Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

TRYSORAU O AIR DUW | COLOSIAID 1-4

Rhowch Heibio’r Hen a Gwisgwch y Newydd

Rhowch Heibio’r Hen a Gwisgwch y Newydd

3:5-14

A wnest ti newidiadau mawr i dy bersonoliaeth pan ddest ti i’r gwir? Yn bendant, cafodd Jehofa ei blesio gan dy ymdrechion. (Esec 33:11) Fodd bynnag, mae dal ati i feithrin y bersonoliaeth newydd ac atal agweddau o’r hen bersonoliaeth rhag dychwelyd yn gofyn am ymdrech barhaol. Ateba’r cwestiynau canlynol i weld pa agweddau ar dy bersonoliaeth gelli di eu gwella:

  • Ydw i’n dal dig yn erbyn rhywun sydd wedi fy mrifo?

  • Ydw i’n amyneddgar hyd yn oed pan ydw i mewn brys neu wedi blino?

  • Os oes rhywbeth anfoesol yn dod i’m meddwl, ydw i’n ei wrthod yn syth?

  • Oes gen i deimladau negyddol tuag at bobl o hil neu genedl wahanol?

  • Ydw i wedi siarad yn gas â rhywun neu wedi colli fy nhymer yn ddiweddar?