Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 49

A Fydd Jehofa yn Ateb Fy Ngweddïau?

A Fydd Jehofa yn Ateb Fy Ngweddïau?

“Byddwch yn galw arna i ac yn gweddïo, a bydda i’n gwrando.”—JER. 29:12.

CÂN 41 Plîs Gwrando ar Fy Ngweddi

CIPOLWG a

1-2. Pam gallwn ni deimlo nad ydy Jehofa yn ateb ein gweddïau?

 “CEISIA ffafr yr ARGLWYDD bob amser, a bydd e’n rhoi i ti bopeth wyt ti eisiau.” (Salm 37:4) Am addewid rhyfeddol! Ond a ddylen ni ddisgwyl i Jehofa roi inni bopeth rydyn ni’n gofyn amdano yn syth bin? Pam efallai bydden ni’n gofyn y cwestiwn hwnnw? Ystyria’r esiamplau canlynol. Mae chwaer sengl yn gweddïo am gael mynd i’r Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas. Ond ar ôl rhai blynyddoedd, dydy hi ddim wedi cael gwahoddiad. Mae brawd ifanc yn gofyn i Jehofa ei iacháu o afiechyd difrifol er mwyn iddo allu gwneud mwy yn y gynulleidfa. Ond dydy ei iechyd ddim yn gwella. Mae rhieni Cristnogol yn gweddïo y bydd eu plentyn yn aros yn y gwir. Ond mae’r plentyn yn penderfynu stopio gwasanaethu Jehofa.

2 Efallai dy fod ti hefyd wedi gofyn i Jehofa am rywbeth ond heb ei dderbyn. O ganlyniad, efallai byddi di’n meddwl bod Jehofa yn ateb rhai gweddïau, ond nid dy weddïau di. Neu efallai byddi di’n meddwl dy fod ti wedi gwneud rhywbeth o’i le. Dyna sut roedd chwaer o’r enw Janice b yn teimlo. Roedd hi a’i gŵr wedi gweddïo am gael gwasanaethu yn y Bethel. Mae hi’n dweud: “Roedden ni’n siŵr y bydden ni yn y Bethel ymhen dim o amser.” Ond trodd y misoedd yn flynyddoedd, a doedd y cwpl ddim wedi cael gwahoddiad. Mae Janice yn dweud: “O’n i’n teimlo’n drist ac wedi drysu. O’n i’n gofyn beth oeddwn i wedi ei wneud i siomi Jehofa. O’n i wedi gweddïo gymaint am gael mynd i’r Bethel. Pam nad oedd Jehofa wedi ateb fy ngweddi?”

3. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

3 Ar adegau gallwn ofyn a ydy Jehofa yn gwrando ar ein gweddïau. Mae rhai dynion ffyddlon yn y gorffennol wedi gofyn yr un cwestiwn. (Job 30:20; Salm 22:2; Hab. 1:2) Beth sy’n gallu dy helpu di i wybod y bydd Jehofa yn ateb dy weddïau? (Salm 65:2) I ateb y cwestiwn hwnnw, bydd rhaid inni yn gyntaf ateb y cwestiynau canlynol: (1) Beth gallwn ni ei ddisgwyl gan Jehofa? (2) Beth mae Jehofa yn ei ddisgwyl gynnon ni? (3) Pam efallai bydd rhaid inni addasu rhai o’n gweddïau?

BETH GALLWN NI EI DDISGWYL GAN JEHOFA?

4. Yn ôl Jeremeia 29:​12, beth mae Jehofa yn addo ei wneud?

4 Mae Jehofa yn addo gwrando ar ein gweddïau. (Darllen Jeremeia 29:12.) Mae ein Duw yn caru ei addolwyr ffyddlon, felly ni fydd byth yn anwybyddu eu gweddïau. (Salm 10:17; 37:28) Ond dydy hynny ddim yn golygu y bydd yn rhoi inni bopeth rydyn ni eisiau. Efallai bydd rhaid inni ddisgwyl am y byd newydd cyn inni dderbyn rhai o’r pethau rydyn ni wedi gofyn amdanyn nhw.

