Y TŴR GWYLIO Rhif 1 2023 | Iechyd Meddwl—Help o’r Beibl
Mae miliynau o bobl ledled y byd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl. Mae’n gallu llethu pobl o bob oed, statws, cefndir, hil, a chrefydd. Beth ydy anhwylderau meddyliol, a sut maen nhw’n effeithio ar bobl? Bydd y cylchgrawn hwn yn trafod pa mor bwysig ydy cael help meddygol addas yn ogystal â sut gall y Beibl helpu’r rhai sy’n dioddef.
Creisis Iechyd Meddwl Fyd-Eang
Gall anhwylderau iechyd meddwl effeithio ar bobl o bob oed a chefndir. Dysgwch sut gall y Beibl helpu eich iechyd meddwl.
Mae Duw yn Gofalu Amdanoch Chi
Pam gallwch chi fod yn hyderus fod Jehofa Dduw yn deall eich meddyliau a’ch teimladau yn well nag unrhyw un arall?
1 | Gweddi—‘Bwrw Eich Holl Bryder Arno Ef’
A ydych chi wir yn gallu gweddïo ar Dduw am unrhyw beth sy’n eich poeni chi? Sut mae gweddi yn helpu’r rhai sy’n dioddef o orbryder?
2 | Cysur o’r Beibl
Mae neges y Beibl yn rhoi gobaith sicr y bydd emosiynau poenus yn diflannu yn fuan.
3 | Sut Gall Esiamplau o’r Beibl Eich Helpu?
Gall hanesion dynion a merched yn y Beibl oedd â theimladau yr un fath â ni ein helpu ni i deimlo’n llai unig wrth ddelio ag emosiynau cythryblus.
4 | Mae’r Beibl yn Cynnig Cyngor Ymarferol
Dysgwch sut gall meddwl am adnodau o’r Beibl a gosod amcanion rhesymol eich helpu chi i ddelio â’ch problemau iechyd meddwl.
Sut i Helpu’r Rhai Sydd â Iechyd Meddwl Gwael
Gall eich cefnogaeth wneud byd o wahaniaeth i ffrind sy’n dioddef iechyd meddwl gwael.