Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

A Fedri Di Roi o Dy Amser a Dy Egni?

A Fedri Di Roi o Dy Amser a Dy Egni?

Fel rhagfynegodd Eseia, rydyn ni’n gweld y rhan ddaearol o gyfundrefn Jehofa yn tyfu yn fwy nag erioed. (Esei 54:2) Felly, mae’n rhaid adeiladu Neuaddau’r Deyrnas, Neuaddau Cynulliad, a swyddfeydd cangen. Ac yna mae’n rhaid cynnal yr adeiladau hyn, ac yn y pen draw atgyweirio rhai ohonyn nhw. Pa gyfleoedd sy’n agored inni roi o’n hamser a’n hegni i Jehofa?

  • Gallwn helpu pan fydd ein grŵp gweinidogaeth yn cael ei aseinio i lanhau’r Neuadd y Deyrnas

  • Gallwn wirfoddoli i dderbyn hyfforddiant am sut i gynnal ein Neuadd y Deyrnas

  • Gallwn lenwi ffurflen Local Design/Construction Volunteer Application (DC-50) i helpu bob hyn a hyn ar brosiectau adeiladu a chynnal a chadw yn ein hardal

  • Gallwn lenwi ffurflen Application for Volunteer Program (A-19) i wirfoddoli i weithio am wythnos neu fwy yn un o adeiladau’r gangen leol

GWYLIA’R FIDEO A NEW CONSTRUCTION PROJECT IS BEING PLANNED—EXCERPT, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Ym mha ffordd rydyn ni’n defnyddio fideos yn llawer mwy nawr nag oedden ni blynyddoedd yn ôl?

  • Er mwyn cynhyrchu’r fideos sydd eu hangen arnon ni, pa brosiect sy’n cael ei gynllunio, a phryd bydd y prosiect yn cychwyn ac yn gorffen?

  • Sut gall gwirfoddolwyr helpu gyda’r prosiect hwn?

  • Os ydyn ni eisiau helpu gyda’r gwaith adeiladu yn Ramapo, pam dylen ni lenwi cais (DC-50) a helpu gyda phrosiectau Local Design/Construction yn ein hardal ni?

  • Beth sy’n dangos bod Jehofa yn arwain y prosiect hwn?

  • Sut gallwn ni gefnogi’r prosiect hwn hyd yn oed os na fedrwn ni helpu gyda’r gwaith adeiladu?