Pam Dylen Ni Weddïo yn Enw Iesu?
DYSGODD Iesu yn aml am weddi. Yn nyddiau Iesu, roedd arweinwyr crefyddol yr Iddewon yn gweddïo “ar strydoedd prysur.” Pam? Er mwyn i bobl “edrych arnyn nhw.” Yn amlwg, roedden nhw eisiau cael eu hedmygu am eu duwioldeb. Roedd llawer yn dweud gweddïau hir ac ailadroddus, fel petai defnyddio llawer o eiriau yn angenrheidiol i’r weddi cael gwrandawiad. (Mathew 6:5-8) Dangosodd Iesu fod y fath arferion yn ofer, a thrwy wneud hynny helpodd unigolion diffuant i ddeall beth i’w osgoi wrth weddïo. Ond, mi wnaeth fwy na dysgu sut i beidio â gweddïo.
Dysgodd Iesu y dylai ein gweddïau fynegi ein hawydd i weld enw Duw yn cael ei sancteiddio, Ei Deyrnas yn dod, a’i ewyllys yn cael ei wneud. Dysgodd hefyd ei fod yn briodol i ofyn i Dduw ein helpu ni gyda materion personol. (Mathew 6:9-13; Luc 11:2-4) Drwy ddefnyddio eglurebau, dangosodd Iesu ein bod ni angen dyfalbarhad, ffydd, a gostyngeiddrwydd os ydy ein gweddïau am gael gwrandawiad. (Luc 11:5-13; 18:1-14) Ac mi gefnogodd ei ddysgu drwy ei esiampl ei hun.—Mathew 14:23; Marc 1:35.
Heb os mi wnaeth yr hyfforddiant hwn helpu ei ddisgyblion i wella eu gweddïau. Eto, gwnaeth Iesu ddisgwyl tan ei noson olaf ar y ddaear i roi i’w ddisgyblion y wers bwysicaf ar weddi.
”Y Trobwynt yn Hanes Gweddïo”
Treuliodd Iesu y rhan fwyaf o’i noson olaf yn annog ei apostolion ffyddlon. Dyna oedd yr adeg briodol i gyflwyno rhywbeth newydd. “Fi ydy’r ffordd, . . . yr un gwir a’r bywyd,” meddai Iesu. “Does neb yn gallu dod i berthynas gyda Duw y Tad ond trwof fi.” Hwyrach ymlaen rhoddodd addewid cysurlon iddyn nhw: “Beth bynnag a ofynnwch yn fy enw i, fe’i gwnaf, er mwyn i’r Tad gael ei ogoneddu yn y Mab.” Tua diwedd ei drafodaeth, dywedodd: “Hyd yn hyn nid ydych wedi gofyn dim yn fy enw i. Gofynnwch, ac fe gewch, ac felly bydd eich llawenydd yn gyflawn.”—Ioan 14:6, 13; 16:24.
Roedd y geiriau hyn yn drawiadol. Mae un geiriadur Beiblaidd yn disgrifio hyn fel ”y trobwynt yn hanes gweddïo.” Nid bwriad Iesu oedd i weddi gael ei hailgyfeirio oddi wrth Dduw iddo ef. Yn hytrach roedd yn agor ffordd newydd i fynd at Jehofa Dduw.
Mae’n wir fod Duw wastad wedi gwrando ar weddïau ei weision ffyddlon. (1 Samuel 1:9-19; Salm 65:2) Ond, o’r adeg pan wnaeth Duw Gyfamod y Gyfraith ag Israel, roedd y rhai oedd eisiau gwrandawiad i’w gweddïau yn gorfod cydnabod mai Israel oedd cenedl ddewisedig Duw. A hwyrach ymlaen, o adeg Solomon, roedd rhaid iddyn nhw gydnabod mai’r deml oedd y fan roedd Duw wedi ei ddewis ar gyfer aberthu. (Deuteronomium 9:29; 2 Cronicl 6:32, 33) Eto, dim ond dros dro oedd y system honno o addoli. Fel yr ysgrifennodd yr apostol Paul, roedd y Gyfraith a roddwyd i Israel a’r offrymau yn y deml dim ond yn “awgrym o’r pethau gwych” i ddod, “dim y bendithion eu hunain.” (Hebreaid 10:1, 2) Roedd rhaid i’r awgrym, neu’r cysgod, ildio i’r peth go iawn. (Colosiaid 2:17) Ers 33 OG, dydy perthynas unigolyn â Jehofa ddim bellach yn dibynnu ar ufudd-dod i Gyfraith Moses. Yn hytrach, mae wedi ei seilio ar ufudd-dod i’r un roedd y Gyfraith yn pwyntio ato, sef Crist Iesu.—Ioan 15:14-16; Galatiaid 3:24, 25.
“Enw Sydd Goruwch Pob Enw”
Sefydlodd Iesu ffordd well o weddïo ar Jehofa, gan gyflwyno ei hun fel ffrind pwerus, un sy’n agor y ffordd i’n gweddïau cael eu clywed a’u hateb gan Dduw. Beth sy’n galluogi Iesu i weithredu fel hyn ar ein rhan?
