CRISTNOGOL
Dewisa Dy Adloniant yn Ddoeth
Pam mae’n rhaid inni ddewis ein hadloniant yn ddoeth? Oherwydd wrth ddewis ein hadloniant, boed ar ffurf ffilm, cân, gwefan, llyfr, neu gêm fideo, rydyn ni’n dewis beth sydd am lenwi ein meddyliau. Mae ein dewisiadau yn effeithio ar ein hymddygiad. Yn anffodus, mae’r rhan fwyaf o’r adloniant sydd ar gael heddiw yn cynnwys rhywbeth mae Jehofa yn ei gondemnio. (Sal 11:5; Ga 5:19-21) Felly, mae’r Beibl yn ein hannog i feddwl bob amser am bethau sy’n plesio Jehofa.—Php 4:8.
GWYLIA’R FIDEO WHAT ENTERTAINMENT SHOULD I CHOOSE?, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
-
Sut mae mwynhau adloniant sy’n cynnwys trais yn debyg i wylio’r gladiatoriaid yn ymladd yn Rhufain gynt?
-
Sut gall aelodau’r gynulleidfa helpu’r rhai ifanc i ddewis adloniant yn ddoeth?
-
Sut dylai Rhufeiniaid 12:9 effeithio ar ein dewis o adloniant?
-
Pa adloniant iach sydd ar gael yn dy ardal di?