Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 47

Sut i Gadw Ein Cariad Tuag at Ein Gilydd yn Gryf

Sut i Gadw Ein Cariad Tuag at Ein Gilydd yn Gryf

“Gadewch inni barhau i garu ein gilydd, oherwydd bod cariad yn dod o Dduw.”—1 IOAN 4:7.

CÂN 109 Carwch o Ddyfnder Calon

CIPOLWG a

1-2. (a) Pam roedd Paul yn gallu dweud mai “y mwyaf” o’r rhinweddau ydy cariad? (b) Pa gwestiynau byddwn ni’n eu hystyried?

 PAN oedd yr apostol Paul yn trafod ffydd, gobaith, a chariad, gorffennodd drwy ddweud: “Y mwyaf o’r rhain ydy cariad.” (1 Cor. 13:13) Pam felly? Fydden ni ddim angen ffydd yn addewidion Duw am fyd newydd na gobeithio amdanyn nhw unwaith iddyn nhw gael eu gwireddu. Ond, bydden ni wastad angen cariad tuag at Jehofa a thuag at bobl. Mewn gwirionedd, bydd ein cariad yn tyfu am byth.

2 Gan fod cariad am barhau am byth, rydyn ni am ystyried tri chwestiwn. Yn gyntaf, pam dylen ni garu ein gilydd? Yn ail, sut rydyn ni’n dangos cariad tuag at ein gilydd? Yn drydydd, sut gallwn ni gadw ein cariad tuag at ein gilydd yn gryf?

PAM DYLEN NI GARU EIN GILYDD?

3. Pa resymau sydd gynnon ni dros garu ein gilydd?

3 Pam ei bod hi’n bwysig inni garu ein gilydd? Pan ydyn ni’n dangos cariad tuag at ein brodyr a’n chwiorydd, rydyn ni’n profi ein bod ni’n wir Gristnogion. Dywedodd Iesu wrth ei apostolion: “Bydd pawb yn gwybod eich bod chi’n ddisgyblion i mi os ydych chi’n caru eich gilydd.” (Ioan 13:35) Ar ben hynny, mae cael cariad tuag at ein gilydd yn ein cadw ni’n unedig. Dywedodd Paul fod cariad yn “uno pobl yn berffaith.” (Col. 3:14) Ond, mae ’na reswm pwysig arall dros garu ein gilydd. Ysgrifennodd yr apostol Ioan at ei gyd-gredinwyr “bod rhaid i bwy bynnag sy’n caru Duw garu ei frawd hefyd.” (1 Ioan 4:21) Pan ydyn ni’n dangos cariad tuag at ein gilydd, rydyn ni’n dangos cariad tuag at Dduw.

4-5. Eglura’r cysylltiad rhwng ein cariad tuag at Dduw a’r cariad rydyn ni’n ei ddangos tuag at ein brodyr a’n chwiorydd.

4 Beth ydy’r cysylltiad rhwng y cariad rydyn ni’n ei ddangos tuag at Dduw a’r cariad rydyn ni’n ei ddangos tuag at ein brodyr a’n chwiorydd? I egluro, ystyria’r cysylltiad rhwng ein calon a rhannau eraill ein corff. Pan mae doctor yn mesur pwls rhywun, i weld a yw’n gryf neu’n wan, mae’n dysgu am gyflwr calon y person. Beth sydd gan yr egwyddor hon i’w wneud â chariad?

5 Yn union fel mae doctor yn gallu dysgu am gyflwr ein calon trwy fesur ein pwls, gallwn ninnau ddysgu pa mor gryf ydy ein cariad tuag at Dduw drwy fesur faint o gariad sydd gynnon ni tuag at eraill. Os ydyn ni’n gweld bod ein cariad tuag at eraill yn gwanhau, efallai bod hynny’n arwydd bod ein cariad tuag at Dduw hefyd yn gwanhau. Ond, os ydyn ni’n dangos ein cariad tuag at ein cyd-gredinwyr yn aml, mae hynny’n arwydd bod ein cariad tuag at Dduw yn gryf.