Gan ein bod ni i gyd wedi ein geni mewn pechod, does ’na’r un weithred nac aberth sy’n gallu ein glanhau o’r staen hwn, nac ennill inni’r hawl i gael perthynas â’n Duw sanctaidd, Jehofa. (Rhufeiniaid 3:20, 24; Hebreaid 1:3, 4) Ond offrymodd Iesu ei fywyd dynol perffaith i dalu am bechodau pobl achubadwy. (Rhufeiniaid 5:12, 18, 19) Nawr, i’r rhai sy’n dymuno, mae ‘na gyfle i gael statws glân yng ngolwg Jehofa a bod yn “gwbl rydd” i glosio at Dduw—mae hyn ddim ond yn bosib i’r rhai sy’n rhoi eu ffydd yn aberth Iesu ac yn gweddïo yn ei enw.—Effesiaid 3:11, 12.
Pan fyddwn ni’n gweddïo yn enw Iesu, rydyn ni’n dangos ffydd yn y ffaith ei fod yn gwasanaethu mewn o leiaf tair ffordd i gyflawni pwrpas Duw: (1) Ef yw “Oen Duw,” ac y mae ei aberth yn gosod y sylfaen am faddeuant pechod. (2) Cafodd ef ei atgyfodi gan Jehofa a bellach mae’n gweithredu fel “Archoffeiriad” wrth roi bendithion y pridwerth ar waith. (3) Ef yn unig yw’r “ffordd” i ddod at Jehofa mewn gweddi.—Ioan 1:29; 14:6; Hebreaid 4:14, 15.
Mae gweddïo yn enw Iesu yn anrhydeddu Iesu. Yn unol ag ewyllys Duw, mae’r fath anrhydedd yn addas, oherwydd “wrth enw Iesu y plygai pob glin yn y nef ac ar y ddaear a than y ddaear, ac y cyffesai pob tafod fod Iesu Grist yn Arglwydd, er gogoniant Duw Dad.” (Philipiaid 2:10, 11, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Yn bwysicach byth, mae gweddïo yn enw Iesu yn gogoneddu Jehofa, yr un a roddodd ei Fab er ein mwyn ni.—Ioan 3:16.
Dylen ni weddïo “o waelod calon,” nid mewn ffordd fecanyddol
Er mwyn inni ddeall rôl Iesu, mae’r Beibl yn defnyddio amrywiaeth o enwau a theitlau i’w ddisgrifio. Mae’r rhain yn ein helpu i ddeall y bendithion lu sy’n dod inni ar sail yr hyn mae Iesu wedi ei wneud, yn ei wneud, a bydd yn ei wneud ar ein rhan. (Gweler y blwch “ Rôl Bwysig Iesu” .) Yn wir mae Iesu wedi cael yr “enw sydd goruwch pob enw,” * a phob awdurdod yn y nefoedd ac ar y ddaear.—Philipiaid 2:9; Mathew 28:18.
Mwy Nag Arferiad yn Unig
Yn wir, mae rhaid inni ddweud ein gweddïau yn enw Iesu os ydyn ni eisiau i Jehofa wrando arnyn nhw. (Ioan 14:13, 14) Ond fydden ni ddim eisiau ailadrodd “yn enw Iesu” allan o arferiad yn unig. Pam felly?
Ystyriwch yr eglureb hon. Pan fyddwch yn cael llythyr oddi wrth ddyn busnes, gall ddiweddu gyda’r ymadrodd “yr eiddoch yn gywir.” Ydych chi’n teimlo bod hyn yn fynegiant diffuant o deimladau’r dyn busnes, neu ai cydymffurfio i arferiad byd busnes yn unig y mae’r dyn? Mewn gwirionedd, mae rhaid i’r defnydd o enw Iesu mewn gweddi gael mwy o ystyr iddo na’r arferiad o derfynu llythyr busnes. Er y dylen ni ddal ati i weddïo, dylen ni wneud hynny “o waelod calon,” nid mewn ffordd fecanyddol.—1 Thesaloniaid 5:17; Salm 119:145.
Sut gallwn ni osgoi defnyddio “yn enw Iesu” fel arferiad difeddwl yn unig? Beth am fyfyrio ar rinweddau calonogol Iesu? Meddyliwch am yr hyn mae wedi ei wneud drostoch chi yn barod ac yn fodlon gwneud drostoch chi nawr. Rhowch ddiolch i Jehofa yn eich gweddïau, a’i foli am y ffordd ryfeddol mae wedi defnyddio ei Fab. Os gwnewch chi hynny, fyddwch chi’n fwy sicr o addewid Iesu: “Beth bynnag a ofynnwch gan y Tad yn fy enw i, bydd ef yn ei roi ichwi. ”—Ioan 16:23, BCND.
^ Par. 14 Yn ôl Expository Dictionary of New Testament Words, Vine, gall y gair Groeg a gyfieithir “enw” gyfeirio at “bopeth sydd ymhlyg mewn enw, sef awdurdod, cymeriad, safle, mawrhydi, nerth, [ac] ardderchogrwydd.”