Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 25

CÂN 7 Jehofa, Ein Nerth

Cofia Mai Jehofa Yw’r “Duw Byw”

Cofia Mai Jehofa Yw’r “Duw Byw”

“Mae’r ARGLWYDD yn fyw!”SALM 18:46.

PWRPAS

Rydyn ni’n elwa’n fawr o gofio ein bod ni’n addoli’r “Duw byw.”

1. Beth sy’n helpu addolwyr Jehofa i’w wasanaethu er gwaethaf problemau?

 MAE’R Beibl yn dweud byddai’r dyddiau rydyn ni’n byw ynddyn nhw yn “hynod o anodd ac yn beryglus.” (2 Tim. 3:1) Yn ogystal â’r heriau y mae pawb yn eu hwynebu yn y system hon, mae pobl Jehofa yn gorfod delio â gwrthwynebiad ac erledigaeth. Beth sy’n ein helpu ni i barhau i addoli Jehofa er gwaetha’r problemau hyn? Un prif beth yw ein bod ni wedi dod i adnabod Jehofa fel y “Duw byw.”—Jer. 10:10; 2 Tim. 1:12.

2. Ym mha ffordd mae Jehofa yn Dduw byw?

2 Mae Jehofa yn Berson go iawn sy’n ein cynnal ni yn ystod ein treialon ac sy’n edrych am gyfleoedd i’n cefnogi ni. (2 Cron. 16:9; Salm 23:4) Gall ei weld fel y Duw byw ein helpu ni fod yn llwyddiannus wrth wynebu unrhyw brawf sy’n dod aton ni. Ystyria sut roedd hynny’n wir am y Brenin Dafydd.

3. Beth roedd Dafydd yn ei olygu pan ddywedodd fod Jehofa “yn fyw”?

3 Roedd Dafydd yn adnabod Jehofa ac yn dibynnu arno. Pan gafodd ei erlid gan ei elynion, gan gynnwys y Brenin Saul, gweddïodd Dafydd ar Jehofa am help. (Salm 18:6) Ar ôl i Dduw ateb ei weddi a’i achub, dywedodd Dafydd fod Jehofa “yn fyw!” (Salm 18:46) Gyda’r geiriau hyn, roedd Dafydd yn gwneud mwy na chydnabod bod Duw yn bodoli. Mae un cyfeirlyfr yn nodi bod Dafydd yn dangos hyder yn Jehofa “fel Duw byw sy’n gweithredu’n gyson ar ran ei bobl.” Yn wir, roedd Dafydd yn gwybod o brofiad bod ei Dduw yn fyw. Gwnaeth hynny adnewyddu ei benderfyniad i wasanaethu a chlodfori Jehofa.—Salm 18:​28, 29, 49.

4. Sut rydyn ni’n elwa o fod yn siŵr mai Jehofa ydy’r Duw byw?

4 Mae bod yn siŵr mai Jehofa yw’r Duw byw yn medru ein helpu ni i’w wasanaethu â sêl. Bydd gynnon ni’r nerth a’r cymhelliad i barhau i weithio’n galed yng ngwasanaeth Duw ni waeth ein treialon. Byddwn ni hefyd yn benderfynol o gadw’n agos at Jehofa.

BYDD Y DUW BYW YN DY GRYFHAU

5. Beth gall rhoi hyder inni wrth wynebu treialon? (Philipiaid 4:13)

5 Byddwn ni’n medru goddef unrhyw brawf, yn fawr neu’n fach, os ydyn ni’n cofio bod Jehofa yn fyw ac yn ein cynnal ni. Wedi’r cyfan, does ’na’r un broblem y byddwn ni’n ei hwynebu sydd y tu hwnt i bŵer Duw. Ef yw’r Hollalluog, a gall roi’r gallu inni ddyfalbarhau. (Darllen Philipiaid 4:13.) Felly, mae gynnon ni bob rheswm i fod yn hyderus wrth wynebu treialon. Mae’r hyder sy’n dod o brofi cefnogaeth Jehofa yn ystod treialon bach yn ein helpu ni yn ystod treialon mawr.

