EIN BYWYD CRISTNOGOL
“Meddyliwch Bob Amser” am y Pethau Hyn
Pa bethau? Mae Philipiaid 4:8 yn dweud wrthon ni am feddwl am bethau sy’n wir, yn bwysig iawn, yn gyfiawn, yn bur, yn garedig, yn anrhydeddus, yn ddaionus ac yn haeddu eu canmol. Wrth gwrs, dydy hyn ddim yn golygu bod rhaid i Gristnogion feddwl am ddim byd heblaw am y Beibl. Ond, dylai’r hyn rydyn ni’n dewis meddwl amdano blesio Jehofa, ac ni ddylai wanhau ein penderfyniad i fod yn ffyddlon iddo Ef.—Sal 19:14.
Gall fod yn anodd osgoi meddyliau drwg. Mae’n rhaid inni frwydro nid yn unig yn erbyn ein cnawd amherffaith, ond hefyd yn erbyn Satan, “‘duw’ y byd hwn.” (2Co 4:4) Oherwydd mai ef sy’n rheoli cyfryngau’r byd, mae cryn dipyn o’r hyn sydd ar y teledu, y radio, y we, ac mewn print wedi ei lygru. Os nad ydyn ni’n dewis yn ofalus beth sy’n llenwi ein pennau, gall ein meddwl gael ei lygru, ac yn y pen draw, bydd hyn yn effeithio ar ein gweithredoedd.—Iag 1:14, 15.
GWYLIA’R FIDEO AVOID WHAT ERODES LOYALTY—IMPROPER ENTERTAINMENT, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
-
Beth oedd y brawd yn edrych arno ar ei ffôn, a sut cafodd hyn effaith arno?
-
Sut gwnaeth Galatiaid 6:7, 8 a Salm 119:37 ei helpu?