5. Beth mae Jehofa yn ei ystyried wrth iddo wrando ar ein gweddïau? Esbonia.

5 Mae gan Jehofa ei bwrpas mewn meddwl wrth wrando ar ein gweddïau. (Esei. 55:​8, 9) Rhan o’i bwrpas ydy llenwi’r ddaear â phobl sy’n hapus i fod yn ufudd iddo. Ond mae Satan yn honni y byddai pawb yn hapusach petasen nhw’n eu rheoli eu hunain. (Gen. 3:​1-5) Er mwyn profi bod Satan yn gelwyddog, mae Jehofa wedi caniatáu i bobl eu rheoli eu hunain. Ond mae llywodraethau dynol wedi achosi llawer o’r problemau rydyn ni’n eu hwynebu heddiw. (Preg. 8:9) Rydyn ni’n deall na fydd Jehofa yn dileu’r problemau hyn i gyd ar hyn o bryd. Petai’n gwneud hynny, efallai byddai rhai’n dod i’r casgliad bod llywodraethau dynol yn gallu datrys holl broblemau dynolryw.

6. Pam mae’n rhaid inni fod yn sicr bod Jehofa yn wastad yn gwneud beth sy’n gariadus a chyfiawn?

6 Gall Jehofa ymateb mewn gwahanol ffyrdd i weddïau tebyg. Er enghraifft, pan oedd y Brenin Heseceia yn sâl ofnadwy, erfyniodd ar Jehofa i’w wella. Mewn ateb i’w weddi, cafodd ei iacháu gan Jehofa. (2 Bren. 20:​1-6) Ar y llaw arall, pan erfyniodd yr apostol Paul ar Jehofa am iddo gael gwared ar y “ddraenen yn y cnawd,” a oedd efallai’n afiechyd o ryw fath, wnaeth Jehofa ddim cael gwared ar y broblem. (2 Cor. 12:​7-9) Ystyria hefyd esiamplau’r apostolion Iago a Pedr. Roedd y Brenin Herod eisiau lladd y ddau ohonyn nhw. Gwnaeth y gynulleidfa weddïo dros Pedr, ac, mae’n debyg, dros Iago hefyd. Ond cafodd Iago ei ladd, tra bod angel wedi achub Pedr mewn ffordd wyrthiol. (Act. 12:​1-11) Efallai byddwn ni’n gofyn, ‘Pam achubodd Jehofa Pedr, heb achub Iago hefyd?’ Dydy’r Beibl ddim yn dweud. c Ond gallwn ni fod yn sicr nad ydy ffyrdd Jehofa “byth yn anghyfiawn.” (Deut. 32:4) Ac rydyn ni’n gwybod roedd y ddau yn werthfawr iddo. (Dat. 21:14) Ar adegau, efallai bydd Jehofa yn ateb ein gweddïau mewn ffyrdd annisgwyl. Ond gan ein bod ni’n ymddiried yn Jehofa i ateb ein gweddïau mewn ffordd gariadus a chyfiawn, dydyn ni’n ddim yn cwestiynu sut mae’n dewis i’n hateb.—Job 33:13.

7. Beth dylen ni ei osgoi, a pham?

7 Rydyn ni’n ceisio osgoi cymharu ein sefyllfa ni â sefyllfa pobl eraill. Er enghraifft, efallai bydden ni’n gofyn i Jehofa ein helpu mewn ffordd benodol, ond dydyn ni ddim yn cael yr ateb roedden ni’n gofyn amdano. Yn nes ymlaen, rydyn ni’n clywed bod rhywun arall wedi gweddïo am yr un peth, ac mae’n ymddangos fel bod Jehofa wedi ateb y weddi honno. Cafodd chwaer o’r enw Anna profiad o’r fath. Roedd hi wedi gweddïo i’w gŵr Matthew wella o ganser. Roedd dwy hen chwaer Gristnogol hefyd yn brwydro yn erbyn canser. Gweddïodd Anna’n daer dros Matthew a dros y ddwy chwaer. Gwnaeth y ddwy chwaer wella, ond bu farw Matthew. Ar y dechrau, meddyliodd Anna mai Jehofa oedd yn gyfrifol am wella’r ddwy chwaer. Ac os felly, pam nad oedd Jehofa wedi ateb ei gweddi hi am i’w gŵr gael gwella hefyd? Wrth gwrs, fedrwn ni ddim dweud pam cafodd y ddwy chwaer eu gwella. Yr hyn rydyn ni’n ei wybod ydy y bydd Duw yn dod â phob dioddefaint i ben, a’i fod yn hiraethu am atgyfodi ei ffrindiau sydd wedi marw.—Job 14:15.

