Eich Dyfodol Chi, Eich Dewis Chi!
OES GENNYCH CHI UNRHYW DDEWIS YNGLŶN Â’CH DYFODOL? Mae rhai pobl yn credu mai ffawd neu ragordeiniad, nid dewis personol, sy’n rheoli eu bywydau. Pan fyddan nhw’n methu â chyrraedd rhyw nod penodol, maen nhw’n derbyn y canlyniad fel petasai’n amhosib iddyn nhw ei osgoi. “Dyna ydy bywyd!” medden nhw.
Mae eraill yn digalonni oherwydd eu bod nhw’n methu gweld unrhyw ffordd allan o’r byd anghyfiawn rydyn ni’n byw ynddo. Efallai eu bod nhw wedi ceisio gwella eu bywydau—dim ond i weld pethau fel rhyfel, trosedd, trychinebau naturiol, a salwch yn dinistrio eu cynlluniau dro ar ôl tro. ‘Pam hyd yn oed trio?’ maen nhw’n gofyn.
Yn wir, mae amgylchiadau bywyd yn gallu effeithio ar eich cynlluniau yn fawr iawn. (Pregethwr 9:11) Ond, ynglŷn â’ch dyfodol tragwyddol, mae dewis go iawn gennych chi. Ac mae’r Beibl yn dangos bod eich dyfodol yn dibynnu ar y dewis rydych chi’n ei wneud. Ystyriwch beth mae’n ei ddweud.
Gwnaeth Moses, arweinydd cenedl Israel gynt, ddweud wrth y bobl pan oedden nhw ar fin mynd i mewn i Wlad yr Addewid: “Dw i’n gosod dewis o’ch blaen chi—bywyd neu farwolaeth, bendith neu felltith. Felly dewiswch fywyd, a chewch chi a’ch disgynyddion fyw! Rhaid i chi garu’r ARGLWYDD eich Duw, gwrando ar beth mae e’n ddweud ac aros yn ffyddlon iddo.”—Deuteronomium 30:15, 19, 20.
“Dw i’n gosod dewis o’ch blaen chi—bywyd neu farwolaeth, bendith neu felltith. Felly dewiswch fywyd.”—Deuteronomium 30:19
Do, gwnaeth Duw ryddhau’r Israeliaid o gaethiwed yn yr Aifft a rhoi o’u blaenau y gobaith o ryddid a hapusrwydd yng Ngwlad yr Addewid! Ond, fydden nhw ddim yn cael y bendithion hynny yn awtomatig. Er mwyn eu cael nhw, roedd yn rhaid iddyn nhw ddewis bywyd. Sut? Drwy garu Duw, gwrando ar beth mae’n ei ddweud, ac aros yn ffyddlon iddo.
Heddiw, mae dewis tebyg o’ch blaen chithau hefyd, a bydd eich dyfodol yn dibynnu ar y penderfyniad rydych chi’n ei wneud. Drwy ddewis caru Duw, gwrando ar beth mae’n ei ddweud, a bod yn ffyddlon iddo, byddwch chi, mewn ffordd, yn dewis bywyd—bywyd tragwyddol mewn paradwys ar y ddaear. Ond, beth mae’r camau hynny’n ei gynnwys?
DEWIS CARU DUW
Prif rinwedd Duw ydy cariad. Cafodd yr apostol Ioan ei ysbrydoli i ysgrifennu: “Cariad ydy Duw.” (1 Ioan 4:8) Am y rheswm hwn, pan ofynnwyd i Iesu beth ydy’r gorchymyn pwysicaf oll, ei ateb oedd: “Rwyt i garu’r Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid a’th holl feddwl.” (Mathew 22:37) Mae’n rhaid i berthynas go iawn â Duw gael ei seilio, nid ar ofn nac ufudd-dod difeddwl, ond ar gariad. Pam, felly, dylen ni ddewis caru Duw?
Mae cariad Jehofa tuag at ddynolryw yn debyg i gariad rhieni tuag at eu plant. Er eu bod nhw’n amherffaith, mae rhieni yn arwain, yn annog, yn cefnogi, ac yn disgyblu eu plant oherwydd eu bod nhw eisiau iddyn nhw fod yn hapus ac yn llwyddiannus. Beth mae rhieni eisiau yn ei ôl? Maen nhw eisiau i’w plant eu caru nhw a gwrando ar beth maen nhw wedi ei ddysgu i’w plant er eu lles. Onid yw’n rhesymol i’n Tad nefol perffaith ddisgwyl i ninnau ddangos gwerthfawrogiad cariadus am bopeth y mae wedi ei wneud ar ein cyfer?