6. Pa brofiadau a fyddai wedi cryfhau hyder Dafydd yn Jehofa?

6 Ystyria ddau brofiad personol a gynyddodd hyder Dafydd yn Jehofa. Ar ddau achlysur pan oedd yn fugail ifanc, cafodd defaid ei dad eu cymryd gan anifeiliaid gwylltion. Un gan lew a’r llall gan arth. Aeth Dafydd ar ôl yr anifeiliaid yn ddewr ac achub y defaid. Er hynny, ni hawliodd y fuddugoliaeth iddo’i hun. Roedd yn gwybod mai Jehofa oedd y tu ôl iddo. (1 Sam. 17:​34-37) Ni anghofiodd Dafydd y profiadau hynny. Trwy fyfyrio arnyn nhw, daeth yn fwy hyderus y byddai’r Duw byw yn ei gryfhau yn y dyfodol.

7. Sut gwnaeth y safbwynt cywir helpu Dafydd i wynebu Goliath?

7 Yn nes ymlaen, mwy na thebyg tra oedd yn dal yn ei arddegau, aeth Dafydd i ymweld â gwersyll byddin Israel. Gwelodd fod y milwyr mewn ofn oherwydd bod y Philistiad anferth o’r enw Goliath wedi dod allan i ‘herio byddin Israel.’ (1 Sam. 17:​10, 11) Daeth ofn y milwyr o ganlyniad iddyn nhw ganolbwyntio ar y cawr a’r gwawd y clywson nhw ar faes y gad. (1 Sam. 17:​24, 25) Ond edrychodd Dafydd ar y sefyllfa o safbwynt gwahanol. Roedd yn gweld bod Goliath nid yn unig yn gwawdio byddin Israel, ond hefyd “byddin y Duw byw.” (1 Sam. 17:26) Roedd Jehofa ar flaen meddwl Dafydd. Roedd Dafydd yn hyderus y byddai’r Duw a oedd wedi ei helpu pan oedd yn fugail yn ei helpu eto. Gwnaeth Dafydd wynebu Goliath yn siŵr y byddai Duw yn ei gefnogi, ac wrth gwrs, fe enillodd!—1 Sam. 17:​45-51.

8. Sut gallwn ni gofio Jehofa pan ydyn ni’n wynebu treialon? (Gweler hefyd y llun.)

8 Gallwn ninnau hefyd wynebu treialon yn llwyddiannus os ydyn ni’n cofio bod y Duw byw yn barod i’n helpu ni. (Salm 118:6) Gallwn ni feithrin ein hyder yn y ffaith honno drwy ystyried yr hyn y mae wedi ei wneud yn y gorffennol. Darllena hanesion o’r Beibl sy’n dy atgoffa di o sut mae Jehofa wedi achub ei addolwyr. (Esei. 37:​17, 33-37) Ystyria hefyd adroddiadau ar jw.org sy’n dangos sut mae Jehofa’n cefnogi ein brodyr a’n chwiorydd nawr. Ar ben hynny, cofia’r adegau pan mae Jehofa wedi gweithredu ar dy ran di. Paid â phoeni os na elli di bwyntio at brofiad penodol, fel ymladd yn erbyn arth neu lew. Pam ddim? Y gwir yw: Mae Jehofa wedi bod yn rhan o dy fywyd! Mae wedi dy ddenu i berthynas ag ef. (Ioan 6:44) Hyd yn oed nawr, dim ond drwy ei help ef rwyt ti’n dal yn y gwir. Beth am ofyn iddo dy helpu di i gofio adeg pan wnaeth ef ateb gweddi, rhoi cymorth iti pan oeddet ti’n wir ei angen, neu dy gynnal drwy sefyllfa anodd? Bydd myfyrio ar brofiadau o’r fath yn cryfhau dy hyder yn Jehofa.

Mae ein hymateb i dreialon yn effeithio ar deimladau Jehofa (Gweler paragraffau 8-9)


9. Beth mae’n rhaid inni ei gofio wrth wynebu treialon? (Diarhebion 27:11)

9 Bydd gweld Jehofa fel Person byw yn caniatáu inni gael y safbwynt cywir o’n treialon. Sut felly? Byddwn ni’n gweld ein treialon fel rhan o’r broblem fwy rhwng Jehofa a Satan. Mae’r Diafol yn honni y byddwn ni’n cefnu ar Jehofa pan ydyn ni’n dioddef caledi. (Job 1:​10, 11; darllen Diarhebion 27:11.) Ond pan ydyn ni’n delio â’n treialon yn llwyddiannus, rydyn ni’n dangos ein cariad tuag at Jehofa ac yn profi’r Diafol yn gelwyddog. A wyt ti’n profi gwrthwynebiad gan y llywodraeth, problemau economaidd, ymatebion negyddol i dy bregethu, neu ryw dreial arall? Os felly, cofia fod dy sefyllfa’n rhoi’r cyfle iti ymateb mewn ffordd sy’n plesio Jehofa. Hefyd, cofia fydd Jehofa byth yn gadael iti gael dy brofi y tu hwnt i dy allu. (1 Cor. 10:13) Bydd yn rhoi’r nerth iti ddyfalbarhau.