8. (a) Yn ôl Eseia 43:​2, sut mae Jehofa yn ein cefnogi ni? (b) Sut gall gweddi ein helpu ni wrth wynebu treialon? (Gweler y fideo Mae Gweddi yn Ein Helpu i Ddal Ati.)

8 Bydd Jehofa yn wastad yn ein cefnogi. Dydy Jehofa, ein Tad cariadus, ddim yn hoffi ein gweld nid mewn poen. (Esei. 63:9) Eto, nid yw’n rhwystro ein holl dreialon a all gael eu cymharu â llifogydd neu fflamau. (Darllen Eseia 43:2.) Ond mae Jehofa wedi addo ein helpu ni, ac ni fydd yn caniatáu i’n treialon achosi niwed parhaol inni. Hefyd, mae Jehofa yn rhoi ei ysbryd glân pwerus inni er mwyn inni allu dal ati. (Luc 11:13; Phil. 4:13) O ganlyniad, gallwn ni fod yn hyderus y byddwn ni’n wastad yn cael yn union beth rydyn ni ei angen er mwyn dyfalbarhau ac aros yn ffyddlon iddo. d

BETH MAE JEHOFA YN EI DDISGWYL GYNNON NI?

9. Yn unol â Iago 1:​6, 7, pam mae’n rhaid inni drystio y bydd Jehofa yn ein helpu?

9 Mae Jehofa yn disgwyl inni ymddiried ynddo. (Heb. 11:6) Ar adegau, gallwn ni deimlo ei bod yn amhosib dod dros ein treialon. Gallwn hyd yn oed ddechrau amau a fydd Jehofa’n ein helpu ni. Ond mae’r Beibl yn ein sicrhau ni y gall Jehofa, drwy ei nerth, ein helpu ni i “neidio unrhyw wal.” (Salm 18:29) Felly, yn lle bod yn llawn amheuon, dylen ni weddïo mewn ffydd ac ymddiried yn Jehofa i ateb ein gweddïau.—Darllen Iago 1:​6, 7.

10. Eglura sut gallwn ni weithredu’n unol â’n gweddïau.

10 Mae Jehofa yn disgwyl inni weithredu yn unol â’n gweddïau. Er enghraifft, gall brawd ofyn i Jehofa am help i gael amser i ffwrdd o’r gwaith er mwyn mynd i gynhadledd ranbarthol. Sut gall Jehofa ateb y weddi honno? Gallai helpu’r brawd i fod yn ddewr a gofyn i’w gyflogwr. Ond bydd yn dal yn rhaid iddo fynd at ei gyflogwr. Efallai bydd rhaid iddo ofyn mwy nag unwaith. Efallai bydd rhaid iddo wneud trefniadau gyda chyd-weithiwr i newid shifftiau. Ac efallai bydd rhaid iddo gynnig cymryd yr amser i ffwrdd heb dâl.

11. Pam dylen ni weddïo dro ar ôl tro am ein pryderon?

11 Mae Jehofa yn disgwyl inni weddïo’n ddi-baid am ein pryderon. (1 Thes. 5:17) Awgrymodd Iesu na fyddai rhai o’n gweddïau yn cael eu hateb yn syth. (Luc 11:9) Felly paid â rhoi’r gorau iddi. Gweddïa’n daer dro ar ôl tro. (Luc 18:​1-7) Drwy weddïo’n barhaol am rywbeth, rydyn ni’n dangos i Jehofa ein bod ni o ddifri. Rydyn ni hefyd yn dangos ein ffydd yn ei allu i’n helpu.

PAM EFALLAI BYDD RHAID INNI ADDASU RHAI O’N GWEDDÏAU?

12. (a) Pa gwestiwn dylen ni ei ofyn i ni’n hunain am yr hyn rydyn ni’n gweddïo amdano, a pham? (b) Sut gallwn ni sicrhau bod ein gweddïau yn dangos parch tuag at Jehofa? (Gweler y blwch “ Ydy Fy Ngweddïau yn Dangos Parch Tuag at Jehofa?”)

12 Os nad ydyn ni’n cael beth rydyn ni wedi gweddïo amdano, gallwn ofyn tri chwestiwn. Y cyntaf ydy, ‘Ydw i’n gweddïo am y peth iawn?’ Yn aml, rydyn ni’n meddwl ein bod ni’n gwybod yn union beth sydd orau inni. Ond efallai ni fydd y peth hwnnw yn dda inni yn y tymor hir. Efallai bod ’na ateb gwell i’r broblem rydyn ni’n gweddïo amdani. Ac mae’n bosib ein bod ni’n gweddïo am rywbeth sydd ddim yn unol â phwrpas Duw. (1 Ioan 5:14) Er enghraifft, ystyria esiampl y rhieni y soniwyd amdanyn nhw’n gynt. Roedden nhw wedi gofyn i Jehofa gadw eu plentyn yn y gwir. Gall hynny deimlo’n ddigon rhesymol. Ond ni fydd Jehofa byth yn gorfodi unrhyw un i’w wasanaethu. Mae eisiau i bob un ohonon ni, gan gynnwys ein plant, ddewis ei addoli. (Deut. 10:​12, 13; 30:​19, 20) Felly gallai’r rhieni weddïo am help i gyffwrdd â chalon y plentyn er mwyn iddo gael ei ysgogi i garu Jehofa a dod yn ffrind iddo.—Diar. 22:6; Eff. 6:4.

13. Yn ôl Hebreaid 4:​16, pryd fydd Jehofa yn ein helpu ni? Esbonia.

13 Yr ail gwestiwn ydy, ‘Ai nawr ydy’r amser i Jehofa ateb fy ngweddi?’ Gallwn ni deimlo ein bod ni angen ateb i’n gweddïau’n syth. Ond mae Jehofa yn gwybod yr amser gorau i’n helpu. (Darllen Hebreaid 4:16.) Pan na fyddwn ni’n derbyn y peth gofynnon ni amdano yn syth, efallai byddwn ni’n meddwl mai ateb Jehofa yw ‘Na.’ Ond mewn gwirionedd efallai ei ateb yw ‘Dim eto.’ Er enghraifft, meddylia eto am y brawd ifanc a weddïodd am gael ei iacháu. Petai wedi cael ei iacháu’n wyrthiol, gallai Satan fod wedi dadlau mai dim ond oherwydd hynny gwnaeth y brawd ddal ati i wasanaethu Jehofa. (Job 1:​9-11; 2:4) Hefyd, mae Jehofa eisoes wedi penodi amser i wella pob salwch. (Esei. 33:24; Dat. 21:​3, 4) Tan hynny, fedrwn ni ddim disgwyl i Jehofa wneud gwyrthiau i’n hiacháu. Felly gall y brawd ofyn i Jehofa am gryfder a heddwch meddwl i ddyfalbarhau er gwaethaf ei salwch a pharhau i wasanaethu Duw yn ffyddlon.—Salm 29:11.

14. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o brofiad Janice?

14 Cofia brofiad Janice, a weddïodd am gael gwasanaethu yn y Bethel. Aeth pum mlynedd heibio cyn iddi weld ateb i’w gweddi. Mae hi’n dweud: “Defnyddiodd Jehofa yr amser i ddysgu llawer o bethau imi, ac i fy helpu i fod yn well Gristion. Roedd rhaid imi ddysgu i bwyso arno’n fwy. Roedd rhaid gwella’r ffordd roeddwn i’n astudio. Ac roedd rhaid imi ddysgu i fod yn llawen er gwaethaf fy amgylchiadau.” Yn hwyrach, cafodd Janice a’i gŵr wahoddiad i wasanaethu yn y gwaith cylch. Wrth edrych yn ôl, mae Janice yn dweud: “Atebodd Jehofa fy ngweddïau ond nid yn y ffordd roeddwn i’n ei disgwyl. Cymerodd dipyn o amser imi weld bod yr ateb gefais gan Jehofa yn un prydferth, ond dw i mor ddiolchgar fy mod wedi gallu teimlo ei gariad a’i garedigrwydd.”

