EIN BYWYD CRISTNOGOL
Pryd Ga’ i Wasanaethu Nesaf Fel Arloeswr Cynorthwyol?
Mae gweledigaeth y deml a gafodd Eseciel yn datgelu y byddai pobl Jehofa yn cyfrannu’n wirfoddol. Sut gallwn ni gyflwyno rhoddion o fawl yn bersonol?—Heb 13:15, 16.
Un ffordd ardderchog yw gwasanaethu fel arloeswr cynorthwyol. Ym mlwyddyn wasanaeth 2018 mae sawl mis gyda phum Sadwrn a Sul ynddyn nhw. Bydd hyn yn help mawr i’r rhai sy’n gweithio’n llawn amser ac yn gwneud rhan fwyaf o’u gweinidogaeth ar y penwythnos. Hefyd, caiff cyhoeddwyr ddewis gwneud un ai 30 neu 50 awr ym mis Mawrth ac Ebrill ac yn ystod ymweliad arolygwr y gylchdaith.
Beth os nad yw’n amgylchiadau yn caniatáu inni wasanaethu fel arloeswr cynorthwyol? Gallwn weithio i wella ansawdd ein gweinidogaeth ac efallai cynyddu ein hamser hefyd. Beth bynnag yw’r sefyllfa, gad i gariad tuag at Jehofa ein hysgogi i roi ein gorau iddo yn ystod blwyddyn wasanaeth 2018!—Ho 14:2.
GWYLIA’R FIDEO WITH JEHOVAH, I CAN DO ALMOST ANYTHING, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
-
Beth sy’n ysgogi Sabina i wneud mwy yn ei gwasanaeth i Jehofa?
-
Sut mae esiampl Sabina yn dy annog di?
-
Yn ystod blwyddyn wasanaeth 2018, pa fis, neu fisoedd elli di arloesi’n gynorthwyol?