Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Sut i Ddod yn Fyfyriwr Dyfal o’r Ysgrythurau

Sut i Ddod yn Fyfyriwr Dyfal o’r Ysgrythurau

Hoffet ti aros yn ffyddlon o dan dreialon fel roedd Daniel? Roedd Daniel yn frwd yn ei astudiaeth o Air Duw, gan gynnwys proffwydoliaethau dwfn. (Da 9:2) Mae astudio’r Beibl yn ddyfal yn gallu dy helpu i aros yn ffyddlon. Sut felly? Gall adeiladu dy ffydd y daw addewidion Jehofa yn wir. (Jos 23:14) Gall hefyd dy helpu i garu Duw yn fwy, a bydd hynny yn dy gymell i wneud beth sy’n iawn. (Sal 97:10) Ond yn lle dylet ti gychwyn? Ystyria’r awgrymiadau canlynol.

  • Beth dylwn i ei astudio? Mae arferiad o astudio da yn cynnwys paratoi am y cyfarfodydd. Byddi di’n elwa mwy o ddarlleniad wythnosol o’r Beibl drwy neilltuo amser i ymchwilio pwyntiau nad wyt yn eu deall. Hefyd, mae rhai wedi dewis dysgu mwy am broffwydoliaethau’r Beibl, am rinweddau ffrwythau ysbryd Duw, am deithiau cenhadol Paul, ac am greadigaeth Jehofa. Os daw cwestiwn i dy feddwl yn ystod y dydd, ysgrifenna’r cwestiwn i lawr er mwyn ei astudio y tro nesaf.

  • Ble gallaf gael hyd i’r wybodaeth? I weld yr opsiynau, gwylia’r fideo Research Tools for Discovering Spiritual Treasures. Rho gynnig ar enwi’r grymoedd byd sy’n cael eu portreadu gan fwystfilod Daniel pennod 7.

  • Faint o amser dylwn i dreulio yn astudio? Mae astudio rheolaidd yn allweddol i iechyd ysbrydol. Gelli di gychwyn gyda chyfnodau byrion, os bydd angen, a chynyddu yn raddol. Mae astudio Gair Duw fel cloddio am drysor; mwya’n y byd y byddi di’n darganfod trysor, mwya’n y byd y byddi di eisiau tyllu! (Dia 2:3-6) Bydd dy ddyhead am Air Duw yn cynyddu, a bydd astudio’r Beibl yn parhau i fod yn arferiad rheolaidd iti.—1Pe 2:2.

BETH MAE BWYSTFILOD DANIEL PENNOD 7 YN EI GYNRYCHIOLI?

  • Da 7:4

  • Da 7:5

  • Da 7:6

  • Da 7:7

CWESTIWN YCHWANEGOL:

Sut cafodd Daniel 7:8, 24 ei gyflawni?

PROSIECT NESAF:

Beth mae bwystfilod Datguddiad pennod 13 yn ei gynrychioli?