EIN BYWYD CRISTNOGOL
Wyt Ti’n Paratoi ar Gyfer y Goffadwriaeth?
Roedd Pasg olaf Iesu am fod yn arwyddocaol. Oherwydd byddai Iesu’n marw yn fuan, roedd yn bwriadu bwyta’r Pasg gyda’i apostolion a chyflwyno rhywbeth newydd y byddai’n cael ei gadw bob blwyddyn, Swper yr Arglwydd. Felly anfonodd Pedr ac Ioan i baratoi’r ystafell. (Lc 22:7-13; gweler y llun ar y clawr.) Mae hyn yn ein hatgoffa ni bod rhaid inni baratoi ar gyfer y Goffadwriaeth ar Mawrth 27. Mae’n debyg fod cynulleidfaoedd wedi gwneud trefniadau ar gyfer siaradwr, yr elfennau, ac ati. Ond, beth gallwn ni ei wneud i baratoi ar gyfer y Goffadwriaeth?
Paratoa dy galon. Darllena a myfyria ar ddarlleniad Beiblaidd y Goffadwriaeth. Mae yna raglen ar gael yn Chwilio’r Ysgrythurau Bob Dydd. Mae Cymorth i Astudio Gair Duw, pennod 16, yn cynnwys rhaglen gyda mwy o fanylion. (Gweler hefyd rhifyn Ebrill 2020 o Gweithlyfr y Cyfarfodydd.) Gall teuluoedd chwilio am wybodaeth ynglŷn â phwysigrwydd y pridwerth yn y Watch Tower Publications Index neu Llawlyfr Cyhoeddiadau Tystion Jehofa. Gallan nhw ystyried y deunydd hwn yn eu haddoliad teuluol.
Gwahodda eraill i ddod. Gwna dy orau yn ymgyrch y Goffadwriaeth. Meddylia am y rhai gelli di eu gwahodd, fel galwadau, cyn-fyfyrwyr Beiblaidd, pobl rwyt ti’n eu hadnabod, a pherthnasau. Dylai henuriaid wahodd y rhai sy’n anweithredol. Cofia os ydy rhywun yn byw mewn ardal wahanol, gelli di ddod o hyd i amser a lleoliad y Goffadwriaeth yn ei ardal drwy glicio ar y tab AMDANON NI ar frig tudalen hafan jw.org/cy, a dewis “Coffadwriaeth.”
Beth arall gallwn ni ei wneud er mwyn paratoi?