BYDD Y DUW BYW YN DY WOBRWYO

10. Beth bydd y Duw byw yn ei wneud ar gyfer ei addolwyr?

10 Mae Jehofa yn gwobrwyo’r rhai sy’n ei addoli. (Heb. 11:6) Mae’n rhoi heddwch a bodlonrwydd inni nawr, a bydd yn rhoi bywyd tragwyddol inni yn y dyfodol. Gallwn ni obeithio yn Jehofa, yn siŵr fod ganddo’r awydd a’r gallu i’n gwobrwyo ni. Mae’r sicrwydd hynny yn ein hysgogi ni i aros yn brysur yn ein haddoliad, yn union fel y gwnaeth gweision ffyddlon Duw yn y gorffennol. Roedd hyn yn wir am Timotheus yn y ganrif gyntaf.—Heb. 6:​10-12.

11. Pam gwnaeth Timotheus weithio’n galed yn y gynulleidfa? (1 Timotheus 4:10)

11 Darllen 1 Timotheus 4:10. Rhoddodd Timotheus ei obaith yn y Duw byw. Felly, roedd ganddo reswm da dros ymdrechu’n galed. Ym mha ffyrdd? Gwnaeth yr apostol Paul ei annog i wneud cynnydd fel athro a siaradwr cyhoeddus, ac i osod esiampl dda i’w gyd-gredinwyr, yr hen a’r ifanc. Cafodd tasgau anodd ei roi i Timotheus, fel rhoi cyngor cryf ond cariadus i’r rhai a oedd yn ei angen. (1 Tim. 4:​11-16; 2 Tim. 4:​1-5) Roedd Timotheus yn gallu bod yn sicr y byddai Jehofa yn ei wobrwyo, hyd yn oed os nad oedd eraill yn gweld ei waith na’i werthfawrogi.—Rhuf. 2:​6, 7.

12. Pam mae henuriaid yn dal ati i weithio’n galed yn y gynulleidfa? (Gweler hefyd y llun.)

12 Gall henuriaid heddiw hefyd fod yn sicr bod Jehofa’n gweld ac yn gwerthfawrogi eu gwaith da. Yn ogystal â bugeilio, dysgu, a phregethu, mae llawer o henuriaid yn cefnogi prosiectau adeiladu ac ymdrechion i roi cymorth ar ôl trychineb. Mae eraill yn ymweld â chleifion yn yr ysbyty neu’n gwasanaethu ar Pwyllgorau Cyswllt Ysbytai (HLC). Mae henuriaid sy’n gwneud gwaith o’r fath yn gwybod bod y gynulleidfa yn perthyn i Jehofa ac nid i ddynion. O ganlyniad, maen nhw’n gwneud eu gorau glas yn eu haseiniadau, gan wybod y bydd Duw yn eu gwobrwyo nhw.—Col. 3:​23, 24.

Bydd y Duw byw yn dy wobrwyo di wrth iti weithio’n galed yn y gynulleidfa (Gweler paragraffau 12-13)


13. Sut mae Jehofa’n teimlo am ein hymdrechion i’w wasanaethu?

13 Nid pawb a all fod yn henuriad. Ond mae gan bob un ohonon ni rywbeth i’w gynnig i Jehofa. Mae ein Duw yn gwerthfawrogi pan fyddwn ni’n gwneud ein gorau i’w wasanaethu. Mae’n sylwi ar ein cyfraniadau i’r gwaith byd-eang, hyd yn oed os ydyn nhw’n fach iawn. Mae’n hapus pan fyddwn ni’n codi llaw i ateb er gwaethaf swildod, ac mae’n llawenhau pan fyddwn ni’n maddau i eraill. Hyd yn oed os wyt ti’n teimlo nad wyt ti’n gallu gwneud llawer, trystia fod Jehofa’n gwerthfawrogi’r hyn rwyt ti’n ei wneud. Mae’n dy garu di am hynny, a bydd yn dy wobrwyo di.—Luc 21:​1-4.

