Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Moli Jehofa fel Arloeswr

Moli Jehofa fel Arloeswr

Roedd gan yr Israeliaid resymau rhyfeddol dros foli Jehofa. Daeth â nhw allan o’r Aifft a’u hachub nhw rhag byddin y Pharo! (Ex 15:1, 2) Mae Jehofa yn dal yn dangos daioni i’w bobl. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n ddiolchgar?—Sal 116:12.

Un ffordd ydy drwy arloesi’n gynorthwyol neu’n llawn amser. Gelli di weddïo am yr awydd a’r nerth i arloesi. (Php 2:13) Mae llawer yn arloesi’n gynorthwyol yn gyntaf. Gelli di ddewis gwneud un ai 30 neu 50 awr ym misoedd Mawrth ac Ebrill, a hefyd ym mis ymweliad arolygwr y gylchdaith. Ar ôl profi’r llawenydd sy’n dod o arloesi’n gynorthwyol, efallai byddi di eisiau ymestyn i arloesi’n llawn amser. Mae hyd yn oed rhai sy’n gweithio’n llawn amser neu sydd â phroblemau iechyd wedi llwyddo i arloesi’n llawn amser. (mwb16.07 8) Yn bendant, mae Jehofa’n haeddu ein holl ymdrechion i’w foli!—1Cr 16:25.

GWYLIA’R FIDEO THREE SISTERS IN MONGOLIA, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Pa heriau oedd rhaid i’r tair chwaer ddod drostyn nhw er mwyn arloesi?

  • Sut maen nhw wedi cael eu bendithio?

  • Pa gyfleoedd newydd i wasanaethu Jehofa oedd ar gael iddyn nhw gan eu bod yn arloesi’n llawn amser?

  • Sut mae eu hesiampl nhw wedi effeithio ar eraill?