EIN BYWYD CRISTNOGOL
Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Caneuon Gwreiddiol?
Pa ganeuon gwreiddiol yw dy ffefrynnau di? Pam? Wyt ti’n cytuno bod y fideos yn adlewyrchu ein bywyd pob dydd? Mae ’na rywbeth i bawb ymysg y gwahanol themâu a mathau o gerddoriaeth. Er hynny, mae’r caneuon gwreiddiol a’r fideos cerddoriaeth yn llawer mwy nag adloniant yn unig.
Mae pob cân wreiddiol yn dysgu gwersi pwysig y gallwn ni eu defnyddio yn ein bywyd a’n gweinidogaeth Gristnogol. Lletygarwch, undod, cyfeillgarwch, dewrder, cariad, a ffydd yw themâu rhai o’r caneuon. Tra bod eraill yn canolbwyntio ar ddychwelyd at Jehofa, maddau i eraill, bod yn ffyddlon bob dydd, a cheisio gwasanaethu Jehofa mewn ffyrdd newydd. Mae un gân hyd yn oed yn delio â defnyddio ffonau symudol yn gall. Pa wersi ymarferol eraill rwyt ti wedi eu gweld yn y caneuon gwreiddiol?
GWYLIA FIDEO’R GÂN WREIDDIOL AR Y GORWEL, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL: