Oeddet Ti’n Gwybod?
A oedd y Rhufeiniaid yn caniatáu i rywun, fel Iesu, gael ei gladdu yn y ffordd arferol ar ôl cael ei ladd ar stanc?
MAE’R hanes am Iesu yn cael ei hoelio ar stanc rhwng dau droseddwr yn un enwog. (Math. 27:35-38) Ond mae dadlau wedi bod ynglŷn â beth ddigwyddodd wedyn. Mae rhai wedi amau cywirdeb y Beibl wrth iddo sôn am gorff Iesu yn cael ei baratoi ar gyfer ei gladdu a’i roi mewn beddrod.—Marc 15:42-46.
Maen nhw’n meddwl ei bod hi’n fwy tebygol y byddai’r rhai a gafodd eu dienyddio ar y stanc yn cael eu trin mewn ffordd wahanol. Mae Ariel Sabar yn esbonio pam maen nhw’n meddwl hynny yng nghylchgrawn y Smithsonian: “Dim ond pobl waethaf y gymdeithas oedd yn cael eu croeshoelio. Mae rhai yn meddwl ei bod yn hollol hurt y byddai’r Rhufeiniaid wedyn yn eu claddu nhw mewn ffordd urddasol.” Roedd y Rhufeiniaid eisiau codi cymaint o gywilydd â phosib ar droseddwyr, hyd yn oed ar ôl iddyn nhw farw. Felly yn aml, byddai’r cyrff yn cael eu gadael ar y stanc er mwyn i anifeiliaid gwyllt gael eu bwyta. Efallai wedyn byddai unrhyw beth oedd ar ôl yn cael ei gladdu mewn bedd gyda chyrff eraill.
Ond ym 1968, gwnaeth archaeolegwyr ddarganfod rhywbeth sy’n dangos fel arall, yn achos rhai o’r Iddewon cafodd eu lladd o leiaf. Beth oedd hynny? Daethon nhw ar draws bocs oedd yn llawn esgyrn dyn a gafodd ei ddienyddio yn y ganrif gyntaf. Roedd y bocs mewn beddrod teulu cyffredin yn agos i Jerwsalem. Beth oedd yn ddiddorol am hyn oedd yr hoelen 11.5 centimetr (4.5 modfedd) o hyd, oedd yn mynd drwy asgwrn y sawdl ac yn ei ddal yn sownd wrth ddarn o bren. Dywedodd Sabar: “Yehochanan oedd enw’r dyn, ac mae ei sawdl yn dystiolaeth bod yr hanes am sut cafodd Iesu ei gladdu yn gallu bod yn wir.” Mae hyn yn arwyddocaol oherwydd mae “sawdl Yehochanan yn dangos, nid yn unig fod hyn wedi digwydd yn nyddiau Iesu, ond hefyd bod y Rhufeiniaid wedi caniatáu iddo gael ei gladdu yn y ffordd Iddewig, er ei fod wedi cael ei groeshoelio.”
Dydy’r asgwrn hwn ddim yn ateb pob cwestiwn am sut gafodd Iesu ei hongian ar y stanc. Ond mae’n ei gwneud hi’n glir bod rhai troseddwyr wedi cael eu claddu ag urddas, yn hytrach na chael eu taflu i fedd gyda chyrff eraill. Roedd hynny’n wir hyd yn oed yn achos rhai a gafodd eu lladd ar y stanc. Mae’r dystiolaeth hefyd yn cefnogi’r hyn mae’r Beibl yn ei ddweud am beth ddigwyddodd i gorff Iesu.
Mae’n bwysig cofio hefyd bod Jehofa wedi rhagfynegi y byddai Iesu’n cael ei gladdu mewn bedd dyn cyfoethog. A dyna’n union a ddigwyddodd. All neb rwystro Gair Duw rhag cael ei gyflawni.—Esei. 53:9; 55:11.