ARHOSA’N AGOS AT Y DUW BYW

14. Sut mae aros yn agos at Jehofa yn ein helpu ni i aros yn ffyddlon iddo? (Gweler hefyd y llun.)

14 Os yw Jehofa yn real inni, bydd hi’n haws inni aros yn ffyddlon iddo. Roedd hynny’n wir am Joseff. Gwrthododd anfoesoldeb oherwydd bod Duw yn real iddo a doedd ddim eisiau ei siomi. (Gen. 39:9) Er mwyn i Jehofa fod yn real inni, mae angen inni neilltuo amser i weddïo ac i astudio ei Air. O ganlyniad, bydd ein perthynas ag ef yn cryfhau. Pan fydd gynnon ni, fel Joseff, berthynas agos â Jehofa, fyddwn ni ddim eisiau gwneud unrhyw beth sydd ddim yn ei blesio.—Iago 4:8.

Bydd nesáu at y Duw byw yn dy helpu di i aros yn ffyddlon (Gweler paragraffau 14-15)


15. Pa wers gallwn ni ei dysgu o’r hyn a ddigwyddodd i’r Israeliaid tra oedden nhw yn yr anialwch? (Hebreaid 3:12)

15 Mae’n hawdd i’r rhai sy’n anghofio mai Jehofa yw’r Duw byw droi’n anffyddlon. Ystyria beth ddigwyddodd i’r Israeliaid pan oedden nhw yn yr anialwch. Roedden nhw’n gwybod bod Jehofa’n bodoli, ond dechreuon nhw amau a fyddai ef yn darparu ar eu cyfer nhw. Roedden nhw hyd yn oed yn gofyn: “Ydy’r ARGLWYDD gyda ni neu ddim?” (Ex. 17:​2, 7) Ar ôl hynny, gwnaethon nhw wrthryfela yn erbyn Duw. Yn wir, mae angen inni osgoi dilyn eu hesiampl ddrwg o anufudd-dod.—Darllen Hebreaid 3:12.

16. Beth gall ei gwneud hi’n anodd inni gadw ein ffydd yn gryf?

16 Mae’r byd yn ei gwneud hi’n anodd inni aros yn agos at Jehofa. Mae llawer yn gwrthod y syniad bod Duw yn bodoli. Yn aml, gall edrych fel bod pobl sy’n anwybyddu gofynion Jehofa yn cael bywyd da. Pan welwn ni hynny’n digwydd, gall roi prawf ar ein ffydd. Er na fyddwn ni’n gwadu bod Duw yn bodoli, gallwn ni ddechrau meddwl: ‘Tybed a fydd Jehofa’n gweithredu ar ein rhan?’ Gwnaeth awdur Salm 73 ofyn rhywbeth tebyg. Gwelodd y rhai o’i gwmpas yn anwybyddu deddfau Duw ac yn dal i fwynhau bywyd. O ganlyniad, dechreuodd gwestiynu gwerth gwasanaethu Duw.—Salm 73:​11-13.

17. Beth fydd yn ein helpu ni i aros yn agos at Jehofa?

17 Beth helpodd y salmydd i gywiro ei safbwynt? Myfyriodd ar beth fyddai’n digwydd i’r rhai sy’n anghofio Jehofa. (Salm 73:​18, 19, 27) Ystyriodd hefyd y manteision sy’n dod o wasanaethu Duw. (Salm 73:24) Gallwn ninnau hefyd fyfyrio ar y bendithion mae Jehofa wedi eu rhoi inni. Dychmyga sut byddai dy fywyd petaset ti ddim yn gwasanaethu Jehofa. Gall gwneud hynny dy helpu di i aros yn ffyddlon a dod i’r un casgliad â’r salmydd: “Dw i’n gwybod mai cadw’n agos at Dduw sydd orau.”—Salm 73:28.

18. Pam gallwn ni wynebu’r dyfodol yn hyderus?

18 Gallwn ni wynebu unrhyw heriau a ddaw yn ystod y dyddiau olaf oherwydd ein bod ni’n ‘gwasanaethu’r Duw byw a gwir.’ (1 Thes. 1:9) Mae ein Duw yn berson go iawn sy’n gweithredu ar ran ei addolwyr. Dangosodd ei fod wedi cefnogi ei weision yn y gorffennol, ac mae’n ein cefnogi ni heddiw. Cyn bo hir, byddwn ni’n wynebu’r trychineb mwyaf erioed ar y ddaear. Ond fyddwn ni ddim ar ein pennau ein hunain. (Esei. 41:10) Gad inni i gyd fod “yn llawn hyder a dweud: ‘Jehofa ydy fy helpwr; dydw i ddim yn mynd i ofni.’”—Heb. 13:​5, 6.

CÂN 3 Ein Nerth, Ein Gobaith, Ein Hyder