Datguddio’r Un Digyfraith
At beth roedd Paul yn ei gyfeirio yn yr adnodau canlynol?
-
“Y grym sy’n ei ddal yn ôl” (ad. 6)—Yr apostolion mae’n debyg
-
‘Dod i’r golwg’ (ad. 6)—Yn dilyn marwolaeth yr apostolion, dechreuodd gwrthgilwyr ymhlith y Cristnogion ledaenu gau ddysgeidiaethau ac ymddwyn yn rhagrithiol
-
“Dylanwad dirgel” (ad. 7)—Yn nyddiau Paul, doedd hi ddim yn amlwg pwy oedd yr un digyfraith
-
“Yr un digyfraith” (ad. 8, BCND)—Heddiw, clerigwyr y Byd Cred fel grŵp yw hwn
-
“Bydd yr Arglwydd Iesu . . . yn ei ddinistrio wrth ddod yn ôl gyda’r fath ysblander” (ad. 8)—Bydd Iesu yn ei gwneud hi’n amlwg ei fod yn Frenin yn y nef pan fydd yn gweithredu barn Jehofa ar system Satan, gan gynnwys dinistrio’r un digyfraith
Sut mae’r adnodau hyn yn dy annog di i bregethu gyda sêl a theimlad o frys?