6. Pam dylen ni boeni os ydy ein cariad tuag at ein brodyr a’n chwiorydd yn gwanhau? (1 Ioan 4:​7-9, 11)

6 Os ydy ein cariad tuag at ein brodyr a’n chwiorydd yn gwanhau, mae hynny’n broblem. Pam? Oherwydd bydd hyn yn golygu ein bod ni mewn peryg ysbrydol. Mae’r apostol Ioan yn egluro hyn yn glir drwy ein hatgoffa ni: “Ni all neb sydd ddim yn caru ei frawd, sy’n weledig iddo, garu Duw, sy’n anweledig iddo.” (1 Ioan 4:20) Beth ydy’r wers inni? Byddwn ni ond yn dod â phleser i Jehofa os ydyn ni’n ‘caru ein gilydd.’—Darllen 1 Ioan 4:​7-9, 11.

SUT RYDYN NI’N DANGOS CARIAD TUAG AT EIN GILYDD?

7-8. Ym mha ffyrdd gallwn ni ddangos cariad tuag at ein gilydd?

7 Dro ar ôl tro, mae’r Beibl yn ein gorchymyn ni i “garu ein gilydd.” (1 Ioan 4:11; Ioan 15:​12, 17; Rhuf. 13:8; 1 Thes. 4:9; 1 Pedr 1:22) Ond, mae cariad yn deimlad yn ein calon na all neb arall ei weld. Felly, sut bydd eraill yn gallu gweld ein cariad tuag atyn nhw? Trwy ein geiriau a’n gweithredoedd.

8 Mae ’na nifer o ffyrdd y gallwn ni ddangos i’n brodyr a’n chwiorydd ein bod ni yn eu caru nhw. Dyma rai enghreifftiau: “Dwedwch y gwir wrth eich gilydd.” (Sech. 8:16) Cadwch “heddwch gyda’ch gilydd.” (Marc 9:50) “Byddwch yn awyddus i anrhydeddu eich gilydd.” (Rhuf. 12:10) “Mae’n rhaid ichi groesawu eich gilydd.” (Rhuf. 15:​7, tdn.) “Parhewch i . . . faddau i’ch gilydd.” (Col. 3:13) “Daliwch ati i gario beichiau eich gilydd.” (Gal. 6:2) “Daliwch ati i gysuro eich gilydd.” (1 Thes. 4:18) “Daliwch ati i . . . gryfhau eich gilydd.” (1 Thes. 5:11) “Gweddïwch dros eich gilydd.”—Iago 5:16.

Sut gallwn ni helpu cyd-grediniwr sy’n cael amser anodd? (Gweler paragraffau 7-9)

9. Pam mae cysuro eraill yn rhan mor bwysig o ddangos cariad? (Gweler hefyd y llun.)

9 Nawr rydyn ni am edrych ar un o’r pethau o’r paragraff cynt am sut i ddangos cariad. Rydyn ni am roi mwy o sylw i eiriau Paul: “Daliwch ati i gysuro eich gilydd.” Pam mae cysuro eraill yn rhan mor bwysig o ddangos cariad? Yn ôl un cyfeirlyfr am y Beibl, mae’r gair a ddefnyddiodd Paul ar gyfer “cysur” yn golygu sefyll wrth ochr person er mwyn ei annog wrth iddo fynd drwy broblemau difrifol. Felly, drwy roi cysur, gallwn ni helpu cyd-grediniwr sy’n cael amser anodd i godi a dal ati ar hyd y ffordd i fywyd. Bob amser rydyn ni’n cysuro’r brawd, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n ei garu.—2 Cor. 7:​6, 7, 13.

10. Beth ydy’r cysylltiad rhwng tosturi a chysur?

10 Mae teimlo tosturi a rhoi cysur yn debyg iawn i’w gilydd. Ym mha ffordd? Mae person tosturiol yn cysuro eraill ac yn gwneud ei orau i’w helpu nhw pan fyddan nhw’n dioddef. Yn gyntaf, rydyn ni’n teimlo tosturi ac wedyn rydyn ni’n rhoi cysur. Sylwa ar sut mae Paul yn sôn am y tosturi a’r cysur mae Jehofa yn eu rhoi. Mae Paul yn disgrifio Jehofa fel “y Tad sy’n llawn trugaredd a Duw pob cysur.” (2 Cor. 1:3) Fel mae’r nodyn astudio yn egluro, defnyddiodd Paul y geiriau “llawn trugaredd” i ddisgrifio teimlo dros eraill. Felly, mae Duw yn cael ei alw’n Dad, neu Ffynhonnell, pob cysur oherwydd ei dosturi cryf at eraill. Ac mae ei dosturi yn ei gymell i’n cysuro ni yn “ein holl dreialon.” (2 Cor. 1:4) Fel mae dŵr glân ffres yn adfywio rhai sychedig, mae Jehofa yn adfywio ac yn rhoi cysur i’r rhai sy’n dioddef. Sut gallwn ni efelychu Jehofa drwy deimlo tosturi a rhoi cysur i eraill? Un ffordd ydy trwy feithrin rhinweddau sydd i’w wneud â chysur. Beth ydy rhai o’r rhinweddau hyn?

