RHOI EIN SYLW I’R WEINIDOGAETH
Ymgyrch Arbennig ar Gyfer y Gynhadledd
Bob blwyddyn, mae yna ddisgwyl mawr am y wledd ysbrydol sydd i’w chael yn ein cynadleddau rhanbarthol. Er mwyn i eraill brofi mai da yw Jehofa, byddwn ni’n gwahodd gymaint ag y medrwn ni i ddod. (Sal 34:8) Bydd pob corff henuriaid yn penderfynu ar sut i wneud y defnydd gorau posibl o’r gwahoddiadau.
MANYLION I’W COFIO
-
Pryd mae fy nghynhadledd i?
-
Pryd mae’r ymgyrch leol yn dechrau?
-
Pryd mae’r cyfarfodydd ar gyfer y weinidogaeth?
-
Beth yw fy nod i yn ystod yr ymgyrch?
-
Pwy ydw i am wahodd?
BETH RWYT TI AM EI DDWEUD?
Ar ôl dweud helo, gallet ti ddweud:
“Rydyn ni’n rhan o ymgyrch fyd-eang i ddosbarthu’r gwahoddiad hwn. Mae’n wahoddiad ichi ddod i ddigwyddiad pwysig iawn. Dyma’r dyddiad, yr amser, a’r lleoliad. Mae croeso cynnes ichi ddod!”
SUT GELLI DI FEITHRIN DIDDORDEB?
Er ein bod ni eisiau gwahodd gymaint o bobl ag y medrwn i’r gynhadledd, dylen ni fod yn effro i alw’n ôl ar ddeiliaid sy’n ymateb yn bositif.
Ar y penwythnosau, gelli di gynnig y cylchgronau ynghyd â’r gwahoddiad.