Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Cynadleddau Blynyddol—Cyfleoedd i Ddangos Cariad

Cynadleddau Blynyddol—Cyfleoedd i Ddangos Cariad

Pam rydyn ni’n mwynhau ein cynadleddau blynyddol gymaint? Fel yn Israel gynt, mae ein cynadleddau heddiw yn aml yn rhoi cyfle inni addoli Jehofa gyda channoedd neu hyd yn oed miloedd o gyd-gredinwyr. Rydyn ni’n mwynhau gwledd o fwyd ysbrydol o safon uchel. Rydyn ni hefyd yn trysori’r amser gwerthfawr y treuliwn gyda’n ffrindiau a’n teulu. Mae ein gwerthfawrogiad dwfn yn ein hysgogi i fynychu bob diwrnod y gynhadledd.

Pan gawn ni’r cyfle i ddod at ein gilydd, dylen ni feddwl, nid yn unig am sut gallwn ni elwa, ond hefyd am sut i ddangos cariad at eraill. (Ga 6:10; Heb 10:24, 25) Drwy ddal drws yn agored i frawd neu chwaer, neu drwy beidio â chadw seddi yn ddiangen, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n meddwl am les pobl eraill. (Php 2:3, 4) Mae cynadleddau yn gyfleoedd bendigedig inni wneud ffrindiau newydd. Gallwn osod nod i ddod i adnabod rhywun newydd cyn ac ar ôl y rhaglen neu yn ystod amser cinio. (2Co 6:13, BCND) Gallwn wneud ffrindiau a fydd yn ffrindiau am byth! Yn bwysicaf oll, pan fydd ymwelwyr yn gweld gwir gariad ar waith, efallai byddan nhw’n dewis gwasanaethu Jehofa gyda ni.—In 13:35.

GWYLIA’R FIDEO “LOVE NEVER FAILS”! INTERNATIONAL CONVENTIONS, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Sut cafodd cariad ei ddangos at gynadleddwyr yng nghynadleddau rhyngwladol 2019?

  • Pam mae undod a chariad pobl Jehofa mor rhyfeddol?

  • Pa agweddau ar gariad Cristnogol cafodd eu hamlygu gan aelodau’r Corff Llywodraethol?

  • Sut gelli di gyfrannu at y cariad yn ein cynadleddau?

    Sut mae cariad Cristnogol wedi uno ein brodyr yn yr Almaen ac yn Ne Corea?

  • Beth dylen ni fod yn benderfynol o’i wneud?