11. Yn ôl Colosiaid 3:12 a 1 Pedr 3:​8, pa rinweddau eraill sy’n angenrheidiol er mwyn caru a chysuro eraill?

11 Beth fydd yn ein helpu ni i feithrin cariad angenrheidiol er mwyn ‘dal ati i gysuro ein gilydd’ bob dydd? Rydyn ni angen rhinweddau tyner fel cydymdeimlad, cariad brawdol, a charedigrwydd. (Darllen Colosiaid 3:12; 1 Pedr 3:8.) Sut bydd y rhinweddau hyn yn ein helpu ni? Pan mae tosturi a rhinweddau tebyg yn rhan o’n personoliaeth, mae’n hynod o naturiol inni helpu’r rhai sy’n dioddef. Dywedodd Iesu, “o lawnder y galon y mae’r geg yn siarad. Mae’r dyn da o’i drysor da yn anfon pethau da allan.” (Math. 12:​34, 35) Mae cysuro ein brodyr a’n chwiorydd sydd angen help yn ffordd bwysig o ddangos cariad.

SUT GALLWN NI GADW EIN CARIAD TUAG AT EIN GILYDD YN GRYF?

12. (a) Pam mae’n rhaid inni gadw’n effro? (b) Pa gwestiwn bydden ni nawr yn ei ystyried?

12 Mae pob un ohonon ni angen ‘parhau i garu ein gilydd.’ (1 Ioan 4:7) Ond, mae’n bwysig inni gofio rhybudd Iesu: “Bydd cariad y rhan fwyaf o bobl yn oeri.” (Math. 24:12) Doedd Iesu ddim yn golygu y byddai rhan fwyaf o’i ddisgyblion yn stopio dangos cariad tuag at ei gilydd. Er hynny, mae’n rhaid inni gadw’n effro er mwyn peidio â chael ein dylanwadu gan y diffyg cariad sydd yn y byd. Trwy gofio hynny, gad inni ystyried y cwestiwn pwysig hwn: A oes ’na ffordd i brofi a ydy ein cariad tuag at ein brodyr a’n chwiorydd yn gryf?

13. Beth sy’n gallu rhoi ein cariad ar brawf?

13 Gall y ffordd rydyn ni’n ymateb i sefyllfaoedd gwahanol ddangos pa mor gryf ydy ein cariad. Mae’r apostol Pedr yn sôn am sefyllfa o’r fath trwy ddweud: “Uwchlaw popeth, dangoswch gariad dwfn tuag at eich gilydd, oherwydd mae cariad yn gorchuddio nifer mawr o bechodau.” (1 Pedr 4:8) Felly, gall gwendidau ac amherffeithion ein brodyr roi prawf ar ein cariad.

14. Yn ôl 1 Pedr 4:​8, pa fath o gariad rydyn ni ei angen? Eglura.

14 Gad inni edrych yn fwy manwl ar eiriau Pedr. Mae rhan gyntaf adnod 8 yn disgrifio’r math o gariad rydyn ni ei angen—‘cariad dwfn.’ Yma, mae’r gair “dwfn” yn llythrennol yn golygu “wedi ei estyn allan.” Mae ail ran yr adnod yn disgrifio’r effaith gall cariad dwfn ei chael. Mae’n gorchuddio pechodau ein brodyr. Dychmyga fod gen ti fwrdd sy’n llawn marciau ac amherffeithion. Gelli di gymryd lliain a’i estyn dros y bwrdd i orchuddio’r marciau i gyd. Mewn ffordd debyg, os ydyn ni’n teimlo cariad dwfn tuag at ein brodyr a’n chwiorydd, mae fel ein bod ni’n gorchuddio, neu’n maddau, ‘nifer mawr o’u pechodau.’

15. Os ydy ein cariad tuag at ein brodyr a’n chwiorydd yn ddigon cryf, beth gallwn ni’n ei wneud? (Colosiaid 3:13)

15 Dylai ein cariad tuag at ein brodyr a’n chwiorydd fod yn ddigon cryf i allu maddau amherffeithion ein cyd-gredinwyr—hyd yn oed petasai hynny’n hynod o anodd. (Darllen Colosiaid 3:13.) Pan ydyn ni’n llwyddo i faddau i eraill, rydyn ni’n dangos bod ein cariad ni’n gryf ac ein bod ni eisiau plesio Jehofa. Beth arall all ein helpu ni i faddau camgymeriadau pobl eraill ac i beidio â chynhyrfu?

