Ebrill 28–Mai 4
DIARHEBION 11
Cân 90 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)
1. Dal Dy Dafod!
(10 mun.)
Paid â dweud rhywbeth a all niweidio pobl eraill (Dia 11:9; w02-E 5/15 26 ¶4)
Wrth siarad, paid â chreu rhaniadau (Dia 11:11; w02-E 5/15 27 ¶2-3)
Paid â thorri cyfrinachedd (Dia 11:12, 13; w02-E 5/15 27 ¶5)
MYFYRIA AR HYN: Sut mae geiriau Iesu yn Luc 6:45 yn ein helpu ni i beidio â dweud pethau a fyddai’n brifo eraill?
2. Cloddio am Drysor Ysbrydol
(10 mun.)
-
Dia 11:17—Sut mae bod yn garedig o les inni? (g20.1 11, blwch)
-
Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?
3. Darlleniad o’r Beibl
(4 mun.) Dia 11:1-20 (th gwers 5)
4. Dechrau Sgwrs
(4 mun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Edrycha am gyfle i rannu rhywbeth rwyt ti wedi ei ddysgu mewn cyfarfod diweddar. (lmd gwers 2 pwynt 4)
5. Parhau â’r Sgwrs
(4 mun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Cyflwyna a thrafoda fideo o’r Bocs Tŵls Dysgu, ond paid â’i chwarae. (lmd gwers 8 pwynt 3)
6. Gwneud Disgyblion
(4 mun.) TYSTIOLAETHU’N GYHOEDDUS. Cynigia astudiaeth Feiblaidd a dangosa sut mae’n cael ei chynnal. (lmd gwers 10 pwynt 3)
Cân 157
7. Paid â Dweud Pethau a Fydd yn Torri Heddwch
(15 mun.) Trafodaeth.
Gan ein bod ni’n amherffaith, rydyn ni’n dweud pethau anghywir. (Iag 3:8) Ond, os ydyn ni’n ymwybodol o’r maglau cyffredin, gallwn ni osgoi dweud pethau fyddwn ni’n difaru wedyn. Dyma rai ffyrdd o siarad a all ddifetha heddwch y gynulleidfa:
-
Brolio anaddas. Gall hunan-ganmoliaeth ennyn ysbryd cystadleuol neu eiddigedd.—Dia 27:2
-
Geiriau anonest. Nid celwyddau pur yn unig sy’n gallu camarwain pobl. Mae hyd yn oed fymryn bach o anonestrwydd yn gallu difetha tryst a niweidio ein henw da.—Pre 10:1
-
Hel clecs. Mae hyn yn cynnwys siarad gwag am fywydau pobl eraill mewn ffordd sy’n camliwio’r ffeithiau neu sy’n datgelu pethau preifat. (1Ti 5:13) Mae’n gallu arwain at ddadleuon a rhaniadau
-
Siarad yn ddig. Gall hyn gynnwys mynegi ein teimladau heb reolaeth pan ydyn ni’n ddig wrth rywun sydd wedi ein hypsetio ni. (Eff 4:26) Mae’n gallu brifo person.—Dia 29:22
Dangosa’r FIDEO “Cael Gwared” ar Bethau Sy’n Torri Heddwch—Clip fideo. Yna gofynna i’r gynulleidfa:
-
Beth ddysgaist ti am beidio â chwalu heddwch y gynulleidfa gyda’n geiriau?
I weld sut cafodd heddwch ei adfer, gwylia’r fideo ‘Ceisiwch Heddwch a’i Ddilyn.’
8. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa
(30 mun.) bt pen. 14 ¶7-10, blwch ar t. 110