GWRANDO AR BETH MAE’N EI DDWEUD
Yn iaith wreiddiol y Beibl, mae’r gair “gwrando” yn aml yn cynnwys y syniad o fod yn “ufudd.” Dyna beth ydyn ni’n ei feddwl pan ydyn ni’n dweud wrth blentyn, “Gwranda ar dy rieni.” Felly, mae gwrando ar beth mae Duw’n ei ddweud yn awgrymu dysgu ac ufuddhau i’r hyn mae’n ei ddweud. Gan nad ydyn ni’n gallu clywed llais Duw yn llythrennol, rydyn ni’n gwrando arno drwy ddarllen a rhoi ar waith yr hyn sydd yn ei Air, y Beibl.—1 Ioan 5:3.
Er mwyn pwysleisio pa mor bwysig ydy gwrando ar Dduw, dywedodd Iesu ar un achlysur: “Nid bwyd ydy’r unig beth mae pobl ei angen i fyw, ond popeth mae Duw yn ei ddweud.” (Mathew 4:4) Er bod bwyd yn hanfodol inni, mae derbyn gwybodaeth oddi wrth Dduw yn bwysicach fyth. Pam? Gwnaeth y brenin doeth Solomon egluro: “Mae doethineb, fel arian, yn gysgod i’n cadw’n saff. Ond mantais doethineb ydy hyn: mae doethineb yn cadw’r doeth yn fyw.” (Pregethwr 7:12) Gall gwybodaeth a doethineb oddi wrth Dduw ein hamddiffyn ni heddiw a’n helpu i wneud y dewis doeth sy’n arwain at fywyd tragwyddol yn y dyfodol.
AROS YN FFYDDLON IDDO
Cofiwch am eglureb Iesu a wnaethon ni ei thrafod yn yr erthygl flaenorol, lle dywedodd Iesu: “Mae’r fynedfa sy’n arwain i fywyd yn gul, a’r llwybr yn galed. Does ond ychydig o bobl yn dod o hyd iddi.” (Mathew 7:13, 14) Wrth deithio ar hyd llwybr o’r fath, call fyddai cadw’n agos at rywun sy’n adnabod y ffordd yn dda a hynny er mwyn cyrraedd pen y daith—bywyd tragwyddol. Felly, mae ’na reswm da dros gadw’n agos at Dduw. (Salm 16:8) Ond, sut rydyn ni’n gwneud hynny?
Bob dydd, mae ’na bethau sy’n rhaid inni eu gwneud, a llawer mwy o bethau bydden ni’n hoffi eu gwneud. Gall pethau felly ddwyn cymaint o’n hamser a’n sylw fel nad oes gennyn ni amser i feddwl am beth mae Duw eisiau inni ei wneud. Dyna pam mae’r Beibl yn ein hatgoffa: “Felly, gwyliwch sut dych chi’n ymddwyn. Peidiwch bod yn ddwl—byddwch yn ddoeth. Manteisiwch ar bob cyfle gewch chi i wneud daioni, achos mae digon o ddrygioni o’n cwmpas ni ym mhobman.” (Effesiaid 5:15, 16) Rydyn ni’n aros yn ffyddlon i Dduw drwy sicrhau mai ein perthynas ag ef ydy’r peth pwysicaf yn ein bywyd.—Mathew 6:33.
CHI BIAU’R DEWIS
Er na allwch chi newid y gorffennol, gallwch chi ddewis dyfodol disglair i chi’ch hun a’r bobl rydych chi’n eu caru. Mae’r Beibl yn datgelu bod ein Tad nefol, Jehofa Dduw, yn ein caru ni’n fawr iawn a’i fod yn dangos inni yr hyn y mae eisiau inni ei wneud. Nodwch eiriau’r proffwyd Micha:
“Mae’r ARGLWYDD wedi dweud beth sy’n dda, a beth mae e eisiau gen ti: Hybu cyfiawnder, bod yn hael bob amser, a byw’n wylaidd ac ufudd i dy Dduw.”—Micha 6:8.
A fyddech chi’n derbyn gwahoddiad Jehofa i fyw yn ufudd iddo a chael y bendithion tragwyddol y mae wedi eu haddo i’r rhai sy’n gwneud hynny? Chi biau’r dewis!