Yn union fel rydyn ni’n cadw’r lluniau gorau ac yn dileu’r gweddill, rydyn ni’n trysori atgofion melys ein cyd-gredinwyr ac yn gwrthod meddwl am yr atgofion drwg (Gweler paragraffau 16-17)

16-17. Beth fydd hefyd yn ein helpu ni i faddau pechodau llai difrifol pobl eraill? Eglura. (Gweler hefyd y llun.)

16 Canolbwyntia ar rinweddau positif dy frodyr a dy chwiorydd. Ystyria’r gymhariaeth hon. Dychmyga dy fod ti’n cwrdd â rhai o dy frodyr a dy chwiorydd. Rwyt ti’n cael amser da ac rwyt ti’n penderfynu tynnu llun o’r grŵp. Er mwyn gwneud yn siŵr bod y llun yn troi allan yn dda, rwyt ti’n tynnu dau lun arall. Nawr, mae gen ti dri llun. Ond, yn un o’r lluniau, dydy un brawd ddim yn gwenu. Felly, beth rwyt ti’n ei wneud? Rwyt ti yn ei ddileu, gan fod gen ti ddau lun arall o’r grŵp lle mae’r brawd yn gwenu.

17 Gad inni gymharu’r lluniau hynny â’n hatgofion. Fel arfer, mae gynnon ni atgofion melys o dreulio amser gyda’n brodyr a’n chwiorydd. Ond petasai brawd neu chwaer yn dweud neu’n gwneud rhywbeth sy’n dy frifo di, sut byddet ti’n cofio’r digwyddiad hwnnw? Mae’n rhaid inni ei anghofio, yn union fel y bydden ni’n dileu un o’r lluniau. (Diar. 19:11; Eff. 4:32) Mae’n bosib inni anghofio pechodau llai difrifol brawd neu chwaer oherwydd bod gynnon ni atgofion melys o dreulio amser gydag ef neu hi. Yr atgofion hynny ydy’r rhai rydyn ni eisiau eu trysori.

PAM RYDYN NI WIR ANGEN CARIAD HEDDIW?

18. Pa bwyntiau am gariad rydyn ni wedi eu trafod yn yr erthygl hon?

18 Pam rydyn ni eisiau cadw ein cariad tuag at ein gilydd yn gryf? Fel rydyn ni wedi ei ystyried, pan ydyn ni’n dangos cariad tuag at ein brodyr a’n chwiorydd, rydyn ni’n dangos cariad tuag at Jehofa. Un ffordd gallwn ni ddangos cariad tuag at ein cyd-gredinwyr ydy drwy roi cysur. Byddwn ni’n gallu ‘dal ati i gysuro ein gilydd’ os ydyn ni’n dangos tosturi. Gallwn ni gadw ein cariad tuag at eraill yn gryf drwy wneud ein gorau i faddau camgymeriadau pobl eraill.

19. Pam ei bod hi’n hynod o bwysig i ddangos cariad tuag at ein gilydd heddiw?

19 Pam ei bod hi’n hynod o bwysig inni ddangos cariad tuag at ein gilydd heddiw? Sylwa ar y rheswm roddodd Pedr: “Mae diwedd pob peth wedi agosáu. Felly, . . . dangoswch gariad dwfn tuag at eich gilydd.” (1 Pedr 4:​7, 8) Beth fydd yn digwydd wrth i’r byd hwn dod i ben? Wrth siarad am ei ddilynwyr, dywedodd Iesu: “Bydd yr holl genhedloedd yn eich casáu chi o achos fy enw i.” (Math. 24:9) Er mwyn gwrthsefyll casineb o’r fath, mae’n rhaid inni aros yn unedig. A chan fod cariad yn “uno pobl yn berffaith,” bydd ymdrechion Satan i’n gwahanu ni yn methu.—Col. 3:14; Phil. 2:​1, 2.

CÂN 130 Byddwch Faddeugar

a Yn fwy nag erioed, mae’n hynod o bwysig inni ddangos cariad tuag at ein brodyr a’n chwiorydd. Pam felly, a sut gallwn ni ddangos cariad tuag at ein gilydd?