Os nad wyt ti wedi derbyn ateb gan Jehofa, ceisia weddïo am bethau eraill (Gweler paragraff 15) f

15. Pam mae’n rhaid inni fod yn llai benodol yn ein gweddïau ar adegau? (Gweler hefyd y lluniau.)

15 Y trydydd cwestiwn ydy, ‘A ddylwn i weddïo am rywbeth arall?’ Mae’n dda i fod yn benodol yn ein gweddïau, ond weithiau mae’n rhaid inni fod yn llai benodol er mwyn gweld beth mae Jehofa wir eisiau inni. Ystyria esiampl y chwaer sengl oedd wedi bod yn gweddïo am fynd i’r Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas. Mae hi eisiau mynd i’r ysgol er mwyn gwasanaethu lle mae mwy o angen. Felly wrth iddi barhau i weddïo am gael gwahoddiad i’r ysgol, gallai hefyd ofyn i Jehofa ei helpu i weld cyfleoedd eraill i ehangu ei gweinidogaeth. (Act. 16:​9, 10) Byddai’n bosib iddi hi weithredu yn unol â’i gweddïau drwy ofyn i’r arolygwr cylchdaith am ba gynulleidfa yn yr ardal sydd angen mwy o arloeswyr. Neu gallai ysgrifennu at y swyddfa gangen i ofyn am fynd i ardal lle mae mwy o angen am gyhoeddwyr y Deyrnas. e

16. Beth gallwn ni fod yn sicr ohono?

16 Fel rydyn ni wedi ei ddysgu, gallwn ni fod yn sicr y bydd Jehofa yn ateb ein gweddïau mewn ffyrdd cariadus a chyfiawn. (Salm 4:3; Esei. 30:18) Weithiau efallai na fyddwn ni’n cael yr ateb roedden ni’n ei ddisgwyl. Ond fydd Jehofa byth yn anwybyddu ein gweddïau. Mae’n ein caru ni’n fawr iawn. Ni fydd byth yn troi ei gefn arnon ni. (Salm 9:10) Felly parha i’w “drystio fe bob amser” drwy dywallt dy galon o’i flaen mewn gweddi.—Salm 62:8.

CÂN 43 Gweddi o Ddiolch

a Bydd yr erthygl hon yn esbonio pam gallwn ni fod yn sicr bydd Jehofa yn ateb ein gweddïau mewn ffyrdd cariadus a chyfiawn.

b Newidiwyd rhai enwau.

c Gweler yr erthygl “Wyt Ti’n Trystio Ffordd Jehofa o Wneud Pethau?” yn rhifyn Chwefror 2022 o’r Tŵr Gwylio, par. 3-6.

d Am fwy o wybodaeth am sut mae Jehofa yn ein helpu ni i ddal ati drwy dreialon, gweler y fideo Mae Gweddi yn Ein Helpu i Ddal Ati ar jw.org.

e Os hoffet ti wasanaethu mewn tiriogaeth cangen arall, gweler Organized to Do Jehovah’s Will, pen. 10, par. 6-9.

f DISGRIFIAD O’R LLUN: Dwy chwaer yn gweddïo cyn llenwi cais i fynd i’r Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas. Yn hwyrach ymlaen, dim ond un ohonyn nhw sy’n cael gwahoddiad. Yn lle bod yn hynod o siomedig, mae’r chwaer sydd heb gael gwahoddiad yn gweddïo am help Jehofa i ddod o hyd i ffyrdd i ehangu ei gweinidogaeth. Yna mae hi’n ysgrifennu llythyr at y swyddfa gangen, yn gwirfoddoli i wasanaethu lle mae ’na fwy o angen.